– Senedd Cymru am 5:41 pm ar 16 Hydref 2019.
Eitem 8, dadl Plaid Cymru: treth gyngor ar ail gartrefi. Galwaf ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig—Siân.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydym ni wedi dod â'r ddadl yma gerbron heddiw gan ein bod ni'n teimlo bod rhaid cael gwared ar anghyfiawnder hollol annerbyniol. Dwi wedi bod yn codi mater treth cyngor ail gartrefi ers tro. Mae geiriad ein cynnig yn fwriadol benagored. Dwi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn chwilio am ddatrysiad—mi ges i gyfarfod efo rhai o swyddogion y Llywodraeth yn ôl yn yr haf. Ond, yn anffodus, hyd yma does dim arwydd bod unrhyw beth am newid. Ac mae'n rhaid i fi ddweud, roeddwn i'n siomedig iawn y prynhawn yma efo ymateb y Gweinidog Cyllid, a oedd yn dweud nad oedd yna ddim loophole yn y system. I fi, roedd hynny yn rhyfeddol. Er bod y cynnig yn benagored, dwi yn cynnig ffordd ymlaen a dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar at glywed ymateb y Gweinidog.
Er bod perchnogion ail gartrefi ymhlith y cyfoethocaf yng ngwledydd Prydain, yng Nghymru maen nhw'n gallu defnyddio'r system er mwyn osgoi talu treth cyngor. Wrth gofrestru eu hail gartrefi fel busnesau bach, mae'r perchnogion yn gallu osgoi talu treth cyngor drwy drosglwyddo i'r system drethi busnes. Ond gan fod gwerth ardrethol eu heiddo nhw yn isel, mae 94 y cant ohonyn nhw yn gymwys i ryddhad trethi busnes. Hynny yw, dydyn nhw ddim yn gorfod talu trethi busnes chwaith. Ond nid busnesau ydyn nhw—tai domestig ydyn nhw. Felly, dydyn nhw ddim yn talu treth cyngor a dydyn nhw ddim yn talu trethi busnes, er bod y perchnogion, wrth gwrs, yn defnyddio'n ffyrdd ni, ein palmentydd ni, ein goleuadau stryd ni, ein draeniau ni, toiledau cyhoeddus ac yn y blaen. Mae hyn yn anghyfiawn, a dyna pam dwi'n parhau i'w herio fo. Mae o'n sgandal, a dyna pam mae'n rhaid canfod atebion a gweithredu er mwyn dileu'r anghyfiawnder. Mae o'n fater o gydraddoldeb, a dwi'n methu deall pam mae Llafur yng Nghymru yn caniatáu i hyn barhau.
Mae hi'n broblem sy'n cynyddu. Mae yna 5.2 miliwn o bobl ym Mhrydain yn berchen ar ail gartrefi erbyn hyn, o'i gymharu â 1.6 miliwn dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, ac mae ymchwil yn dangos bod naw o bob 10 perchennog ail gartref ym Mhrydain ymhlith hanner mwyaf cyfoethog y boblogaeth. Ond, yng Nghymru, mae perchnogion ail gartrefi wedi ffeindio ffordd o arbed arian, ffordd gyfreithiol—dwi ddim yn dadlau ynglŷn â hynny—ffordd gyfreithiol, ond un sydd yn creu annhegwch mawr.
Mae'r broblem ynghlwm ag adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Mae'r Ddeddf hon yn caniatáu i berchnogion ail gartrefi symud eu heiddo o'r system treth cyngor os ydyn nhw'n gosod eu heiddo fel llety hunan-ddarpar am gyfnodau byr o'r flwyddyn. Mae'n broblem sy'n codi ar draws Cymru, ond, yn y siroedd lle mae llawer o ail gartrefi, mae effaith hyn i'w deimlo waethaf, wrth gwrs. Mae yna 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd, y sir gyda'r nifer fwyaf o ail gartrefi yng Nghymru, a mwy na thebyg yng ngwledydd Prydain. Ar y llaw arall, mae bron i 2,000 o bobl ar y rhestr aros ar gyfer tai cymdeithasol yn y sir. Mae pobl leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai, gan greu argyfwng mewn nifer o'n cymunedau. Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i liniaru hyn, ac mae angen i berchnogion ail gartrefi dalu premiwm ychwanegol ar eu treth cyngor. Mae hyn yn digwydd mewn rhannau eraill o Gymru yn sgil pwerau a ddaeth i rym yn 2014. Ac yng Ngwynedd, y syniad ydy gwario'r dreth sy'n cael ei chodi yn y ffordd yma ar godi tai fforddiadwy a thai cymdeithasol, ac mae gwir angen y math yna o dai. Ond, fel dwi newydd ddisgrifio, mae nifer cynyddol o berchnogion ail gartrefi wedi canfod ffordd o beidio talu'r dreth cyngor, gyda dros 1,000 o'r 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd wedi canfod yr anomali yn y system.
Ar y llaw arall, mae fy nghymorthfeydd i yn yr etholaeth yn llawn o bobl sy'n byw mewn amodau annerbyniol, mewn llety rhent preifat sy'n damp, yn rhy fach, neu'n ddrud i'w wresogi, gan arwain at dlodi tanwydd. Mae teuluoedd yn gorfod rhannu eu cartrefi efo rhieni neu berthnasau eraill neu ffrindiau. Mae yna rywbeth mawr o'i le: mae yna rywbeth sylfaenol annheg mewn sefyllfa pan fod 2,000 o bobl yn byw mewn amodau annerbyniol tra bod perchnogion ail gartrefi'n chwarae'r system at eu budd eu hunain gan osgoi talu treth gyngor. Mae cyfanswm o £1.7 miliwn y flwyddyn yn cael ei golli yng Ngwynedd yn unig, yn ogystal â'r premiwm, yn sgil hyn, ac mi fyddai'r arian yna'n gallu bod yn ddefnyddiol iawn i goffrau'r cyngor, arian a fyddai'n gallu cyfrannu tuag at adeiladu tai addas i bobl leol yn y sir.
Gellid dadlau, drwy adael i hyn ddigwydd, fod Llywodraeth Cymru yn rhoi arian ym mhocedi perchnogion ail gartrefi yn hytrach nag yn defnyddio'r arian i wella bywydau pobl leol. Mae'n hanfodol ein bod ni'n datrys y broblem hon. Ac, yn fy meddwl i, yr ateb symlaf, hawsaf a mwyaf tryloyw ydy addasu adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Mae gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i wneud hyn drwy dynnu'r meini prawf ynglŷn ag unedau hunanarlwyo, fel sy'n cael eu disgrifio yn adran 66. Gellid sefydlu'r egwyddor fod pob eiddo sy'n cael ei ddefnyddio fel eiddo domestig yn parhau i fod yn eiddo domestig, hyd yn oed os ydy o'n cael ei ddefnyddio'n achlysurol i godi incwm ychwanegol i'r perchennog. Mi fyddai gwneud y newid yna'n cael gwared ar y loophole, a byddai hyn ddim yn effeithio dim o gwbl ar lety hunanarlwyol masnachol a busnesau gwyliau twristaidd achos dydyn nhw ddim yn rhan o adran 66 o'r Ddeddf yma. Dyna'r ateb syml, yn fy marn i. Dwi'n edrych ymlaen i glywed ydy'r Gweinidog yn cytuno efo hynny.
Mi fyddwn ni hefyd y prynhawn yma'n trafod y broblem ail gartrefi'n fwy cyffredinol, ac mi fydd Llyr Gruffydd yn ymhelaethu ar hyn. Mae modd defnyddio'r gyfundrefn gynllunio i daclo'r broblem gynyddol o ail gartrefi yn ein cymunedau ni a'r ffordd mae pobl leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai yn lleol. Mae modd, er enghraifft, defnyddio categorïau newydd o fewn y gyfundrefn gynllunio a diffinio'r term 'preswyl' gan gynnwys categori 'ail gartref', ac mi ellid deddfu bod angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid tŷ preswyl llawn amser i fod yn ail gartref. Mi fyddai hyn yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol gynnal gwell cydbwysedd o fewn cymunedau.
