Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 16 Hydref 2019.
Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am gynhyrchu'r adroddiad rhagorol hwn. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor hwnnw, ond mae'r materion y mae'n eu trafod yn peri pryder mawr i lawer o fy etholwyr. A buaswn yn mynd ymhellach i ddweud, am gyfnod sylweddol o amser ers i mi gael fy ethol, mai helpu etholwyr y gwrthodwyd bathodyn glas iddynt yw’r elfen unigol fwyaf yn fy ngwaith achos, felly rwy'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl hon.
Hoffwn ganolbwyntio ar brofiadau pobl yng nghwm Cynon, a nodi sut y mae argymhellion yr adroddiad yn adlewyrchu realiti eu bywydau, gan ddechrau gydag argymhelliad 1. Mae’r newidiadau sydd wedi digwydd i'r meini prawf cymhwystra i'w croesawu yn fy marn i, ac fel y mae siaradwyr eraill wedi dweud, mae bathodynnau glas yn achubiaeth sy’n galluogi eu deiliaid i gael mynediad at wasanaethau hanfodol, i wella eu dewisiadau a'u grymuso i fyw bywydau annibynnol.
Mae'n iawn fod y broses ymgeisio yn cydnabod mathau eraill o gyflyrau a diagnosis—fod bathodynnau glas ar gael i bawb a allai elwa ohonynt. Ond cefais fy nharo gan y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor nad yw hyn yn digwydd ym mhob man. Er enghraifft, dyfynnir Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru yn yr adroddiad yn dweud nad yw’r manteision posibl o gynnwys namau gwybyddol wedi’u gwireddu go iawn. Ac mae hyn yn rhywbeth a welais yn amlwg iawn yn fy ngwaith achos. Rwyf wedi ymdrin â nifer o achosion lle y gwrthodwyd bathodyn i bobl yn dioddef o orbryder a materion iechyd meddwl eraill. O fy ngwaith achos, buaswn yn dweud bod y grŵp hwn yn cael ei effeithio'n anghymesur pan ymddengys bod yna unrhyw symudiad tuag at gyfyngu ar geisiadau. Ac mae'r rhain yn afiechydon gwanychol sy'n effeithio ar allu pobl i weithredu'n gymdeithasol, pan fyddai bathodyn glas yn helpu'r deiliad i fynd allan ac i ymgysylltu mwy.
Daeth etholwyr â phroblemau iechyd sylweddol sy’n effeithio ar eu symudedd, megis clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, i gysylltiad â mi hefyd. Fodd bynnag, oherwydd eu bod yn ymdrechu i oresgyn eu cyflwr, gallant ddioddef oherwydd nad yw lefel eu symudedd yn bodloni’r meini prawf cymhwystra. Nid yw'n ymddangos ychwaith fod y meini prawf hyn yn ystyried y ffaith bod pobl â phroblemau iechyd parhaus yn teimlo'n well ar rai dyddiau nag ar ddyddiau eraill.
Mae gennyf etholwr hefyd a ddywedodd wrthyf y gallent dderbyn un o'r budd-daliadau a fyddai'n rhoi hawl iddynt i fathodyn glas yn awtomatig. Fodd bynnag, roedd eu sefyllfa ariannol yn golygu nad oeddent yn teimlo eu bod am wneud cais am y budd-daliad penodol hwnnw. Ond o ganlyniad i beidio â gwneud cais amdano, roeddent ar eu colled gan i’w cais am fathodyn glas gael ei wrthod yn awtomatig yn sgil hynny. Nawr, mae hon yn ymddangos yn sefyllfa chwerthinllyd, ac rwy'n credu bod gwir angen i ni gael y meini prawf cymhwystra'n iawn.
Yn yr un modd, buaswn yn cefnogi argymhelliad 2. Roedd rhai o'r achosion mwyaf torcalonnus ac anesboniadwy y bu'n rhaid i mi a fy staff ymdrin â hwy'n ymwneud â bod bathodyn glas wedi’i wrthod i ymgeiswyr â salwch terfynol.
Mae argymhelliad 13—ymdrin ag adnewyddu—yn allweddol hefyd. Y rheswm pam y bydd pobl yn cysylltu â mi amlaf, fel ACau eraill rwy’n siŵr, yw i ofyn am gymorth pan fydd cais wedi’i wrthod. Mewn llawer o'r achosion hyn, adnewyddiad sydd wedi'i wrthod, ac roedd etholwyr a gafodd eu heffeithio gan hyn yn bobl â chyflyrau difrifol a gyfyngai ar eu bywydau ac a oedd wedi bod â bathodynnau glas ers blynyddoedd lawer, pobl nad oedd eu cyflyrau wedi gwella, ond er hynny, gwrthodwyd y bathodyn glas yr oeddent wedi dibynnu arno. Rhoddaf un enghraifft yn unig i chi. Roedd gan un o fy etholwyr lu o anawsterau iechyd corfforol a meddyliol, ac roedd hi wedi bod yn defnyddio bathodyn glas ers dros 20 mlynedd. Gwrthodwyd ei chais i’w adnewyddu am nad oedd hi’n defnyddio ffon gerdded. Câi’r y defnydd o ffon gerdded ei ddefnyddio fel tystiolaeth o anawsterau cerdded. Yr hyn na chafodd ei ystyried, er gwaethaf llawer o dystiolaeth feddygol a ddarparwyd gan weithwyr proffesiynol a oedd wedi gweithio gyda hi, oedd y ffaith na allai fy etholwr ddefnyddio ffon gerdded am ei bod yn gwella ar ôl cael canser y fron, a chael mastectomi, ac wedi colli'r cryfder roedd hi ei angen yn ei braich i afael mewn ffon.
I ymdrin ag apeliadau, hoffwn sôn hefyd am argymhellion 9 a 10. Hoffwn weld rhyw fath o broses apelio ffurfiol. Yn Rhondda Cynon Taf, mae gallu o’r fath ar gael i ymgeiswyr aflwyddiannus apelio, ond mae llawer o'r achosion yr ymdriniais â hwy yn ymgeiswyr a wrthodwyd ar apêl cyn iddynt ddod ataf. Felly er gwaethaf y broses hon, rwy'n credu bod rhywbeth yn mynd o'i le o hyd.
I gloi, rwy'n teimlo bod angen i ni gyflwyno dwy egwyddor, sef cyfrifoldeb ac eglurder, i'r system hon. Mae wedi bod yn rhwystredig iawn wrth i mi nodi profiadau etholwyr, pan fo Llywodraeth Cymru yn dweud wrthyf mai'r broblem yw’r modd y mae awdurdodau lleol yn dehongli'r canllawiau, ac mae cynghorau'n dweud mai’r ffordd yr ysgrifennwyd y canllawiau hynny sydd ar fai. Gallai'r argymhellion y mae'r adroddiad yn eu nodi gyflwyno cyfrifoldeb ac eglurder i'r system, a byddai hynny o fudd i brofiadau fy etholwyr o'r cynllun bathodyn glas.