Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 16 Hydref 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydym ni wedi dod â'r ddadl yma gerbron heddiw gan ein bod ni'n teimlo bod rhaid cael gwared ar anghyfiawnder hollol annerbyniol. Dwi wedi bod yn codi mater treth cyngor ail gartrefi ers tro. Mae geiriad ein cynnig yn fwriadol benagored. Dwi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn chwilio am ddatrysiad—mi ges i gyfarfod efo rhai o swyddogion y Llywodraeth yn ôl yn yr haf. Ond, yn anffodus, hyd yma does dim arwydd bod unrhyw beth am newid. Ac mae'n rhaid i fi ddweud, roeddwn i'n siomedig iawn y prynhawn yma efo ymateb y Gweinidog Cyllid, a oedd yn dweud nad oedd yna ddim loophole yn y system. I fi, roedd hynny yn rhyfeddol. Er bod y cynnig yn benagored, dwi yn cynnig ffordd ymlaen a dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar at glywed ymateb y Gweinidog.
Er bod perchnogion ail gartrefi ymhlith y cyfoethocaf yng ngwledydd Prydain, yng Nghymru maen nhw'n gallu defnyddio'r system er mwyn osgoi talu treth cyngor. Wrth gofrestru eu hail gartrefi fel busnesau bach, mae'r perchnogion yn gallu osgoi talu treth cyngor drwy drosglwyddo i'r system drethi busnes. Ond gan fod gwerth ardrethol eu heiddo nhw yn isel, mae 94 y cant ohonyn nhw yn gymwys i ryddhad trethi busnes. Hynny yw, dydyn nhw ddim yn gorfod talu trethi busnes chwaith. Ond nid busnesau ydyn nhw—tai domestig ydyn nhw. Felly, dydyn nhw ddim yn talu treth cyngor a dydyn nhw ddim yn talu trethi busnes, er bod y perchnogion, wrth gwrs, yn defnyddio'n ffyrdd ni, ein palmentydd ni, ein goleuadau stryd ni, ein draeniau ni, toiledau cyhoeddus ac yn y blaen. Mae hyn yn anghyfiawn, a dyna pam dwi'n parhau i'w herio fo. Mae o'n sgandal, a dyna pam mae'n rhaid canfod atebion a gweithredu er mwyn dileu'r anghyfiawnder. Mae o'n fater o gydraddoldeb, a dwi'n methu deall pam mae Llafur yng Nghymru yn caniatáu i hyn barhau.
Mae hi'n broblem sy'n cynyddu. Mae yna 5.2 miliwn o bobl ym Mhrydain yn berchen ar ail gartrefi erbyn hyn, o'i gymharu â 1.6 miliwn dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, ac mae ymchwil yn dangos bod naw o bob 10 perchennog ail gartref ym Mhrydain ymhlith hanner mwyaf cyfoethog y boblogaeth. Ond, yng Nghymru, mae perchnogion ail gartrefi wedi ffeindio ffordd o arbed arian, ffordd gyfreithiol—dwi ddim yn dadlau ynglŷn â hynny—ffordd gyfreithiol, ond un sydd yn creu annhegwch mawr.
Mae'r broblem ynghlwm ag adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Mae'r Ddeddf hon yn caniatáu i berchnogion ail gartrefi symud eu heiddo o'r system treth cyngor os ydyn nhw'n gosod eu heiddo fel llety hunan-ddarpar am gyfnodau byr o'r flwyddyn. Mae'n broblem sy'n codi ar draws Cymru, ond, yn y siroedd lle mae llawer o ail gartrefi, mae effaith hyn i'w deimlo waethaf, wrth gwrs. Mae yna 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd, y sir gyda'r nifer fwyaf o ail gartrefi yng Nghymru, a mwy na thebyg yng ngwledydd Prydain. Ar y llaw arall, mae bron i 2,000 o bobl ar y rhestr aros ar gyfer tai cymdeithasol yn y sir. Mae pobl leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai, gan greu argyfwng mewn nifer o'n cymunedau. Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i liniaru hyn, ac mae angen i berchnogion ail gartrefi dalu premiwm ychwanegol ar eu treth cyngor. Mae hyn yn digwydd mewn rhannau eraill o Gymru yn sgil pwerau a ddaeth i rym yn 2014. Ac yng Ngwynedd, y syniad ydy gwario'r dreth sy'n cael ei chodi yn y ffordd yma ar godi tai fforddiadwy a thai cymdeithasol, ac mae gwir angen y math yna o dai. Ond, fel dwi newydd ddisgrifio, mae nifer cynyddol o berchnogion ail gartrefi wedi canfod ffordd o beidio talu'r dreth cyngor, gyda dros 1,000 o'r 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd wedi canfod yr anomali yn y system.