Mae angen gwneud llawer iawn mwy i helpu teuluoedd sy'n cael eu prisio allan o'r farchnad yn sgil presenoldeb nifer cynyddol o ail gartrefi, ac rydw i yn falch o wybod bod Cyngor Gwynedd yn cynnal gwaith ymchwil manwl ac eang i ganfod atebion i'r straen y mae ail gartrefi'n eu rhoi ar gymunedau lleol. Ond, yn y cyfamser, beth am gael gwared ar y sgandal sy'n codi yn sgil adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, a gwneud hynny unwaith ac am byth? Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cytuno efo Plaid Cymru ar hyn, dan arweiniad ei fforwm gwledig sy’n cynnwys naw o gynghorau Cymru. Ac mae Jeremy Corbyn wedi cyhoeddi cynlluniau i osod lefi newydd ar ail gartrefi a fyddai’n golygu bod perchnogion yn talu dwywaith yn fwy o dreth gyngor. Meddai fo, a dwi’n dyfynnu:
Mae marchnad dai sy'n gweithio i'r lliaws yn galw am weithredu gan lywodraeth i sicrhau bod gan bawb le i'w alw'n gartref.
Llafur y Deyrnas Unedig yn dweud hynny; Llafur yng Nghymru yn methu datrys sgandal y perchnogion sydd wedi canfod ffordd o osgoi talu treth gyngor ar eu heiddo. Dwi wedi cynnig ateb. Gall yna fod ffyrdd eraill o greu tegwch, ond yn sicr mae angen i hyn gael ei ddatrys a’i ddatrys ar frys.
Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud bod yna bobl yn Llafur Cymru sy'n cytuno â chi? Rwy'n un ohonynt.
Rydym yn gwybod dau beth: mae'r cyfoethog yn dda iawn am gynhyrchu cynlluniau i osgoi talu'r swm o dreth y maent yn ei thalu, neu i'w lleihau—yr enghraifft glasurol yw'r dreth gorfforaeth, sydd wedi dod yn gyfraniad gwirfoddol gan gwmnïau amlwladol; ac mae angen trethi arnom, rhai lleol a chenedlaethol, i dalu am y gwasanaethau a ddefnyddiwn ac sydd eu hangen. Y ddwy dreth y mae pobl gyfoethog yn eu casáu fwyaf yw'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Yn hanesyddol nid oedd modd osgoi'r rhain, a dyna sy'n egluro'r galw am gynlluniau lleihau ardrethi yn barhaus, a throi ail gartrefi yn eiddo gwyliau gan ddefnyddio'r cynllun lleihau ardrethi i osgoi neu leihau'n sylweddol y swm a fyddai wedi bod yn ddyledus fel treth gyngor.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru ar hyn o bryd yn adolygu effaith a defnydd y pwerau disgresiwn i awdurdodau lleol gymhwyso premiymau'r dreth gyngor ac i weld a yw'r ddeddfwriaeth newydd yn gweithredu yn ôl y bwriad. Fel rhan o'r adolygiad, gofynnwyd i awdurdodau lleol ddarparu unrhyw dystiolaeth a allai fod ganddynt fod ail gartrefi preifat yn cael eu rhestru'n anghywir fel eiddo hunanddarpar. Yr anhawster yw bod llawer o berchnogion ail gartrefi yn gadael i ffrindiau a theulu eu defnyddio, ac felly'n ateb y meini prawf sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt fod ar gael ar gyfer rhentu yn dechnegol, oherwydd eu bod yn eu gosod i bobl—meibion, merched, cefndryd—ond buaswn yn awgrymu nad ydynt yn codi tâl ar y gyfradd y dylent ei wneud.
Mae'n rhaid i berchnogion llety hunanddarpar ddarparu tystiolaeth bod eu heiddo yn bodloni'r meini prawf. Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n penderfynu a yw eiddo i'w gategoreiddio fel cartref domestig neu annomestig. Nid oes gennym reolaeth dros Asiantaeth y Swyddfa Brisio fel asiantaeth weithredol a noddir gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi. Gan nad yw wedi'i ddatganoli, mae'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Os yw'r bobl hyn yn dweud mai ail gartrefi yw'r rhain a'u bod yn eu gosod, yn hytrach nag eiddo ar rent, nid wyf yn deall pam nad yw Cyllid a Thollau EM yn mynd ar eu holau am yr incwm. Rwy'n gwybod beth yw prisiau rhentu ac mae wythnos yn y rhan fwyaf o Gymru yn ystod cyfnodau brig ymhell dros £1,000. Os ydynt yn ei osod ar rent am y cyfnod a ddywedant, dylai'r bobl hyn fod yn gwneud o leiaf £12,000 i £15,000, ac felly dylai Cyllid a Thollau ei Mawrhydi fod yn mynd ar eu holau. Ac rwy'n siomedig nad yw Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn mynd ar eu holau, oherwydd dylent fod yn talu treth ar eu hincwm.
Rhaid i drethdalwyr barhau i fodloni meini prawf ardrethi annomestig ar gyfer pob eiddo ym mhob cyfnod o 12 mis. Fel arall, oni bai fod yr eiddo yn dod o fewn unrhyw gategori arall o eiddo annomestig, mae'r eiddo yn debygol o gael ei ystyried yn ddomestig a byddai'n ddarostyngedig i asesiad o rwymedigaeth i dalu'r dreth gyngor. Lle y caiff eiddo ei restru fel llety hunanddarpar annomestig, ond nad yw'n bodloni'r meini prawf statudol, gallai'r perchennog wynebu gorchymyn i dalu'r dreth gyngor wedi'i hôl-ddyddio. A tybed faint o'r rheini a wnaed yng Nghymru hyd yma.
Dywedir wrthyf fod Llywodraeth Cymru yn effro i'r broblem fod perchnogion ail gartrefi yn newid statws eu heiddo o'r dreth gyngor i ardrethi annomestig mewn ymdrech i geisio elwa ar gynlluniau rhyddhad ardrethi. Efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym faint o orchmynion wedi'u hôl-ddyddio i dalu'r dreth gyngor a gafwyd. Fel y dywedais yn gynharach, dylai Cyllid a Thollau EM fynd ar drywydd y bobl hyn. Os ydynt yn gosod eiddo ar rent am hyd at 70 diwrnod, dylai hynny gynhyrchu swm sylweddol o arian.
Mae ail gartrefi hefyd yn cyfyngu ar faint o eiddo sydd ar gael i bobl leol. Maent yn gwneud i bobl ifanc adael yr ardal wrth i brisiau gael eu gwthio i fyny ac achosi i ysgolion lleol gau wrth i nifer y plant a adewir ar ôl i'w mynychu ostwng. Gwyddom y gallai perchnogion ail gartrefi sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer penderfynu a yw eiddo yn annomestig fod yn gymwys i dalu ardrethi annomestig. Gallant hefyd fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ac felly ni fydd unrhyw rwymedigaeth arnynt ar ôl i'r rhyddhad ardrethi i fusnesau bach gael ei roi ar waith. Mae'r rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, felly pam y dylem boeni? Oherwydd bod yr holl refeniw ardrethi annomestig a godir yng Nghymru yn cael ei gronni a'i ddosbarthu i awdurdodau lleol. Pan na ddaw'r arian i mewn, nid yw'r gweddill ohonom yng Nghymru yn cael cymaint ag y byddem yn ei gael o'r gronfa honno. Golyga fod peidio â thalu yng Ngwynedd yn effeithio ar bobl yn Abertawe.
