6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Defnyddio Plastigau Untro

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 4:41, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies a'r holl Aelodau sydd wedi bod yn rhan o gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Credaf fod cryfder y gefnogaeth drawsbleidiol i siaradwyr yn y ddadl yn dyst i'r angerdd amhleidiol yn y maes hwn, angerdd a rannaf yn bersonol ac yn wleidyddol. Credaf fod y diddordeb mewn mynd i'r afael â'r defnydd o blastig untro yn y fan hon, yn y lle hwn, hefyd yn adlewyrchu, ac efallai wedi'i lywio'n rhannol gan yr hyn a glywaf yn uchel ac yn glir ar draws y wlad, boed gan ein heco-ysgolion neu gan ein cymunedau sy'n gweithredu i roi diwedd ar y defnydd o blastig untro. Mae llawer iawn o ymrwymiad ac ewyllys da ar draws y wlad i sbarduno newid yn faint o blastig a ddefnyddiwn a lleihau'r defnydd o blastig untro ac rwy'n cefnogi hynny'n frwd.  

Ar y cychwyn, rwyf am egluro fy mod yn sicr yn cytuno ag Aelodau sy'n galw arnom i atal neu leihau cynnyrch a deunydd pacio plastig dianghenraid neu ddeunydd na ellir ei ailgylchu. Rwy'n awyddus i fynd ymhellach ac yn gyflymach yn y maes hwn, ond yn gyntaf, rwyf am grybwyll yn fyr iawn yr hyn rydym wedi'i wneud a'r hyn rydym yn ei wneud. Gallwn ymfalchïo, fel y dywedodd yr Aelodau, yn yr hyn a wnaethom hyd yma. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau plastig yn 2011, ac rydym yn arweinydd byd-eang mewn perthynas ag ailgylchu, gyda phlastig ymhlith y deunyddiau a gesglir gyda deunyddiau eraill o bob cartref yng Nghymru.  

Rydym wedi lansio ymgynghoriad yn ddiweddar, sydd, i bob pwrpas, yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gasglu deunyddiau ar wahân ar gyfer eu casglu i'w hailgylchu, yn union fel y mae deiliaid tai yng Nghymru wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd. O ganlyniad i hyn bydd mwy o ddeunyddiau o ansawdd uchel yn cael eu gwahanu i'w hailgylchu a llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi. Ond fel y clywsoch yma heddiw, er mwyn mynd i'r afael o ddifrif â gwastraff plastig a llygredd, gwyddom fod yn rhaid i ni fynd y tu hwnt i ailgylchu a lleihau gwastraff yn y lle cyntaf.

Roedd agoriad Huw Irranca-Davies yn sôn am ddull ehangach o fynd ati i wahardd rhai eitemau plastig untro. Dyna pam ein bod am gyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiad ar werthu'r 10 eitem blastig untro fwyaf cyffredin. Bydd hyn yn cynnwys gwellt, trowyr diodydd, ffyn cotwm, cyllyll a ffyrc plastig untro, a deunydd pacio bwyd polystyren ehangedig a chynwysyddion diod.  

Er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf sy'n bosibl, rydym wedi bod yn cydweithio â Llywodraethau eraill i sicrhau newid ehangach ac rydym eisoes wedi cyhoeddi ein bod yn datblygu diwygiadau i'r gyfundrefn deunydd pacio drwy gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a datblygu argymhellion i gynhyrchu cynllun dychwelyd ernes ochr yn ochr â Llywodraeth y DU.  

Rwyf am ei gwneud yn glir i'r Aelodau, er ein bod yn gweithio'n ddiwyd gyda chymheiriaid ledled y DU yn Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar gynigion deddfwriaethol ac angen Gorchymyn i weithredu ar blastig untro—clywn gan fusnesau a defnyddwyr y byddai hyn yn gwneud pethau'n haws yn gyffredinol i bawb—yn yr un modd hoffwn sicrhau Aelodau nad oes arnom ofn gweithredu ar ein pen ein hunain os oes angen, ac rydym wedi ymrwymo i weithio'n gyfochrog â hwy.

Mae Bil Amgylchedd y DU a gyflwynwyd ddoe yn cynnwys darpariaethau a fydd yn ein galluogi i ddatblygu rheoliadau newydd yng Nghymru ar gyfer mentrau sy'n sicrhau newid sylfaenol megis cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, cynlluniau dychwelyd ernes, taliadau am eitemau plastig untro a labelu amgylcheddol a safonau ar gyfer cynhyrchion—pob un yn llwybrau rwyf wedi ymrwymo i'w dilyn. Fodd bynnag, fel y dywedais, er ein bod wedi ymrwymo i weithio ar y cyd, mewn modd trawsffiniol, nid oes arnom ofn gweithredu ar ein pennau ein hunain lle mae angen a bwrw ymlaen â phethau y gallwn eu gwneud ar sail Cymru'n unig hefyd.

