8. Dadl Plaid Cymru: Treth Gyngor ar ail Gartrefi

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:22, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r rhain yn faterion rydym yn eu harchwilio, o ran y gwaith a wnawn gydag awdurdodau lleol i edrych ar sut y maent wedi bod yn defnyddio premiymau a beth yw eu profiad o dai'n symud ar y rhestr raddio ar gyfer cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ac yn y blaen. Rhan o'r gwaith hwnnw yw gofyn i awdurdodau lleol am y profiadau unigol y maent wedi'u cael. Mae'n bosibl mai un ymateb fyddai rhoi pŵer i awdurdodau lleol benderfynu faint o ddiwrnodau sy'n briodol iddynt eu pennu yn eu hardaloedd lleol, oherwydd gwyddom fod y darlun hwn yn amrywio'n fawr iawn ar draws Cymru. Rydym wedi clywed am rai o'r heriau penodol yn Ynys Môn ac yng Ngwynedd, ond nid yw'r heriau hynny'n amlygu eu hunain cymaint mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, mae'n syniad rwy'n ei archwilio'n weithredol ar hyn o bryd wrth inni edrych tuag at ddyfodol trethi lleol yn gyffredinol, felly trethi annomestig a'r dreth gyngor—rydym yn archwilio'r dyfodol tymor byr, canolig a hir ar gyfer y ddwy dreth.

Fel rwy'n dweud, mae dosbarthiad ail gartrefi yng Nghymru yn amrywiol iawn. Felly, hyd yn oed mewn awdurdodau lleol sydd â nifer uwch na'r cyfartaledd, neu ganran, o ail gartrefi, gall eu presenoldeb fod wedi'i ganoli ac yn dra lleol mewn cymunedau penodol. Rydym yn cydnabod yr her y gall yr ail gartrefi a'r cartrefi gwag hyn ei chyflwyno i'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn ein cymunedau, a dyna pam ein bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i gyrraedd ein targed o gyflenwi 20,000 yn fwy o gartrefi fforddiadwy ac i gyflawni argymhellion yr adolygiad annibynnol diweddar o'r cyflenwad tai fforddiadwy.

Cefnogir ein hymdrechion gan ein rhaglen grantiau tai cymdeithasol, ac rydym yn buddsoddi £138 miliwn eleni i ddarparu cyllid grant ar gyfer tai fforddiadwy i adeiladu eiddo newydd neu adnewyddu eiddo sy'n bodoli'n barod. Rydym yn buddsoddi £127 miliwn arall yn ein grant cymorth tai er mwyn helpu i fynd i'r afael ag anghenion unigolion o ran tai a chymorth tai, ac ochr yn ochr â hynny rydym hefyd yn buddsoddi £90 miliwn dros dair blynedd yn ein rhaglen tai arloesol, i brofi sut y gallwn adeiladu cartrefi'r dyfodol yn gyflymach ac i safon uchel o ran cynllun a pherfformiad. Ac rydym wedi sefydlu tîm gorfodi ar eiddo gwag, sy'n cynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â chartrefi gwag. Felly, ni chyflwynwyd premiymau'r dreth gyngor erioed fel ffordd o godi refeniw, ond mae bron i 18,000 o ail gartrefi ac eiddo gwag yn hirdymor bellach yn talu premiymau eleni, ac mae hyn yn creu miliynau mewn refeniw ychwanegol i'r awdurdodau hyn. Nid ydym wedi rhagnodi sut y dylent ddefnyddio'r cyllid ychwanegol hwn, ond fe'n calonogir wrth weld bod nifer ohonynt yn ei ddefnyddio i helpu i ddiwallu eu hanghenion tai lleol.

Mae nifer fach iawn o awdurdodau lleol wedi awgrymu bod perchnogion ail gartrefi yn osgoi talu premiymau'r dreth gyngor drwy eu rhestru fel llety hunanddarpar, ac rwy'n deall y pryderon hynny. Clywsom y pryderon hynny'n cael eu disgrifio y prynhawn yma. Y gwir yw nad yw trosglwyddo i'r rhestr ardrethu yn gyfystyr ag osgoi, ac mae awdurdodau lleol yn cael budd o incwm ardrethi annomestig yn ogystal â'r dreth gyngor, ac wrth gwrs, lle mae busnes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, mae'r Llywodraeth yn ariannu'r rhyddhad ardrethi hwnnw'n llawn, er budd awdurdodau lleol. Felly, ni all fod yn fater syml o newid i un rhestr yn ôl y dewis; ceir rhai meini prawf y mae'n rhaid eu bodloni, a'r cwestiwn y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef yw, 'A ydym wedi cael y meini prawf hynny'n iawn?' Felly, dyna'r pethau rydym yn meddwl amdanynt i weld a yw ein deddfwriaeth yn gweithredu yn ôl y bwriad.

Rwyf wedi disgrifio rôl Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gynharach heddiw yn ystod y cwestiynau y prynhawn yma, a'r ffaith fy mod yn awyddus iawn i awdurdodau lleol hysbysu Asiantaeth y Swyddfa Brisio os oes achosion lle y credant fod eiddo ar y rhestr honno pan na ddylai fod. Ond rwy'n cydnabod nad yw'r system dreth leol yn berffaith. Nid oes yr un system dreth yn berffaith, a dyna pam ein bod yn gweithio drwy'r rhaglen honno o ddiwygiadau tymor byr, canolig a hir i wella effeithiolrwydd a thegwch trethi lleol a system cyllid llywodraeth leol yn ehangach. Edrychaf ymlaen at gyflwyno datganiad gerbron y Siambr ym mis Tachwedd sy'n nodi'r gwaith a wnawn yn y cyswllt hwnnw. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud camau sylweddol iawn yn ddiweddar o ran gwneud y dreth gyngor yn decach, a byddaf yn darparu newyddion pellach ar hynny. Ond hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau am y ddadl bwysig hon, ac rwy'n credu bod digon i ni barhau i'w drafod wrth i ni symud ymlaen.