Yr wythnos diwethaf, edrychais i weld beth oedd prisiau rhent llety gwyliau yng Ngwynedd yn ystod mis Awst. Ni allwn ddod o hyd i eiddo lle byddai'r dreth gyngor flynyddol yn llai na phythefnos o rent gyda gordal o 100 y cant, neu rent un wythnos heb ordal. Os yw'n dŷ neu'n fflat, dylent dalu'r dreth gyngor. Unwaith eto, hoffwn alw ar y Gweinidog i ddileu'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach oddi ar dai a fflatiau. Mae'n ateb gwahanol i'r un y mae Siân Gwenllian wedi'i gyflwyno, ond mae'n ateb arall—gan ei gadw ar gyfer gwestai a thai llety. Dyma'r peth iawn i'w wneud, mae'n dda i incwm, yn dda i'r ardal, ac mae'n ddefnydd da o arian cyhoeddus. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu. Nid wyf yn poeni a ydych yn derbyn awgrym Siân Gwenllian neu fy un i, mae'n rhaid i ni weithredu a'i wneud.
Rŷn ni yn ymwybodol erbyn hyn fod yna dros 24,000 o ail gartrefi yng Nghymru, gyda bron i 5,000 ohonyn nhw yng Ngwynedd, ac mae yna dros 4,000 ohonyn nhw yn sir Benfro. Yn wir, yn 2017-18, roedd bron i 40 y cant o'r tai a gafodd eu gwerthu yng Ngwynedd a dros draean o'r tai a werthwyd ar Ynys Môn wedi eu gwerthu fel ail dai. Felly, yn ei hanfod, rŷn ni'n sôn am broblem economaidd mwy sylfaenol yn fan hyn onid ŷn ni? Mae rhannau helaeth o Gymru, yn enwedig yr ardaloedd sydd â'r lefelau uchaf o ail dai hefyd, wrth gwrs, ymhlith yr ardaloedd sydd â'r lefelau isaf o gyflogau ac incwm. Felly, y realiti yw bod yr ardaloedd yma yn llefydd lle dyw'r farchnad dai ddim yn adlewyrchu'r economi leol i bob pwrpas.
Mae gan awdurdodau lleol ddulliau fel adrannau 106 a 157 i geisio rheoli gwerthiant tai a chyflwyno rhyw fesurau i gydbwyso'r elfennau yma, ond mae'n amlwg eu bod nhw'n annigonol neu, yn un peth, fyddem ni ddim yn cael y ddadl yma heddiw. Ac felly, dwi eisiau jest treulio ychydig o amser yn edrych ar beth mae rhai rhanbarthau a gwledydd arall wedi bod yn gwneud ac a oes yna wersi efallai y byddem ni yn gallu eu dysgu i fynd i'r afael â rhai o'r materion yma.
Mae gan y Swistir reolau caeth iawn. Maen nhw reit ar begwn y sbectrwm. Yn y fanna, mae'n rhaid i'r tŷ fod wedi ei leoli mewn ardal sydd wedi ei neilltuo fel ardal gwyliau cyn bod modd ei werthu e fel ail dŷ, ac wedyn mae angen caniatâd gan y canton cyn y gallwch chi brynu'r tŷ hwnnw. Yn ogystal â hynny, mae cantons a bwrdeistrefi yn gallu gosod eu rheolau eu hunain hefyd. Maen nhw'n gallu cyfyngu gwerthiant o ail gartrefi i dai sydd eisoes yn ail gartrefi. Maen nhw'n gallu cyfyngu ar ba mor fawr, beth yw maint yr ail gartrefi yma. Maen nhw hyd yn oed yn gallu cyfyngu ar nifer yr ail gartrefi y mae hawl gan unrhyw un person i'w berchnogi. Yn 2012, fe gytunodd pobl y Swistir mewn refferendwm, fel maen nhw'n dueddol o wneud yn gyson yn y Swistir, i osod cyfyngiad ar faint o ail gartrefi oedd yn cael bod yn y wlad. Felly, maen nhw wedi dewis un llwybr.
Mae Guernsey wedi edrych ar ddull arall. Maen nhw wedi cymryd camau llym i reoli'r farchnad dai yn y fanna. Mae'r Llywodraeth yno yn gweithredu dwy farchnad dai: marchnad agored ar gyfer dim ond 7 y cant o dai ar yr ynys, a'r gweddill yn farchnad gaeedig ar gyfer pobl leol neu bobl sydd â permit gwaith yn unig. Ac mae yna fodelau gwahanol mewn gwledydd fel Catalonia, yn Ffrainc, yr Almaen ac yn y blaen.
Yn agosach i gartref, wrth gwrs, mae yna set benodol o reoliadau yn Llundain.
Mae rheoliadau yn Llundain ers y 1970au wedi bod yn wahanol i weddill Lloegr o ran rheoli'r defnydd o dai marchnad agored fel ail gartrefi. Arferai'r rheoliadau yn Llundain atal defnydd o eiddo preswyl yn 32 bwrdeistref Llundain fel eiddo gwyliau i'w osod dros dro, a gwnaed hyn drwy reoliadau a oedd yn galw am ganiatâd cynllunio i newid y defnydd. Prif bwrpas hyn, wrth gwrs, oedd gwarchod y stoc dai yn Llundain.
Yn 2005, daeth deddfwriaeth i rym i lacio'r rheolau hynny, a thros gyfnod byr o amser, bu cynnydd enfawr yn nifer yr eiddo a gaiff eu gosod fel eiddo gwyliau i'w osod yn y tymor byr, fel y gallwch ddychmygu, gyda thros 70,000 eiddo wedi'u rhestru fel eiddo gwyliau i'w osod yn y tymor byr. Mae hynny wedi bod yn destun trafodaeth yn Nhŷ'r Cyffredin yn ddiweddar, gyda phryderon ynglŷn â'r effaith a gaiff hynny ar y stoc dai ac ar gymunedau lleol, ac ati. Un o'r problemau yw'r anhawster i orfodi'r terfyn o 90 noson mewn blwyddyn galendr, sy'n rhywbeth y gallwn uniaethu ag ef yn y cyd-destun Cymreig hefyd rwy'n siŵr.
Nawr, ar hyn o bryd, mae'r Bil cynllunio yn yr Alban yn mynd drwy'r Senedd yn y fan honno, ac mae'n cynnwys cynnig i ddiwygio'r ddeddfwriaeth fel bod rhaid cael caniatâd cynllunio i ddefnyddio tŷ fel eiddo gwyliau i'w osod yn y tymor byr, lle mae'r awdurdod cynllunio yn dynodi ardal fel man rheoli eiddo gwyliau i'w osod yn y tymor byr.
Felly, fel y nodaf, ceir digon o ffyrdd creadigol, rhai mwy eithafol nag eraill, y gallem edrych ar hyn. Nawr, mae Siân Gwenllian wedi amlinellu ateb eithaf syml i broblem benodol iawn, ond fel y dywedais, mae angen inni edrych ar lu o ddulliau o ymdrin â'r materion ehangach sy'n ymwneud ag ail gartrefi a'r effaith a gânt ar gymunedau, ar farchnadoedd tai ac ar argaeledd tai. Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddangos yr un creadigrwydd wrth fynd i'r afael â rhai o'r materion a amlygwyd yn y ddadl hon.
Yn ystod yr ail a'r trydydd Cynulliad, mynegodd cyrff masnach, yn cynnwys aelodau o Gymdeithas Gweithredwyr Hunanddarpar Cymru a Chynghrair Twristiaeth Cymru bryder eang am effaith cynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd ar fusnesau twristiaeth yn sgil newid y meini prawf cymhwyso ar gyfer llety hunanddarpar. Ymhellach, roedd deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gellid defnyddio rhai anheddau naill ai fel ail gartrefi neu fel llety gwyliau hunanddarpar ar rent masnachol.
