Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 16 Hydref 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am eu hymchwiliad ac am eu hadroddiad ar y cynllun bathodyn glas yma yng Nghymru? Mae eu hadroddiad yn cynnwys 19 o argymhellion, ac rwyf wedi'u hystyried ac wedi myfyrio arnynt yn ofalus. Bydd rhai o'r argymhellion hyn yn galw am waith, ymchwil a thrafodaethau pellach ar draws pedair gwlad y DU, tra bydd eraill yn destun gweithredu cynnar gan swyddogion.
Ddirprwy Lywydd, roedd yn dda gweld ehangder y dystiolaeth a gymerodd y pwyllgor gan ystod o bartïon, ac yn bersonol roeddwn yn falch fy mod wedi cael cyfle i gyfrannu er mwyn pwysleisio pa mor bwysig yw'r cynllun hwn i'r rhai sy'n dibynnu arno. Mewn gwirionedd, heb y cynllun, ni fyddai llawer o'r 212,000 o ddeiliaid bathodynnau yng Nghymru yn gallu defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau, byddai rhai yn gwbl gaeth i’w cartrefi ac yn ynysig, a byddai llawer o rai eraill yn colli eu hannibyniaeth. Felly, mae'n rhaid i bawb ohonom ofalu ein bod yn diogelu hawliau deiliaid bathodynnau presennol ac yn y dyfodol, er mwyn sicrhau y gallant barhau i fwynhau manteision y cynllun mewn amgylchedd lle mae nifer y lleoedd parcio’n gyfyngedig.
O ran adroddiad y pwyllgor, trof yn gyntaf at gymhwystra. Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol fod Lloegr yn ddiweddar wedi ymestyn y cymhwystra i fathodyn glas i gynnwys pobl â namau gwybyddol, yn benodol pobl na allant adael cartref oherwydd trallod seicolegol llethol neu oherwydd eu bod yn wynebu risg sylweddol naill ai iddynt hwy eu hunain neu i eraill. Yma yng Nghymru, rydym wedi cynnwys pobl ag anableddau cudd ers 2014, ac yn arbennig pobl sydd angen cymorth gyda phob taith oherwydd namau gwybyddol. Dylai Cymru fod yn falch o fod wedi arwain y ffordd a chydnabod y gall anableddau cudd gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl ac ar eu symudedd. Ond o'r dystiolaeth, mae'n amlwg fod angen gwneud mwy o waith.
Gall Cymru fod yn falch hefyd o'r ffordd rydym yn trin cymhwystra. Ar sail gyfrannol, rhoddir bathodyn glas i fwy o bobl yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, mae gan 6.8 y cant o’r boblogaeth fathodyn, yng Ngogledd Iwerddon mae'r ffigur yn 5.3 y cant, yn yr Alban mae'n 4.5 y cant, ac yn Lloegr, nid yw ond yn 3.8 y cant. Fodd bynnag, gwn fod y pwyllgor yn cwestiynu a ydym wedi mynd yn ddigon pell i ymestyn y cymhwystra. Mae hwn yn gwestiwn anodd ac mae angen ei ystyried ymhellach.
I'r perwyl hwnnw, mae fy swyddogion wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda'r tair gwlad arall i rannu gwybodaeth am gymhwystra cyfredol i bennu a oes rhesymau cyfiawn dros ei newid. Credaf na ellir gwneud unrhyw newidiadau pellach i'r meini prawf cymhwystra oni bai fod yna sylfaen dystiolaeth gadarn i gefnogi newidiadau o'r fath. Nid wyf am leihau argaeledd consesiynau parcio i ddeiliaid bathodynnau cyfredol, sef bron i 7 y cant o'r boblogaeth.
Gallai cynyddu'r meini prawf cymhwystra yn ddireolaeth a pheidio â seilio newid ar dystiolaeth gadarn gynyddu nifer y deiliaid bathodynnau’n ddramatig, gan arwain at bwysau ar adnoddau a mynediad at gonsesiynau parcio pwrpasol, a gallai hynny danseilio gweithrediad yn ogystal â hygrededd y cynllun y dymunwn ei ddiogelu. Felly mae sicrhau bod y meini prawf cymhwystra yng Nghymru yn gywir a bod y consesiynau parcio gwerthfawr yn cael eu diogelu yn gydbwysedd bregus.