8. Dadl Plaid Cymru: Treth Gyngor ar ail Gartrefi

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:17, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr y prynhawn yma, a diolch i'r holl Aelodau am eu sylwadau. Ac rwy'n credu bod y cyfraniadau a gawsom yn darlunio cymhlethdod y mater rydym yn ceisio mynd i'r afael ag ef y prynhawn yma. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig, sy'n cydnabod y rhan hollbwysig y mae'r dreth gyngor yn ei chwarae yn cyfrannu at ariannu gwasanaethau lleol yma yng Nghymru. Mae ein hawdurdodau lleol wedi gweithio'n galed i barhau i ddarparu'r gwasanaethau y mae eu cymunedau eu hangen, er gwaethaf yr heriau a ddaeth yn sgil degawd o gyni, a heriau nad wyf yn ceisio eu tanbrisio, ac sy'n parhau, er bod y Llywodraeth wedi gwarchod llywodraeth leol rhag effeithiau gwaethaf y toriadau a orfodwyd ar ein cyllidebau.

Ond mae'n iawn i'r holl aelwydydd sydd â modd o dalu'r dreth gyngor wneud hynny, a gwneud cyfraniad ariannol i'r gwasanaethau a ddarparir i'w cymunedau. Ac mae hyn yn berthnasol i bob cartref, p'un a ydynt yn berchen ar eu cartref neu'n ei rentu, p'un a yw eu heiddo yn unig gartref iddynt, neu eu bod yn byw yno am ran o'r flwyddyn yn unig. Mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd fod cartrefi nad oes ganddynt fodd o dalu yn cael cymorth effeithiol a'u bod yn cael eu trin ag urddas a pharch.

Mae gennym fframwaith cenedlaethol cynhwysfawr ar waith i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu casglu'r dreth gyngor, ac os oes angen, gorfodi pobl i'w thalu. A'r awdurdodau unigol sy'n gyfrifol am gasglu'r dreth gyngor, ac mae ganddynt nifer o bwerau i'w helpu gyda hyn. Mae gan awdurdodau lleol weithdrefnau profedig ar gyfer sicrhau eu bod yn gallu casglu'r dreth yn effeithiol ac yn effeithlon gan aelwydydd sy'n gallu fforddio talu.

Mae gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio rôl hanfodol i'w chwarae hefyd yn sicrhau bod pob eiddo wedi'i restru'n gywir at ddibenion y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Ac rwy'n meddwl bod gan Gymru enw rhagorol mewn perthynas â chasglu'r dreth gyngor. Mae ein cyfradd gasglu gyfartalog yn uwch na'r gyfradd yn Lloegr a'r Alban, ac wrth gwrs, ni ellir ein cymharu â Gogledd Iwerddon lle nad oes ganddynt dreth gyngor y gellir ei chymharu.

Cynyddodd cyfraddau casglu yng Nghymru i dros 97 y cant pan gyflwynasom ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn 2013-14, ac maent wedi'u cynnal ar y lefel uchel honno byth ers hynny. Mae rhai awdurdodau'n cyflawni cyfraddau casglu uwch nag eraill, a hynny am resymau nad ydynt yn gysylltiedig â natur eu sylfaen dreth gyngor neu ddemograffeg leol, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau i sicrhau eu bod yn rhannu arferion da ac yn dysgu gwersi oddi wrth ei gilydd.

Rwy'n credu bod cyhoeddi protocol y dreth gyngor yn gynharach eleni, a gafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth â llywodraeth leol, yn gam allweddol o ran ein hymdrechion i wneud y dreth gyngor yn decach. Mae'r pwerau i godi premiymau treth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo sy'n wag yn hirdymor yn bwerau disgresiwn, a chawsant eu cyflwyno i gynorthwyo awdurdodau lleol i reoli problemau gyda'u cyflenwad tai lleol. Mae'n bwysig nodi mai Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi rhoi'r pwerau hyn i awdurdodau mewn perthynas ag ail gartrefi.

Bwriedir iddynt gael eu defnyddio gan awdurdodau lleol ar y cyd â phwerau a chyfrifoldebau eraill ym maes tai, cynllunio a datblygu economaidd, ymhlith meysydd eraill, gan ystyried materion ac amrywiadau lleol. Yr awdurdodau unigol sydd i benderfynu a ydynt am ddefnyddio'r pwerau, a hwy sydd yn y sefyllfa orau i ddeall patrymau lleol y cyflenwad tai a'r galw am dai, a sut y mae'r rhain yn cyd-fynd â'u blaenoriaethau cynllunio a datblygu lleol.

Wrth benderfynu a ddylid cyflwyno premiwm, mae angen i bob awdurdod wneud asesiad llawn o'r holl effeithiau posibl. Mae'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer casglu'r dreth gyngor yn taro cydbwysedd rhwng buddiannau deiliaid tai unigol, cymunedau lleol a'n heconomi. Mae'n darparu fframwaith y gall pob awdurdod ei ddilyn i ystyried ei amgylchiadau lleol ac anghenion gwahanol randdeiliaid, ac mae'n adlewyrchu ffactorau a all fod yn arwyddocaol mewn un ardal ond nid mewn ardal arall.

Mae'n bwysig nodi ein bod wedi ymgynghori'n eang cyn cyflwyno'r pwerau, ac ymgynghorasom yn eang hefyd ar yr eithriadau i'r premiymau a'r eithriadau i'n cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach parhaol cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth newydd ar gyfer pob cynllun. Roedd y syniad a ddisgrifiodd Mike Hedges am gael gwared ar allu unrhyw eiddo preswyl i gael mynediad at y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach yn un o'r syniadau a ystyriwyd wrth lunio'r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach parhaol. Ond cafodd ei ddiystyru bryd hynny oherwydd credwyd y byddai'n feichus ac o bosibl, yn arwain at ganlyniadau anfwriadol.

Rwy'n awyddus i gael hyn yn iawn. Dyma un o'r rhesymau pam y dywedais yn eglur iawn yn y cynllun gwaith ar y polisi treth a lansiais ddiwedd y llynedd mai'r cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn i ddod fyddai ystyried dulliau newydd o atal pobl rhag efadu treth ac osgoi artiffisial, a gwella cydymffurfiaeth ar draws holl drethi Cymru, gan gynnwys mesurau i fynd i'r afael ag efadu ac osgoi ardrethi annomestig a monitro'r broses o weithredu deddfwriaeth newydd i sicrhau ei bod yn gweithredu yn ôl y bwriad ac nad yw'n creu cyfleoedd i osgoi talu.