Roedd Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010 yn datgan bod yn rhaid i annedd fod ar gael i'w rentu am o leiaf 140 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis er mwyn bod yn gymwys fel llety hunanddarpar, ac y dylai fod wedi'i osod am o leiaf 70 o ddiwrnodau. Cafodd y Gorchymyn ei ddiwygio a'i gryfhau yn 2016. Cadwyd y cyfnodau cymhwyso, gan adlewyrchu'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus.
Fel y mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar eiddo gwag, sydd eto i'w drafod ond a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf, yn datgan,
'Mae'r meini prawf ar gyfer llety hunanddarpar yn taro cydbwysedd'.
Fel y mae ein hadroddiad hefyd y datgan,
'Gellir cofnodi anheddau sy'n bodloni'r meini prawf ar y rhestr ardrethu annomestig yn hytrach na rhestr y dreth gyngor. Mae'n rhaid talu'r dreth gyngor ar gyfer anheddau nad ydynt yn bodloni'r meini prawf, gan gynnwys ail gartrefi a gedwir at ddefnydd preifat yn bennaf. Caiff rhestrau o brisiadau at ddibenion y dreth gyngor ac ardrethu annomestig eu llunio a'u cynnal gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae'r Asiantaeth yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru.
'Er mwyn i eiddo gael ei ddiffinio fel llety hunanddarpar a'i symud i'r rhestr ardrethu, mae'n rhaid i'r perchennog roi tystiolaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio bod yr eiddo yn bodloni'r meini prawf... Os bydd awdurdod lleol o'r farn y dylid rhestru eiddo ar gyfer y dreth gyngor a bod ganddo dystiolaeth o hyn, bydd yn rhaid iddo rannu'r wybodaeth honno â'r Asiantaeth a bydd yr Asiantaeth yn ystyried y dystiolaeth.
'Efallai y bydd llety hunanddarpar sydd islaw gwerth ardrethadwy penodol yn gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach... Bu'r cynigion, gan
gynnwys p'un a ddylai fod unrhyw eithriadau ychwanegol, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus hefyd.'
Hyd yn oed o fewn y meini prawf hyn, mae teuluoedd ffermio o Sir y Fflint i Ynys Môn sy'n buddsoddi ar gyfer arallgyfeirio eu busnesau, wedi gofyn i mi fynegi eu pryderon fod y rheol deiliadaeth 70 diwrnod yn rhy hir ac anhyblyg ar gyfer tymor gwyliau byr, yn enwedig i fusnesau hunanddarpar newydd.
Ychwanegodd Deddf Tai (Cymru) 2014 bwerau disgresiwn i awdurdodau lleol osod premiymau o hyd at 100 y cant ar filiau'r dreth gyngor ar gyfer eiddo sy'n wag yn hirdymor ac ail gartrefi lle y gall awdurdodau osod y premiwm ar unrhyw lefel hyd at 100 y cant ar gyfer y naill neu'r llall neu'r ddau. Mater i awdurdodau lleol unigol yw penderfynu a ddylid gosod premiwm. Cyflwynodd Gwynedd, sydd â bron i 5,000 o ail gartrefi, bremiwm o 50 y cant ar ail gartrefi, fel y gwnaeth Sir y Fflint, yn rhyfedd ddigon. Cyflwynodd Conwy bremiwm o 25 y cant. Fodd bynnag, rhybuddiodd Gwynedd y byddai llawer o'r eiddo'n destun ymgais i osgoi'r dreth ychwanegol pe bai perchnogion ail gartrefi yn penderfynu eu gosod i gwsmeriaid am fwy na 70 diwrnod y flwyddyn. Wrth ymateb i mi yn y pwyllgor, dywedodd cynrychiolydd Cyngor Gwynedd,
'Dwi'n gwybod bod y syniad yma bod lot o'n heiddo gwag ni o dan berchnogaeth pobl o'r tu allan i Wynedd ddim o reidrwydd, ddim yn llwyr, oherwydd mae yna nifer o dai gwag yng Ngwynedd dan berchnogaeth pobl leol, fel rydych chi'n ei ddweud, am fod pobl wedi etifeddu eiddo ar farwolaeth ac eisiau gwneud rhywbeth efo fo.'
Pan ddywedais wrtho,
Mae rhai perchnogion ail gartrefi yn gyfoethog tu hwnt, a rhai yn llai felly, a gofyn
I ba raddau y mae'r amgylchiad rydych chi'n ei ddisgrifio yn ddilys, lle y gallai rhywun fod yn gosod yr eiddo am fwy na'r cyfnod cymwys yn ystod y flwyddyn am resymau'n ymwneud â fforddiadwyedd? Ac i ba raddau y mae'n ceisio osgoi'r gost? atebodd yntau,
'mae'r trosglwyddo o eiddo treth gyngor ddomestig i fod yn eiddo busnes yng Ngwynedd yn sylweddol... Rydym ni'n sôn am dros 1,000 ar hyn o bryd wedi'u trosglwyddo. Rydym ni'n sôn am gannoedd bob blwyddyn yn trosglwyddo drosodd o un i'r llall, felly. A'r hyn maen nhw angen ei wneud ydy sicrhau swyddfa'r brisio bod yr eiddo wedi bod ar gael am 140 diwrnod ac wedi cael ei osod am 70 diwrnod, ac... maen nhw yn gallu ei drosglwyddo'.
Ychwanegodd fod
'tua 98 y cant yng Ngwynedd—yn cael small business rates relief'.
Felly, dywedodd fod y golled i'r pwrs cyhoeddus ar ffurf treth i'r wlad yn y miliynau. Felly, gan weithio gyda'r swyddfa brisio, rhaid i Lywodraeth Cymru, felly, roi sylw i ganlyniad ei deddfwriaeth a allai fod yn anochel. Fe wnaeth Gwynedd eu rhybuddio. Fodd bynnag, fel y tystiais yn gynharach, ni ddylent gosbi'r cyfraniad a wneir gan fusnesau hunanddarpar go iawn i'n heconomi dwristiaeth, na pherchnogion ail gartrefi nad ydynt yn hynod o gefnog ac sy'n dilyn y rheolau, ond sy'n teimlo eu bod wedi'u gorfodi i gynhyrchu incwm ychwanegol ar sail fforddiadwyedd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwyf newydd orffen.
Nac ydych; roedd gennych ychydig eiriau i'w hychwanegu.
Fy ngeiriau olaf, yn llythrennol.
Parhewch—yn gyflym.
Yn gyflym iawn, a ydych yn credu bod yna fwlch yn y gyfraith y mae angen ei gau?
Mae'n ddrwg gennyf, a wnewch chi ailadrodd hynny?
A ydych chi'n credu bod yna fwlch yn y gyfraith y mae angen ei gau? Rwy'n ceisio casglu o'ch araith a ydych chi'n credu bod neu beidio.
Rhaid inni ddechrau sefydlu a yw hyn wedi'i fonitro a'i orfodi'n briodol, ac edrych arno ymhellach os ydyw. Ond rwy'n amau nad yw'n cael ei fonitro a'i orfodi'n briodol, a dyna lle mae angen i ni ddechrau.
Diolch.
Mae adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn gymhleth iawn. Gwnaed pob math o newidiadau iddi, ac rwy'n pryderu nad yw rhagdybiaeth ar ran Aelodau Plaid Cymru, a Mike o bosibl, yn gywir. Nid wyf yn credu bod y didoliad hwn yn bodoli ar gyfer llety hunanddarpar hunangynhwysol a ddarparir yn fasnachol. Rwy'n credu bod hwnnw'n dod o is-adran (2), sef y didoliad ar gyfer gwestai, a gwely a brecwast. Felly, yn y bôn, er mwyn osgoi'r dreth gyngor, rhaid i chi naill ai fodloni is-adran (2), neu yng Nghymru, is-adran (2BB). A phan ddywed is-adran (2), nad yw'n llety hunanddarpar hunangynhwysol a ddarparir yn fasnachol mae hynny'n ddau 'nad', oherwydd mae'n mynd yn ôl hefyd at yr 'eiddo nad yw'n eiddo domestig' ar ddechrau'r is-adran honno. Ac rwy'n credu mai (2BB) y dylem fod yn ei drafod yma yn hytrach na'r didoliad ar gyfer gwestai, a gwely a brecwast. Mike.
