8. Dadl Plaid Cymru: Treth Gyngor ar ail Gartrefi

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:50, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud bod yna bobl yn Llafur Cymru sy'n cytuno â chi? Rwy'n un ohonynt.

Rydym yn gwybod dau beth: mae'r cyfoethog yn dda iawn am gynhyrchu cynlluniau i osgoi talu'r swm o dreth y maent yn ei thalu, neu i'w lleihau—yr enghraifft glasurol yw'r dreth gorfforaeth, sydd wedi dod yn gyfraniad gwirfoddol gan gwmnïau amlwladol; ac mae angen trethi arnom, rhai lleol a chenedlaethol, i dalu am y gwasanaethau a ddefnyddiwn ac sydd eu hangen. Y ddwy dreth y mae pobl gyfoethog yn eu casáu fwyaf yw'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Yn hanesyddol nid oedd modd osgoi'r rhain, a dyna sy'n egluro'r galw am gynlluniau lleihau ardrethi yn barhaus, a throi ail gartrefi yn eiddo gwyliau gan ddefnyddio'r cynllun lleihau ardrethi i osgoi neu leihau'n sylweddol y swm a fyddai wedi bod yn ddyledus fel treth gyngor.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru ar hyn o bryd yn adolygu effaith a defnydd y pwerau disgresiwn i awdurdodau lleol gymhwyso premiymau'r dreth gyngor ac i weld a yw'r ddeddfwriaeth newydd yn gweithredu yn ôl y bwriad. Fel rhan o'r adolygiad, gofynnwyd i awdurdodau lleol ddarparu unrhyw dystiolaeth a allai fod ganddynt fod ail gartrefi preifat yn cael eu rhestru'n anghywir fel eiddo hunanddarpar. Yr anhawster yw bod llawer o berchnogion ail gartrefi yn gadael i ffrindiau a theulu eu defnyddio, ac felly'n ateb y meini prawf sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt fod ar gael ar gyfer rhentu yn dechnegol, oherwydd eu bod yn eu gosod i bobl—meibion, merched, cefndryd—ond buaswn yn awgrymu nad ydynt yn codi tâl ar y gyfradd y dylent ei wneud.

Mae'n rhaid i berchnogion llety hunanddarpar ddarparu tystiolaeth bod eu heiddo yn bodloni'r meini prawf. Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n penderfynu a yw eiddo i'w gategoreiddio fel cartref domestig neu annomestig. Nid oes gennym reolaeth dros Asiantaeth y Swyddfa Brisio fel asiantaeth weithredol a noddir gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi. Gan nad yw wedi'i ddatganoli, mae'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Os yw'r bobl hyn yn dweud mai ail gartrefi yw'r rhain a'u bod yn eu gosod, yn hytrach nag eiddo ar rent, nid wyf yn deall pam nad yw Cyllid a Thollau EM yn mynd ar eu holau am yr incwm. Rwy'n gwybod beth yw prisiau rhentu ac mae wythnos yn y rhan fwyaf o Gymru yn ystod cyfnodau brig ymhell dros £1,000. Os ydynt yn ei osod ar rent am y cyfnod a ddywedant, dylai'r bobl hyn fod yn gwneud o leiaf £12,000 i £15,000, ac felly dylai Cyllid a Thollau ei Mawrhydi fod yn mynd ar eu holau. Ac rwy'n siomedig nad yw Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn mynd ar eu holau, oherwydd dylent fod yn talu treth ar eu hincwm.

Rhaid i drethdalwyr barhau i fodloni meini prawf ardrethi annomestig ar gyfer pob eiddo ym mhob cyfnod o 12 mis. Fel arall, oni bai fod yr eiddo yn dod o fewn unrhyw gategori arall o eiddo annomestig, mae'r eiddo yn debygol o gael ei ystyried yn ddomestig a byddai'n ddarostyngedig i asesiad o rwymedigaeth i dalu'r dreth gyngor. Lle y caiff eiddo ei restru fel llety hunanddarpar annomestig, ond nad yw'n bodloni'r meini prawf statudol, gallai'r perchennog wynebu gorchymyn i dalu'r dreth gyngor wedi'i hôl-ddyddio. A tybed faint o'r rheini a wnaed yng Nghymru hyd yma.

Dywedir wrthyf fod Llywodraeth Cymru yn effro i'r broblem fod perchnogion ail gartrefi yn newid statws eu heiddo o'r dreth gyngor i ardrethi annomestig mewn ymdrech i geisio elwa ar gynlluniau rhyddhad ardrethi. Efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym faint o orchmynion wedi'u hôl-ddyddio i dalu'r dreth gyngor a gafwyd. Fel y dywedais yn gynharach, dylai Cyllid a Thollau EM fynd ar drywydd y bobl hyn. Os ydynt yn gosod eiddo ar rent am hyd at 70 diwrnod, dylai hynny gynhyrchu swm sylweddol o arian.

Mae ail gartrefi hefyd yn cyfyngu ar faint o eiddo sydd ar gael i bobl leol. Maent yn gwneud i bobl ifanc adael yr ardal wrth i brisiau gael eu gwthio i fyny ac achosi i ysgolion lleol gau wrth i nifer y plant a adewir ar ôl i'w mynychu ostwng. Gwyddom y gallai perchnogion ail gartrefi sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer penderfynu a yw eiddo yn annomestig fod yn gymwys i dalu ardrethi annomestig. Gallant hefyd fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ac felly ni fydd unrhyw rwymedigaeth arnynt ar ôl i'r rhyddhad ardrethi i fusnesau bach gael ei roi ar waith. Mae'r rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, felly pam y dylem boeni? Oherwydd bod yr holl refeniw ardrethi annomestig a godir yng Nghymru yn cael ei gronni a'i ddosbarthu i awdurdodau lleol. Pan na ddaw'r arian i mewn, nid yw'r gweddill ohonom yng Nghymru yn cael cymaint ag y byddem yn ei gael o'r gronfa honno. Golyga fod peidio â thalu yng Ngwynedd yn effeithio ar bobl yn Abertawe.

Yr wythnos diwethaf, edrychais i weld beth oedd prisiau rhent llety gwyliau yng Ngwynedd yn ystod mis Awst. Ni allwn ddod o hyd i eiddo lle byddai'r dreth gyngor flynyddol yn llai na phythefnos o rent gyda gordal o 100 y cant, neu rent un wythnos heb ordal. Os yw'n dŷ neu'n fflat, dylent dalu'r dreth gyngor. Unwaith eto, hoffwn alw ar y Gweinidog i ddileu'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach oddi ar dai a fflatiau. Mae'n ateb gwahanol i'r un y mae Siân Gwenllian wedi'i gyflwyno, ond mae'n ateb arall—gan ei gadw ar gyfer gwestai a thai llety. Dyma'r peth iawn i'w wneud, mae'n dda i incwm, yn dda i'r ardal, ac mae'n ddefnydd da o arian cyhoeddus. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu. Nid wyf yn poeni a ydych yn derbyn awgrym Siân Gwenllian neu fy un i, mae'n rhaid i ni weithredu a'i wneud.