Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 16 Hydref 2019.
Rwy'n falch iawn o gefnogi menter Huw Irranca, oherwydd ni allwn barhau i fwyta plastig ac anadlu gronynnau plastig yn yr aer a anadlwn. Ni allwn sefyll o'r neilltu a gwneud dim i atal y mynyddoedd plastig rydym yn eu creu rhag cynyddu ymhellach, yn ôl y briff a gawsom gan yr amrywiol elusennau sy'n cefnogi'r fenter hon, oherwydd ein methiant i ddod o hyd i ddewisiadau eraill mwy cynaliadwy ar gyfer eitemau technoleg isel bob dydd, pan fo cymaint o ddeunyddiau amgen eraill y gallwn eu defnyddio.
Gallwn ymfalchïo yn ein henw da am ailgylchu yng Nghymru, gan ein bod yn drydydd yn y byd, ond mae angen inni wneud mwy—ni allwn sefyll o'r neilltu a gwylio ein cefnforoedd yn cael eu gwenwyno. Yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun, roeddem yn edrych ar ein perfformiad o ran ailgylchu trefol ac mae dau beth a glywsom wedi aros yn fy meddwl. Un yw bod y bagiau startsh ŷd ar gyfer ailgylchu bwyd a gaiff eu dosbarthu'n rhad ac am ddim gan lawer o awdurdodau lleol, ond y bydd eraill yn codi tâl amdanynt, yn tagu'r peirianwaith a ddefnyddir i brosesu gwastraff bwyd mewn gwirionedd, a bod llawer o awdurdodau lleol bellach yn mynd i droi'n ôl at ofyn i bobl ei roi mewn bagiau plastig yn lle hynny, a byddent yn eu tynnu wedyn o'r gwastraff bwyd yn y safle ailgylchu. Nawr, mae hynny'n ymddangos yn wallgofrwydd llwyr i mi. Beth sydd o'i le ar ychydig o bapur newydd i lapio eich sglodion neu eich gwastraff bwyd ynddo? Mae honno i'w gweld yn ffordd lawer gwell o leinio'r cadi bwyd, ac nid wyf yn deall pam nad yw awdurdodau lleol yn symud yn syth at y deunydd llawer mwy cynaliadwy a llai niweidiol hwnnw.
Yn ail, clywsom fod ailgylchu sbwriel wrth fynd mewn digwyddiadau cyhoeddus mawr fel digwyddiadau chwaraeon ar gam cynnar iawn—nad oedd pobl wedi cael y syniad mewn gwirionedd, os oes gennych botel yn eich llaw, y gallwch naill ai ei thaflu ar y llawr neu ei rhoi yn y bin gwastraff gweddilliol. Roedd yn wych gweld bod biniau ar wahân wedi'u darparu yn yr Eisteddfod fel y gallai pobl ei roi yn y bin plastig, y bin papur neu'r bin gwastraff gweddilliol, ond mae'n galw am gryn dipyn o oruchwyliaeth.
Felly, hoffwn ganmol y bobl a drefnodd Hanner Marathon Caerdydd yn gynharach y mis hwn, oherwydd fe wnaethant ymdrechu'n galed iawn i sicrhau, pan fydd gennym y digwyddiadau mawr hyn—ac yn amlwg, mae marathon yn galw am weithredu dros ardal eithaf helaeth, ac nid mewn un cae yn unig—roeddent wedi meddwl o ddifrif am y math o bethau yr oedd angen iddynt eu gwneud. I ddechrau, roeddent yn cyflogi tîm glanhau i weithio yn y digwyddiad gyda chyfranogwyr, i sicrhau nad oedd gwastraff yn cael ei halogi gan ei atal rhag cael ei ailgylchu wedyn; rhaid oedd peidio â rhoi bwyd gyda gwastraff deunydd caled ailgylchadwy; a buont hefyd yn gweithio gyda'u partner dŵr, Brecon Carreg, i gynnig poteli dŵr llai o faint o blastig ailgylchadwy, er mwyn galluogi pobl i ddeall pwysigrwydd ailgylchu a chynaliadwyedd. Maent wedi—