Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 16 Hydref 2019.
Er fy mod bellach yn aelod o'r pwyllgor, nid oeddwn yn aelod ar yr adeg y cynhaliwyd yr ymchwiliad, ond hoffwn ddiolch i bawb a fu’n casglu'r dystiolaeth a chyflwyno'r adroddiad ar fater mor bwysig i gynifer o bobl sy'n defnyddio'r cynllun bathodyn glas. Ac fel Aelodau eraill, rwy'n gweld llawer o'r rhain yn dod trwy fy swyddfa’n rheolaidd, ac mewn gwirionedd, mae'r staff yn fy swyddfa wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt yn gwrthdroi nifer o apeliadau a chael achosion wedi’u hadolygu gyda'r awdurdod lleol. Felly, mae yna broses lle y gall hynny ddigwydd, ond gall fod yn feichus a gall achosi oedi ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam roeddwn i eisiau siarad. Oherwydd, fel sy'n digwydd yn aml, pan gawn adroddiad wedi'i gyflwyno fel hyn, byddwn yn gweld rhannau o waith achos wedyn sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r adroddiad a gyhoeddwyd.
Felly, rwy'n mynd i gyfyngu fy sylwadau i faes penodol sydd wedi'i ddwyn i fy sylw gan etholwr, ac mae'n fater sy'n gysylltiedig ag argymhelliad 4 ynghylch cyflwyno cynlluniau parcio rhatach dros dro ar gyfer rhai achosion tymor byr. Nawr, rwy’n sylweddoli bod argymhelliad 4 wedi’i wrthod gan y Llywodraeth, ond mae wedi dweud y bydd yn cynnwys hyn yn yr adolygiad a nodwyd yn argymhelliad 1, gan roi ystyriaeth i’r cynllun cerdyn Just Can't Wait. Felly, yn yr un adolygiad, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi ystyried y mater cysylltiedig a grybwyllwyd wrthyf gan ddeiliad bathodyn glas yn fy etholaeth a wynebodd oedi wrth adnewyddu ei gais? Lle mae oedi’n digwydd wrth adnewyddu bathodyn glas, awgrymodd yr etholwr wrthyf y gellid rhoi awdurdodiad dros dro, tebyg i'r un sydd ar gael i'r rheini sydd ag anableddau tymor byr, nes bod y materion sydd angen eu hegluro neu unrhyw anghydfod ynghylch tystiolaeth arall wedi'i ddatrys, oherwydd, fel y mae pethau ar hyn o bryd, maent yn cwympo i’r bwlch rhwng yr amser y maent yn gwneud cais am adnewyddiad tan yr amser y caiff ei roi—mae ganddynt gyfnod o amser lle nad oes ganddynt fathodyn glas mewn gwirionedd. Mae fy etholwr yn dadlau'n gywir y byddai hynny'n golygu y gallai unigolion gynnal lefel dderbyniol o symudedd wrth iddynt aros i'r mater ynghylch adnewyddu gael ei ddatrys.
Nawr, gwn na dderbyniodd y pwyllgor dystiolaeth benodol ar y pwynt rwy’n ei ddwyn i’ch sylw, ac felly, ni fydd wedi clywed tystiolaeth yn ei gylch. Felly, rwy’n ei ddwyn i’ch sylw yn awr, Weinidog, ac yn gofyn a wnewch chi edrych ar hynny fel rhan o'ch adolygiad i sicrhau nad yw pobl yn cwympo i'r bwlch pan fyddant yn adnewyddu bathodyn glas sydd ganddynt eisoes.