Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 16 Hydref 2019.
Roeddwn yn aelod o'r pwyllgor pan ddechreuodd yr ymchwiliad hwn, ond nid oeddwn yn aelod pan ddrafftiwyd yr argymhellion, felly rwy'n falch iawn o ymuno yn y ddadl. Rwy'n credu bod yna sawl peth y mae'n rhaid i ni eu cofio. Un yw po fwyaf y byddwn yn cyfyngu ar y defnydd o geir oherwydd materion iechyd cyhoeddus yn ymwneud ag ansawdd aer neu geisio gwneud canolfannau siopa yn fwy deniadol i bobl, i gerddwyr, mae angen i ni sicrhau nad yw bathodynnau glas yn cael eu defnyddio'n dwyllodrus i osgoi’r cyfyngiadau hyn ac i'w hatal rhag gorfod talu am y fraint o ddefnyddio’u ceir ar strydoedd gorlawn. Oherwydd mewn rhannau o Lundain, mae'r bathodynnau glas yn newid dwylo am brisiau premiwm ar y farchnad ddu oherwydd eu bod yn caniatáu i yrwyr barcio yn unrhyw le, a pheidio â gorfod talu i fynd i ganol Llundain. Felly rwy'n credu bod hwn yn fater sylweddol. Yn sicr mae’n fater sylweddol yno. Cynghorir pobl â bathodynnau glas i beidio â gadael eu bathodynnau anabl yn weladwy yn eu ceir, yn enwedig dros nos, oherwydd fel arall mae rhywun yn mynd i dorri i mewn a dwyn y bathodynnau. Felly mae angen i ni sicrhau na chaniateir i'r sefyllfa honno ddatblygu yn ein dinasoedd.
Credaf fod yr adolygiad yn bwysig, i edrych ar y meini prawf cymhwystra ac i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n rhesymegol, ac os dywedir wrth rywun y byddant yn colli eu golwg yn ystod yr wythnosau nesaf, mae'n amlwg y bydd angen rhoi trefniadau ar waith yn gyflym i sicrhau bod eu hanghenion anabledd yn mynd i gael eu diwallu. Ond ar yr un pryd, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n cydgysylltu’r cyfan. Rwy'n credu bod angen i awdurdodau lleol edrych ar sut y mae darparu bathodyn glas yn cydblethu â darparu man parcio anabl y tu allan i gartref rhywun, oherwydd gall fod gennych gar ond os na allwch barcio'n ddigon agos i lle rydych chi'n byw, gall fod yn rhwystr difrifol i allu defnyddio'r bathodyn anabl hwnnw. Mae gennyf etholwr ag anabledd corfforol parhaus, ac mae ei rhieni'n awyddus iawn i sicrhau bod eu merch yn byw bywyd mor egnïol â phosibl, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt ei chludo i weithgareddau ar ôl ysgol mewn car, gan y byddai'n ei chael hi'n anodd iawn mynd â’i chadair olwyn ar fws a gwneud ei ffordd i leoliad y gweithgaredd. Mae'r stryd gul lle mae'n byw yn llawn o bobl sydd wedi’u bendithio â digon o arian i gael car, neu hyd yn oed ddau gar, ac yn ffodus mae'r cymdogion i gyd yn cefnogi eu cais am fan parcio anabl, ond mae’n parhau i gael ei wrthod ar y sail fod yr awdurdodau lleol yn ymweld yng nghanol y dydd, ac maent yn hysbysu'r teulu nad oes anhawster parcio yng nghanol y dydd—am fod pawb wedi defnyddio'u ceir i fynd i'r gwaith. Ond nid dyna pryd y mae angen iddynt barcio. Mae angen iddynt barcio ar ddiwedd y dydd, ac mae angen i'w plentyn allu mynd i mewn i'r tŷ heb gymhlethdodau enfawr.
Gan droi at y rhai na allant fforddio cael car, rwy’n credu ei bod yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 8 i gyflymu’r gwaith o sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth, fel y gall y rhai sydd â phrofiad byw o anabledd roi cyngor ar y ffordd orau o ddiwallu anghenion yr holl ddinasyddion anabl. Mae hynny'n cynnwys pobl nad oes ganddynt gar, pobl nad ydynt erioed wedi dysgu gyrru, pobl na all eu teuluoedd fforddio car, ond sydd ag anghenion anabledd er hynny sy'n eu hatal rhag taro i’r siop heb orfod meddwl am y peth a'i wneud yn weithgaredd diwrnod cyfan yn lle hynny. Mae sgwteri anabledd wedi trawsnewid bywydau llawer o bobl, ac mae bob amser yn hyfryd gweld pobl oedrannus yn rhoi pas i'w hwyrion ar eu sgwteri. Ond roeddwn yn meddwl hefyd tybed a wnaiff y Llywodraeth roi rhywfaint o ystyriaeth i rôl beiciau trydan, sy'n llai anhylaw ac sy'n gallu mynd o gwmpas corneli’n gynt o lawer na sgwter anabledd, yn enwedig mewn mannau prysur.
Rwyf hefyd yn siomedig eich bod wedi gwrthod argymhelliad 16, oherwydd credaf y bydd hyd yn oed deiliaid bathodynnau anabl yn torri'r rheolau. Byth a beunydd, rwy’n gofyn i bobl symud oddi wrth y palmant isel y tu allan i fy swyddfa etholaethol er mwyn galluogi pobl mewn cadeiriau olwyn i groesi'r ffordd. Ac maent yn dweud, ‘Ond mae gennyf fathodyn anabledd,’ ac rwy'n dweud, ‘Efallai fod gennych chi fathodyn anabledd, ond parciwch ychydig ymhellach i lawr dyna i gyd, fel bod y rhai sydd mewn cadair olwyn yn gallu croesi'r ffordd’. Felly, credaf fod angen system lawer llymach i atal pobl nad oes ganddynt hawl i wneud hynny rhag parcio mewn mannau parcio i bobl anabl.