Diolch. Fe gofnodaf eto yr hyn a ddywedais. Dywedais, 'Peidiwch â rhoi rhyddhad ardrethi domestig ar eiddo preswyl, p'un a ydynt yn cael eu gosod ar rent neu beidio'.
Do, Mike, fe wnaethoch gynnig ateb gwahanol. Rwy'n derbyn hynny, ond credaf i chi sôn hefyd am y didoliad, fel y clywsom yn gynharach, o'r blaen. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un ohonom yn argymell newid gwesty, gwely a brecwast i'r hyn y mae is-adran (2) yn ei ddweud, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod is-adran (2B) a'r cyfeiriad at eiddo nad yw'n llety hunanddarpar hunangynhwysol yn cael ei ddarparu'n fasnachol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, rwyf am barhau, a dweud y gwir.
Mae'n berthnasol i westai a gwely a brecwast yn unig. Y broblem sydd gennym yn y bôn yw fod llawer o'r materion hyn yn mynd yn ôl i'r adeg pan gyflwynwyd y dreth gyngor ac roedd gostyngiad gorfodol o 50 y cant ar gyfer ail gartrefi, ac ar y pryd, pan oedd rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn llai o lawer—yng Nghymru ac yn Lloegr, roeddent yr un fath bryd hynny—roedd pryder fod perchnogion ail gartrefi'n cael y disgownt o 50 y cant yn hytrach na thalu'r ardrethi busnes. Mae hynny wedi newid erbyn hyn.
Cawsom y Gorchymyn hwn yn 2010—iawn—ond fe wnaethom ei ddiweddaru yn 2016 ac ni wnaethom ystyried y newidiadau yr oedd CThEM wedi'u gwneud i'r drefn ar gyfer gosod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu a gyhoeddwyd ar ddiwedd 2010 ac a oedd yn gymwys ar gyfer treth incwm o 2012 i 2013. Ac roeddent yn newidiadau synhwyrol iawn y credaf y dylem ninnau hefyd eu gwneud yng Nghymru, ac mae'n peri penbleth i mi pam nad yw wedi'i wneud a pham y gwnaeth Rebecca ateb y cwestiwn fel y gwnaeth yn gynharach. Ers i CThEM edrych ar hyn a meddwl a oedd gosod am 70 diwrnod yn ymgymeriad masnachol mewn gwirionedd—os oedd rhywun newydd gael eu hail gartref, rhywun eithaf cefnog, yn hoffi cael ail gartref, ond yn ei osod am 10 wythnos yn unig fel eu bod yn cael y peth treth, a oedd hwnnw'n drothwy digonol? A daethant i'r casgliad nad oedd, a dywedasant, 'Mewn gwirionedd, mae'n rhaid i chi ei osod am o leiaf 15 wythnos', sef y 105 diwrnod. Rwy'n credu mai ar hynny y dylem ganolbwyntio. Mae'n anodd iawn gosod gorfodaeth ar hyd yr amser y mae ar gael. Mae'n hawdd iawn dweud ei fod ar gael neu ei hysbysebu ar gyfradd uchel, neu fod rhywun yn gofyn ac nad ydych yn cymryd yr archeb. Sut y mae'r awdurdodau treth yn gwybod? Ond mewn gwirionedd, gellir yn hawdd wirio'r 10 wythnos, neu'r 15 wythnos gobeithio lle rydych yn ei osod ar rent i rywun arall fel galwedigaeth ac mae'n rhaid i chi gael incwm a thaliad i'w ddangos. Felly, yr hyn y buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i'w wneud—ac rwy'n gobeithio y byddai Plaid Cymru yn gweld hyn o leiaf fel gwelliant ar y status quo—yw mabwysiadu'r rheolau CThEM ar gyfer gosod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu lle maent yn caniatáu i bobl wrthbwyso'r llog a chael manteision eraill nad ydynt yn eu caniatáu o dan drefniadau rhentu arferol, mwy hirdymor.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe dderbyniaf ymyriad yn awr.
Rwy'n derbyn yr hyn rydych yn ei ddweud a chredaf ei bod yn werth cael trafodaeth ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â hynny. Yr un categori arall o lety nad ydym wedi'i gyflwyno eto yn y ddadl hon, wrth gwrs, yw llety carafanau gwyliau. Rwy'n byw mewn ardal lle mae twristiaeth carafanau gwyliau yn rhan bwysig iawn o'r economi. Un o'r problemau a'r heriau sydd gennym yno, gyda thymhorau estynedig, yw bod llawer o bobl yn defnyddio'r carafanau gwyliau hynny fel eu prif breswylfeydd, ac mae hynny wedyn yn arwain at gostau a beichiau ar awdurdodau lleol, costau na chânt eu had-dalu amdanynt.
Mae pwynt yr Aelod wedi'i gofnodi. Mae angen i mi gwblhau'r pwynt roeddwn yn ceisio'i wneud i gwblhau fy nadl, sef iawn, fel y dywed y cynnig, os yw'n ail gartref, dylech dalu'r dreth gyngor—mae hynny'n briodol, ac ni ddylech adael i neb fanteisio ar fwlch yn y gyfraith. Fodd bynnag, os yw'r system dreth wedi'i chynllunio i ddweud, mewn gwirionedd, os nad yw'n ail gartref a'ch bod yn ei gael ar sail eiddo gwyliau i'w osod a'ch bod o ddifrif yn gwneud hynny'n fasnachol, ac yn unol â CThEM, ei fod ar gael, go iawn, am o leiaf 30 wythnos y flwyddyn, a bod eich defnydd yn achlysurol mewn perthynas â'r gweddill, a'ch bod o ddifrif yn ei osod ar rent am o leiaf 15 wythnos, mae hynny'n fy nharo fel rhwystr rhesymol i'w oresgyn a dweud, 'Eiddo gwyliau i'w osod yw hwn mewn gwirionedd. Mae rhywun yn byw ynddo am lawer o'r flwyddyn. Mae pobl yno'n gwario arian yn yr ardal leol. Rwy'n talu fy nhreth incwm ar hynny yn unol â rheolau CThEM. Mae'n deg ac yn briodol dweud mai dyna ydyw yn hytrach nag ail gartref rwy'n ei gelu i osgoi talu'r dreth gyngor.' Ond os ydym am ddweud hynny, rwy'n credu mewn gwirionedd fod angen i ni symud tuag at y rheolau CThEM llymach ar gyfer eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu a fu mewn grym ers 2012-13. Byddai hefyd yn ei wneud yn symlach, oherwydd bydd gennych un system wedyn ar gyfer eich esemptiad rhag talu'r dreth gyngor a rheolau CThEM. Ac nid wyf yn deall pam y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i gael y peth llawer llacach hwn, a gaiff ei ddisgrifio'n briodol yn fy marn i gan Blaid Cymru fel bwlch yn y gyfraith.
Rydyn ni'n gwybod gymaint mae ail gartrefi yn gallu cael effaith negyddol ar y farchnad dai. Mae'n gallu gwthio pobl allan o'r farchnad wrth i brisiau godi. Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n gallu gwthio pobl ifanc allan o'u cynefin wrth iddyn nhw fethu â phrynu tŷ. Ac rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n broblem sy'n cynyddu: un tŷ ym mhob 10 yn Ynys Môn yn wag neu'n ail gartref, a chymaint â phedwar allan o bob 10 yn rhywle fel Rhosneigr. Rydyn ni, yn sicr, wedi bod yn gefnogol iawn fel plaid i'r premiwm ar dreth gyngor ar ail gartrefi ar ben y bil arferol—premiwm sy'n gallu cael ei ddefnyddio i dalu am adeiladu rhagor o dai, felly mae o'n gweithio ar bob lefel. Ond rydyn ni'n sôn heddiw am loophole sy'n golygu nid yn unig fnad yw pobl yn talu'r premiwm, ond eu bod nhw'n osgoi talu trethi o gwbl. Mi glywsom ni'r Gweinidog cyllid yn dweud yn gynharach nad ydy hi'n credu bod yna loophole. Mi ddywedodd y Prif Weinidog, pan godais i hyn yma flwyddyn yn ôl, nad oes yna loophole, ond, sori, lle mae pobl fwy cyfoethog sy'n gallu fforddio ail gartref ac yn gyfreithlon yn llwyddo i beidio â thalu treth o gwbl, mae hynny yn loophole, ac mae o'n costio'n ddrud iawn i gymunedau ac i lywodraeth leol.
