7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: y Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 5:05, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Dilynodd yr ymchwiliad hwn y gwaith a wnaeth fy nghyd-Aelod, Siân Gwenllian, pan oedd yn aelod o’r pwyllgor hwn o’r blaen drwy dynnu sylw at rai o’r anawsterau a gafodd eu creu gan wendidau drafftio’r rheoliadau gwreiddiol. Roedd problemau wedi codi pan ddaeth yn amlwg nad oedd Llywodraeth Cymru yn gallu egluro manylion pan oedd awdurdodau lleol yn wynebu anawsterau gyda gweithredu'r cynllun. Felly, rwy'n falch iawn fod ein pwyllgor wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei chanllawiau i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eglurder fel y gall sefydliadau cymwys wneud cais am fathodyn glas yn eu hawl eu hunain. Ac wrth gwrs, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Fodd bynnag, yn wreiddiol, gwrthododd Llywodraeth Cymru naw o’r 19 argymhelliad a wnaed gan y pwyllgor, ac mae hynny’n syfrdanol mewn gwirionedd. Gan synhwyro pa mor wael y gallai hynny edrych, maent wedi cytuno wedi hynny i dderbyn tri argymhelliad pellach mewn egwyddor, gan ddod â chyfanswm yr argymhellion a wrthodwyd i ychydig llai na thraean o'r cyfanswm. Mae'r argymhellion a wrthodwyd yn cynnwys hyfforddi'r holl staff sydd ynghlwm wrth asesiadau yn y model cymdeithasol o anabledd ac i'r ddeddfwriaeth ddarparu ar gyfer proses adolygu i bobl allu herio penderfyniad.

Nawr, sawl gwaith y gwelsom Aelodau Cynulliad Llafur yn y lle hwn yn nodi annhegwch asesiadau ar gyfer anabledd pan gânt eu cynnal gan yr Adran Gwaith a Phensiynau? Sawl gwaith y gwnaethom gydnabod pwysigrwydd apeliadau yn erbyn eu penderfyniadau a phwysigrwydd sicrhau bod staff yn deall yr anghenion a'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu? Rydym yn canfod dro ar ôl tro fod problem gyda'r sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd mewn perthynas ag asesu pobl anabl, a dim ond pan fydd gennym brosesau apelio cadarn a staff wedi'u hyfforddi'n briodol y gwelwn fod y problemau hyn wedi’u lleihau. Felly, rwy'n siomedig fod yr argymhellion hyn wedi'u gwrthod. A’r rheswm a roddwyd—nad oes gennych amser i’w wneud—wel, mae’r ffeithiau’n dangos, yn nhymor y Cynulliad hwn, fod llai o ddeddfwriaeth wedi bod nag a gafwyd yn nhymor diwethaf y Cynulliad, felly nid wyf yn derbyn yr esgus hwnnw. Mae'n ymwneud mwy â syrthni a'r Llywodraeth yn ystyried hwn fel mater dibwys y credai ei bod wedi'i ddatrys gyda'i rheoliadau a ddrafftiwyd yn wael.

Rwyf fi, a llawer o Aelodau Cynulliad eraill hefyd, rwy'n siŵr, yn cyfarfod â digon o bobl trwy gymorthfeydd, neu sy'n cysylltu â fy swyddfa—pobl sydd wir angen bathodyn glas. Mae yna bob amser fwy o geisiadau nag y gall y cyngor ddarparu ar eu cyfer. Mae'n ymddangos nad yw llawer o gynghorau ond yn cyhoeddi nifer gyfyngedig o fathodynnau glas bob blwyddyn. Gwn fod yn rhaid mynd i'r afael â phryderon ynghylch twyll a gwn fod y tir sydd ar gael ar gyfer parcio yn gyfyngedig, ond mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod dinasyddion Cymru a allai fod â salwch, anableddau neu broblemau symudedd am resymau eraill yn gallu mynd allan a byw bywyd mor llawn ag y gallant. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r epidemig iechyd meddwl cynyddol sy'n gysylltiedig ag unigrwydd cynyddol. Gall bathodyn glas olygu'r gwahaniaeth rhwng cael bywyd neu fod yn garcharor yn eich cartref eich hun. Felly, rwy’n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth yn myfyrio ar hynny ac yn cydnabod eu cyfrifoldebau o ran atal salwch meddwl ac unigrwydd wrth ystyried y cynllun bathodyn glas hwn.