Lywydd, dechreuais drwy nodi fy nghefnogaeth i alwadau'r Aelodau am weithredu ar blastigau untro, a'n nod fel rhan o hyn yw symud tuag at economi fwy cylchol yng Nghymru, lle y caiff gwastraff ei osgoi a lle y cedwir adnoddau mewn defnydd cyn hired ag y bo modd. Mae hyn nid yn unig yn lleihau gwastraff, mae hefyd yn rhan allweddol o'r camau gweithredu sydd eu hangen ar newid yn yr hinsawdd, ac ar ddiwrnod ein cynhadledd hinsawdd gyntaf, mae'n sicrhau cyfleoedd economaidd ehangach a mwy fel rhan o'r newid i economi carbon isel. A gwn fod llawer o fusnesau eisoes yn troi oddi wrth blastigau untro.

Mae Aelodau wedi codi'r posibilrwydd o gyflwyno Bil plastigau untro, ac mae'n iawn ein bod yn anelu at atal neu leihau cynhyrchion a deunydd pacio plastig diangen na ellir eu hailgylchu lle y gallwn wneud hynny. Rwyf wedi ymrwymo i weithredu i leihau ein defnydd o gwpanau coffi untro a chwpanau untro eraill ar gyfer diodydd. Mae amrywiaeth o opsiynau'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd—opsiynau sy'n cynnwys ardollau, taliadau neu drethi posibl. Er ein bod am i bethau ddigwydd cyn gynted ag y bo modd, credaf fod yr Aelodau wedi cydnabod ei bod yn amlwg, yn anffodus, fod yna brosesau i fynd drwyddynt ac y gall rhai pethau fod yn eithaf cymhleth, ac mae angen inni sicrhau, os gwnawn bethau, ein bod yn eu gwneud yn y ffordd gywir heb unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Felly, tra bod y cynigion hyn yn cael eu llunio a'u cwblhau, rwyf wedi gofyn i swyddogion nodi mesurau a chamau eraill y gallem eu cymryd i arwain y ffordd yng Nghymru yn llawer cynt—camau a allai adeiladu ar y llu o fentrau gwirfoddol a ddatblygwyd gan gwmnïau ledled y DU. Er enghraifft, rwy'n credu bod un neu ddau o'r Aelodau wedi cyffwrdd â'r gwastraff a gynhyrchir gan ddigwyddiadau mawr neu stadia, ac er ein bod wedi gweld newid o ran arferion da ac arferion gorau yn rhai o'r digwyddiadau a'r gweithgareddau y mae'r Aelodau wedi eu crybwyll yn y ddadl hon heddiw ac wedi gweld camau ymlaen, efallai fod arnom angen ychydig o ymdrech eto i gael y maen i'r wal ar y gwaith hwnnw yn awr.

Fel Llywodraeth, rydym yn cytuno bod yn rhaid i ddatrys her llygredd plastig fod yn ganolog i'n hymdrechion i leihau gwastraff ac mae angen dull gweithredu cynhwysfawr ac uchelgeisiol. Rwyf eisoes wedi crybwyll wrth yr Aelodau y byddwn yn cyhoeddi strategaeth newydd a chynhwysfawr ar gyfer ymgynghori arni yn ddiweddarach eleni, strategaeth a fydd yn adeiladu ar ein cynnydd cynharach gyda strategaeth 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'. Bydd yn nodi cynllun i roi camau pellach ar waith ar blastigau a deunyddiau eraill. Bydd yn ddull strategol, traws-sector o fynd i'r afael â llygredd plastig, a deunyddiau eraill yn ogystal. Fel y mae Aelodau wedi sôn heddiw, hanfod hyn oll yw ein defnydd o ddeunyddiau untro. Ac rwyf am dangos i'r Aelodau gyda'r strategaeth hon ein bod yn sôn yn aml am strategaethau'n cael eu hysgrifennu, a'u cwblhau cyn eu gosod ar y silff, ond rwy'n awyddus i hyn fod yn llawer mwy arloesol a bod yn rhan o sgwrs weithredol a darparu llwyfan ar gyfer gweithredu a cherrig milltir gweladwy.

Rwy'n gwybod bod angen i mi orffen, Lywydd, felly i grynhoi, clywsom lawer o syniadau, llawer o arbenigedd ac mae llawer o frwdfrydedd yn y maes hwn, a hoffwn ei botelu a mynd ag ef gyda mi, ond rwy'n sicrhau'r Aelodau y buaswn yn gwneud hynny mewn potel y gellir ei hailddefnyddio a'i hail-lenwi. Ond yn wir, i gloi, i dawelu meddwl yr Aelod, hoffwn ddweud fy mod yn awyddus i edrych ar y modd y byddwn yn sefydlu ffordd o ddod â phobl at ei gilydd, er mwyn ein cael mewn ystafell ac o amgylch y bwrdd i siarad am y syniadau hyn a sut y bwriadwn eu rhoi ar waith a'u datblygu, a hefyd, yn bwysig, er mwyn creu mecanwaith i alluogi cymunedau ledled y wlad i gyfrannu at hyn. O'r hyn a glywais heddiw yn y ddadl hon a'r gwaith gyda rhanddeiliaid a dinasyddion fel ei gilydd ac o fewn y Llywodraeth, gwn ein bod, gyda'n gilydd ac ar y cyd, yn parhau i arwain y ffordd yng Nghymru tuag at fyd mwy cynaliadwy a dyfodol sy'n gweithio er budd ein hamgylchedd, ein cymunedau a'n heconomi. Diolch yn fawr.