Rydyn ni'n gwybod beth sy'n digwydd: mae perchenogion ail gartrefi yn trosglwyddo'r cartref o'r system treth gyngor i'r system treth busnes. Maen nhw'n gallu gwneud hynny'n hawdd iawn, mae'n ymddangos. Mae'r trothwy lawer yn rhy isel ac mae'n amheus iawn gen i faint o fonitro sy'n mynd ymlaen. Os caf i ganiatâd i ddarllen o erthygl o The Telegraph—yn Lloegr mae hwn, ond mae o'r un mor berthnasol i Gymru—ac mae hwn o ddiwrnod olaf mis Gorffennaf eleni:
'How to pay no council tax on your second home—saving thousands of pounds a year.'
'Loophole' ydy'r gair wnes i ei ddefnyddio. Mae yna air arall:
Mae tric sy'n caniatáu i berchenogion ail gartrefi gofrestru eu heiddo fel "cartrefi gwyliau" a thalu llai o dreth—hyd yn oed os nad yw'r eiddo'n cael ei osod i dwristiaid—wedi tyfu'n llawer mwy poblogaidd ers i reol gael ei newid ddwy flynedd yn ôl.
Os yw perchennog tŷ yn gosod ei ail eiddo fel cartref gwyliau am o leiaf 140 diwrnod y flwyddyn, gellir ei gategoreiddio fel busnes bach.
—ac yn y blaen, ac yn y blaen. Mae o'n dric ac mae o'n cael ei annog yn fan hyn yn The Telegraph, ac rydyn ni'n gwybod bod hyn yn cael ei ddefnyddio gan berchnogion ail gartrefi. A beth sy'n bryderus iawn i fi ydy bod y dystiolaeth yn dangos bod hyn ar gynnydd. Os caf i jest sôn am y ffigurau rydyn ni'n delio â nhw, yng Ngwynedd, hyd at fis Rhagfyr y llynedd, mi oedd yna—gadewch i mi gael y ffigur—421 eiddo wedi trosglwyddo o'r system treth cyngor i'r system trethi busnes. Pedwar cant dau ddeg un erbyn mis Rhagfyr, a hynny o'i gymharu â 282 yn y flwyddyn ariannol lawn flaenorol. Felly, mae'n berffaith glir i mi i ba gyfeiriad rydyn ni'n mynd ar hyn.
Mewn gwirionedd, dim ond i Loegr y mae erthygl The Telegraph a'r ddarpariaeth a grybwyllir ynddi'n berthnasol. Cymal (2B) ydyw ac mae'n anhygoel o llac—mae'n dweud yn unig fod angen i chi fwriadu ei osod am 140 diwrnod. Yng Nghymru, o leiaf, dywedwn wedyn, 'Ac mae'n rhaid i chi fod wedi gwneud hynny—sicrhau ei fod ar gael am y flwyddyn ddiwethaf—ac yna rhaid i chi ei osod am y 70 diwrnod.' Felly, mae'n well na'r rhyddfrydoli sydd wedi digwydd yn Lloegr, ond rwy'n credu y byddai terfyn amser CThEM yn 2010 o 105 diwrnod yn llawer gwell a mwy synhwyrol.
A dywedais mai model ar gyfer Lloegr ydoedd, ond credaf ei fod yn berthnasol i Gymru, oherwydd yr hyn a welwn, mewn gwirionedd, yw pobl yn chwilio am ffyrdd o ddangos eu bod wedi gosod eu heiddo am 70 diwrnod y flwyddyn, ac yn ceisio chwilio am ffyrdd o ddangos eu bod ar gael am 140 diwrnod y flwyddyn. A dweud y gwir, byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ystyried y dylech allu cael eiddo ar gael 365 diwrnod y flwyddyn, os yw o ddifri yn eiddo sydd ar gael i'w osod.
Mae'r golled i lywodraeth leol yn amlwg yn sylweddol iawn. Mae arolwg dwi am gyfeirio ohono fo yn ymwneud ag arolwg o saith cyngor yng Nghymru, sydd wedi gweld colled, o ddyfalu mai band D ar gyfartaledd fyddai'r eiddo yna—colled o £5 miliwn mewn blwyddyn mewn treth gyngor. Yn Ynys Môn, un o'r ardaloedd lle mae yna fwyaf o ail gartrefi, mae o'n £1 filiwn. Cofiwch fod £1 filiwn yn gyfystyr â 2.5 y cant ar dreth gyngor yn rhywle fel Ynys Môn. Mae yna loophole, a dwi'n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog ystyried eto y gwadu rydyn ni wedi ei glywed ganddi hi, a'r Prif Weinidog blaenorol, fod yna rywbeth sydd angen mynd i'r afael â fo.
Beth rydyn ni angen ei weld, a beth dwi'n gobeithio ei glywed gan y Gweinidog rŵan, ydy bod y Llywodraeth o ddifri am sylweddoli bod yna isiw sydd angen ei ddatrys yn fan hyn, a pha bynnag fodel rydyn ni'n ei ddefnyddio, pa un ai yn codi'r trothwy yn sylweddol, neu y model gafodd ei ddisgrifio gan Mike Hedges, neu yr hyn rydyn ni'n ei gynnig, a'r hyn gafodd ei amlinellu gan Siân Gwenllian, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddangos bwriad i fynd i'r afael â hyn, achos ein cymunedau ni sydd yn dioddef, a'n pobl ifanc ni yn arbennig sy'n cael eu gorfodi allan o'r cymunedau hynny.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Diolch. Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr y prynhawn yma, a diolch i'r holl Aelodau am eu sylwadau. Ac rwy'n credu bod y cyfraniadau a gawsom yn darlunio cymhlethdod y mater rydym yn ceisio mynd i'r afael ag ef y prynhawn yma. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig, sy'n cydnabod y rhan hollbwysig y mae'r dreth gyngor yn ei chwarae yn cyfrannu at ariannu gwasanaethau lleol yma yng Nghymru. Mae ein hawdurdodau lleol wedi gweithio'n galed i barhau i ddarparu'r gwasanaethau y mae eu cymunedau eu hangen, er gwaethaf yr heriau a ddaeth yn sgil degawd o gyni, a heriau nad wyf yn ceisio eu tanbrisio, ac sy'n parhau, er bod y Llywodraeth wedi gwarchod llywodraeth leol rhag effeithiau gwaethaf y toriadau a orfodwyd ar ein cyllidebau.
Ond mae'n iawn i'r holl aelwydydd sydd â modd o dalu'r dreth gyngor wneud hynny, a gwneud cyfraniad ariannol i'r gwasanaethau a ddarparir i'w cymunedau. Ac mae hyn yn berthnasol i bob cartref, p'un a ydynt yn berchen ar eu cartref neu'n ei rentu, p'un a yw eu heiddo yn unig gartref iddynt, neu eu bod yn byw yno am ran o'r flwyddyn yn unig. Mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd fod cartrefi nad oes ganddynt fodd o dalu yn cael cymorth effeithiol a'u bod yn cael eu trin ag urddas a pharch.
Mae gennym fframwaith cenedlaethol cynhwysfawr ar waith i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu casglu'r dreth gyngor, ac os oes angen, gorfodi pobl i'w thalu. A'r awdurdodau unigol sy'n gyfrifol am gasglu'r dreth gyngor, ac mae ganddynt nifer o bwerau i'w helpu gyda hyn. Mae gan awdurdodau lleol weithdrefnau profedig ar gyfer sicrhau eu bod yn gallu casglu'r dreth yn effeithiol ac yn effeithlon gan aelwydydd sy'n gallu fforddio talu.
Mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio rôl hanfodol i'w chwarae hefyd yn sicrhau bod pob eiddo wedi'i restru'n gywir at ddibenion y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Ac rwy'n meddwl bod gan Gymru enw rhagorol mewn perthynas â chasglu'r dreth gyngor. Mae ein cyfradd gasglu gyfartalog yn uwch na'r gyfradd yn Lloegr a'r Alban, ac wrth gwrs, ni ellir ein cymharu â Gogledd Iwerddon lle nad oes ganddynt dreth gyngor y gellir ei chymharu.
Cynyddodd cyfraddau casglu yng Nghymru i dros 97 y cant pan gyflwynasom ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn 2013-14, ac maent wedi'u cynnal ar y lefel uchel honno byth ers hynny. Mae rhai awdurdodau'n cyflawni cyfraddau casglu uwch nag eraill, a hynny am resymau nad ydynt yn gysylltiedig â natur eu sylfaen dreth gyngor neu ddemograffeg leol, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau i sicrhau eu bod yn rhannu arferion da ac yn dysgu gwersi oddi wrth ei gilydd.
Rwy'n credu bod cyhoeddi protocol y dreth gyngor yn gynharach eleni, a gafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth â llywodraeth leol, yn gam allweddol o ran ein hymdrechion i wneud y dreth gyngor yn decach. Mae'r pwerau i godi premiymau treth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo sy'n wag yn hirdymor yn bwerau disgresiwn, a chawsant eu cyflwyno i gynorthwyo awdurdodau lleol i reoli problemau gyda'u cyflenwad tai lleol. Mae'n bwysig nodi mai Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi rhoi'r pwerau hyn i awdurdodau mewn perthynas ag ail gartrefi.
Bwriedir iddynt gael eu defnyddio gan awdurdodau lleol ar y cyd â phwerau a chyfrifoldebau eraill ym maes tai, cynllunio a datblygu economaidd, ymhlith meysydd eraill, gan ystyried materion ac amrywiadau lleol. Yr awdurdodau unigol sydd i benderfynu a ydynt am ddefnyddio'r pwerau, a hwy sydd yn y sefyllfa orau i ddeall patrymau lleol y cyflenwad tai a'r galw am dai, a sut y mae'r rhain yn cyd-fynd â'u blaenoriaethau cynllunio a datblygu lleol.
Wrth benderfynu a ddylid cyflwyno premiwm, mae angen i bob awdurdod wneud asesiad llawn o'r holl effeithiau posibl. Mae'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer casglu'r dreth gyngor yn taro cydbwysedd rhwng buddiannau deiliaid tai unigol, cymunedau lleol a'n heconomi. Mae'n darparu fframwaith y gall pob awdurdod ei ddilyn i ystyried ei amgylchiadau lleol ac anghenion gwahanol randdeiliaid, ac mae'n adlewyrchu ffactorau a all fod yn arwyddocaol mewn un ardal ond nid mewn ardal arall.
Mae'n bwysig nodi ein bod wedi ymgynghori'n eang cyn cyflwyno'r pwerau, ac ymgynghorasom yn eang hefyd ar yr eithriadau i'r premiymau a'r eithriadau i'n cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach parhaol cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth newydd ar gyfer pob cynllun. Roedd y syniad a ddisgrifiodd Mike Hedges am gael gwared ar allu unrhyw eiddo preswyl i gael mynediad at y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach yn un o'r syniadau a ystyriwyd wrth lunio'r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach parhaol. Ond cafodd ei ddiystyru bryd hynny oherwydd credwyd y byddai'n feichus ac o bosibl, yn arwain at ganlyniadau anfwriadol.
Rwy'n awyddus i gael hyn yn iawn. Dyma un o'r rhesymau pam y dywedais yn eglur iawn yn y cynllun gwaith ar y polisi treth a lansiais ddiwedd y llynedd mai'r cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn i ddod fyddai ystyried dulliau newydd o atal pobl rhag efadu treth ac osgoi artiffisial, a gwella cydymffurfiaeth ar draws holl drethi Cymru, gan gynnwys mesurau i fynd i'r afael ag efadu ac osgoi ardrethi annomestig a monitro'r broses o weithredu deddfwriaeth newydd i sicrhau ei bod yn gweithredu yn ôl y bwriad ac nad yw'n creu cyfleoedd i osgoi talu.
Yn hytrach na chanolbwyntio'n unig ar osgoi ac efadu, onid yw'n fater o 'Beth yw ail gartref?' yn erbyn 'Beth sy'n fusnes gosod eiddo masnachol dilys?' Os nad ydym am drethu hynny ar yr un sail, pam caniatáu i hynny fod yn un os mai dim ond am 10 wythnos y flwyddyn y mae pobl yn ei osod? Pam eich bod yn meddwl bod hynny'n ddigon, neu o leiaf pam y credai'r Gorchymyn ei fod yn ddigonol yn 2016?
Wel, mae'r rhain yn faterion rydym yn eu harchwilio, o ran y gwaith a wnawn gydag awdurdodau lleol i edrych ar sut y maent wedi bod yn defnyddio premiymau a beth yw eu profiad o dai'n symud ar y rhestr raddio ar gyfer cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ac yn y blaen. Rhan o'r gwaith hwnnw yw gofyn i awdurdodau lleol am y profiadau unigol y maent wedi'u cael. Mae'n bosibl mai un ymateb fyddai rhoi pŵer i awdurdodau lleol benderfynu faint o ddiwrnodau sy'n briodol iddynt eu pennu yn eu hardaloedd lleol, oherwydd gwyddom fod y darlun hwn yn amrywio'n fawr iawn ar draws Cymru. Rydym wedi clywed am rai o'r heriau penodol yn Ynys Môn ac yng Ngwynedd, ond nid yw'r heriau hynny'n amlygu eu hunain cymaint mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, mae'n syniad rwy'n ei archwilio'n weithredol ar hyn o bryd wrth inni edrych tuag at ddyfodol trethi lleol yn gyffredinol, felly trethi annomestig a'r dreth gyngor—rydym yn archwilio'r dyfodol tymor byr, canolig a hir ar gyfer y ddwy dreth.
Fel rwy'n dweud, mae dosbarthiad ail gartrefi yng Nghymru yn amrywiol iawn. Felly, hyd yn oed mewn awdurdodau lleol sydd â nifer uwch na'r cyfartaledd, neu ganran, o ail gartrefi, gall eu presenoldeb fod wedi'i ganoli ac yn dra lleol mewn cymunedau penodol. Rydym yn cydnabod yr her y gall yr ail gartrefi a'r cartrefi gwag hyn ei chyflwyno i'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn ein cymunedau, a dyna pam ein bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i gyrraedd ein targed o gyflenwi 20,000 yn fwy o gartrefi fforddiadwy ac i gyflawni argymhellion yr adolygiad annibynnol diweddar o'r cyflenwad tai fforddiadwy.
Cefnogir ein hymdrechion gan ein rhaglen grantiau tai cymdeithasol, ac rydym yn buddsoddi £138 miliwn eleni i ddarparu cyllid grant ar gyfer tai fforddiadwy i adeiladu eiddo newydd neu adnewyddu eiddo sy'n bodoli'n barod. Rydym yn buddsoddi £127 miliwn arall yn ein grant cymorth tai er mwyn helpu i fynd i'r afael ag anghenion unigolion o ran tai a chymorth tai, ac ochr yn ochr â hynny rydym hefyd yn buddsoddi £90 miliwn dros dair blynedd yn ein rhaglen tai arloesol, i brofi sut y gallwn adeiladu cartrefi'r dyfodol yn gyflymach ac i safon uchel o ran cynllun a pherfformiad. Ac rydym wedi sefydlu tîm gorfodi ar eiddo gwag, sy'n cynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â chartrefi gwag. Felly, ni chyflwynwyd premiymau'r dreth gyngor erioed fel ffordd o godi refeniw, ond mae bron i 18,000 o ail gartrefi ac eiddo gwag yn hirdymor bellach yn talu premiymau eleni, ac mae hyn yn creu miliynau mewn refeniw ychwanegol i'r awdurdodau hyn. Nid ydym wedi rhagnodi sut y dylent ddefnyddio'r cyllid ychwanegol hwn, ond fe'n calonogir wrth weld bod nifer ohonynt yn ei ddefnyddio i helpu i ddiwallu eu hanghenion tai lleol.
Mae nifer fach iawn o awdurdodau lleol wedi awgrymu bod perchnogion ail gartrefi yn osgoi talu premiymau'r dreth gyngor drwy eu rhestru fel llety hunanddarpar, ac rwy'n deall y pryderon hynny. Clywsom y pryderon hynny'n cael eu disgrifio y prynhawn yma. Y gwir yw nad yw trosglwyddo i'r rhestr ardrethu yn gyfystyr ag osgoi, ac mae awdurdodau lleol yn cael budd o incwm ardrethi annomestig yn ogystal â'r dreth gyngor, ac wrth gwrs, lle mae busnes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, mae'r Llywodraeth yn ariannu'r rhyddhad ardrethi hwnnw'n llawn, er budd awdurdodau lleol. Felly, ni all fod yn fater syml o newid i un rhestr yn ôl y dewis; ceir rhai meini prawf y mae'n rhaid eu bodloni, a'r cwestiwn y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef yw, 'A ydym wedi cael y meini prawf hynny'n iawn?' Felly, dyna'r pethau rydym yn meddwl amdanynt i weld a yw ein deddfwriaeth yn gweithredu yn ôl y bwriad.
Rwyf wedi disgrifio rôl Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gynharach heddiw yn ystod y cwestiynau y prynhawn yma, a'r ffaith fy mod yn awyddus iawn i awdurdodau lleol hysbysu Asiantaeth y Swyddfa Brisio os oes achosion lle y credant fod eiddo ar y rhestr honno pan na ddylai fod. Ond rwy'n cydnabod nad yw'r system dreth leol yn berffaith. Nid oes yr un system dreth yn berffaith, a dyna pam ein bod yn gweithio drwy'r rhaglen honno o ddiwygiadau tymor byr, canolig a hir i wella effeithiolrwydd a thegwch trethi lleol a system cyllid llywodraeth leol yn ehangach. Edrychaf ymlaen at gyflwyno datganiad gerbron y Siambr ym mis Tachwedd sy'n nodi'r gwaith a wnawn yn y cyswllt hwnnw. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud camau sylweddol iawn yn ddiweddar o ran gwneud y dreth gyngor yn decach, a byddaf yn darparu newyddion pellach ar hynny. Ond hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau am y ddadl bwysig hon, ac rwy'n credu bod digon i ni barhau i'w drafod wrth i ni symud ymlaen.
Diolch. A gaf fi alw Siân Gwenllian i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr iawn, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Dwi'n meddwl mai Llyr Gruffydd sydd wedi ceisio symud i ffwrdd o'r mater penodol dan sylw, a diolch am wneud hynny. Mae yna faterion mwy eang, wrth gwrs, na'r rhai rydyn ni wedi bod yn eu trafod heddiw, ac mae modd defnyddio'r system gynllunio mewn ffordd effeithiol er mwyn creu gwell cydbwysedd o fewn ein cymunedau ni, ac i alluogi cymunedau i weithio yn erbyn sefyllfa lle mae yna ormodedd o ail gartrefi yn gwthio pobl leol allan oherwydd bod y prisiau yn mynd drwy'r to. Does ond rhaid ichi edrych ar rai cymunedau yng Ngwynedd ac Ynys Môn i weld realiti'r sefyllfa yna, ac mae yna wledydd eraill—y Swistir, Denmarc, Gogledd Iwerddon hefyd, ac wedyn Guernsey a Llundain—mae yna reolau o fewn y system gynllunio y gellid eu defnyddio i fynd i'r afael â'r broblem ehangach, a dwi yn edrych ymlaen at weld ffrwyth gwaith ymchwil Cyngor Gwynedd i mewn i'r sefyllfa yna.
O ran y mater penodol rydyn ni wedi bod yn ei drafod heddiw, dwi'n diolch i ddau gyfrannwr am eu syniadau nhw. Dwi'n hapus iawn, wrth gwrs, i fod yn trafod datrysiadau eraill, yn wahanol i'r un rydyn ni wedi'i gynnig yn fan hyn—tynnu rhyddhad trethi busnes oddi ar ail gartrefi, ac mae hwnna'n un ffordd ymlaen, neu ddefnyddio'r rheolau cyllid y wlad. Dwi'n agored iawn i feddwl am hynny, ond nid fi ydy'r Gweinidog. Mae angen i'r Gweinidog ddechrau cymryd yr holl fater yma o ddifri, ac, yn anffodus, dwi yn teimlo brynhawn yma ein bod ni ddim wedi cael ein hargyhoeddi o gwbl fod yna ddealltwriaeth o gymhlethdod y sefyllfa, a dealltwriaeth o beth yn union sydd yn mynd ymlaen, a dealltwriaeth o'r loophole penodol yma sydd yn y system. Dwi'n hynod siomedig ynglŷn â hynny. Roeddwn i yn gobeithio y bydden ni heddiw yn gallu cael o leiaf rhyw fath o arwydd fod yna ddatrysiad ar fin cael ei ganfod. Yr unig—ychydig bach—o oleuni roeddwn i yn ei gymryd oedd bod yna ddisgrifiad yn fanna yn rhywle o artificial avoidance. Rŵan, i mi, loophole ydy hynna; gair arall am 'loophole' ydy 'artificial avoidance'. A dwi'n mawr obeithio y bydd y mater yma yn cael sylw gan y Llywodraeth.
Y tric yma roedd Rhun ap Iorwerth yn sôn amdano fo—y premiwm ei hun sydd wedi achosi hyn, i raddau. Ie, mae pobl yn ceisio ffeindio ffordd o beidio â gorfod talu'r premiwm, ac wedyn yn chwilio am driciau er mwyn gallu peidio â thalu unrhyw dreth o gwbl. Ac mi wnaeth y cyn Prif Weinidog sôn am hysbyseb ar y radio roedd e wedi ei glywed yn sôn am gwmni oedd yn ceisio rhoi cyngor i berchnogion ail gartrefi ynglŷn â sut i beidio â gorfod talu treth cyngor. Mae'n sobor pan ydym ni'n cyrraedd sefyllfa fel yna, oherwydd mae'r arian sy'n cael ei golli allan o'r gyfundrefn yn arian gwerthfawr i gynghorau lleol a allai fod yn cael ei ddefnyddio i greu tai fforddiadwy, tai cymdeithasol, tai sydd eu hangen o fewn ein cymunedau ni.
Felly, dwi yn gobeithio y bydd yna ailfeddwl ac y bydd yna ystyried o ddifrif beth ydy'r ffordd o gwmpas y broblem yma. Beth gawsom ni gan y Gweinidog, yn anffodus, oedd disgrifiad o'r fframwaith casglu treth cyngor a disgrifiad o'r hyn sy'n digwydd, a does gen i ddim hyder o gwbl y prynhawn yma fod y Llywodraeth yn mynd i geisio mynd i'r afael â hyn, er gwaethaf cyfraniadau pawb arall o gwmpas yr ystafell heddiw.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.