1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Hydref 2019.
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'i Chytundeb Fframwaith Capasiti Cludo Nwyddau arfaethedig? OAQ54604
Llywydd, mae trafodaethau wedi eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth, ac adrannau eraill yn Llywodraeth y DU, ynghylch y cytundeb fframwaith capasiti cludo nwyddau, er bod y rhain yn aml yn hwyr yn y broses gaffael. Dim ond Adran Drafnidiaeth y DU wnaeth gymryd rhan yn y broses honno.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Bob blwyddyn, mae porthladdoedd Cymru, fel y gwyddoch, yn ymdrin â 48 miliwn tunnell o nwyddau. Maen nhw'n cario 2.5 miliwn o deithwyr. Maen nhw'n cyflogi 6,000 o bobl, gan gynnwys 1,000 o forwyr, ac mae'n werth £1 filiwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae camreolaeth y Llywodraeth o Brexit yn debygol o droi'n drychineb i economi Cymru ac i swyddi yng Nghymru. Felly, os na fydd cytundeb, mae'r cytundeb fframwaith capasiti cludo nwyddau yn siarter bosibl i gamfanteisio ar weithwyr, ac enwyd cwmnïau fel Irish Ferries a Fastnet Line eisoes gan undebau llafur fel Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth fel y 'llongau cywilydd', oherwydd eu diffyg cydnabyddiaeth o undebau llafur a chyfraddau cyflog camfanteisiol sy'n is nag isafswm cyflog y DU. Nawr, os bydd cytundeb, Prif Weinidog, bydd llinell Siegfried newydd y Torïaid a fydd yn gweithredu fel y ffin dollau i lawr canol Môr Iwerddon yn peri i gwmnïau osgoi porthladdoedd Cymru wrth iddyn nhw allu mynd yn ddi-dariff i'r Undeb Ewropeaidd. Felly, o dan drefniadau Brexit y Torïaid, Prif Weinidog, mae gweithwyr Cymru yn wynebu naill ai camfanteisio neu ddiweithdra. Felly, a wnewch chi, fel Prif Weinidog, gyfarfod â mi, a chydag RMT, i drafod y camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i amddiffyn gweithwyr Cymru a phorthladdoedd Cymru?
Wel, Llywydd, mae Mick Antoniw yn iawn i gyfeirio at bwysigrwydd porthladdoedd Cymru. Yn aml, nid yw'n hawdd ei ddeall mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond mae Caergybi yn un o borthladdoedd prysuraf y DU gyfan. Nawr, os byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb—digwyddiad yr ydym ni wedi dweud yn gwbl rheolaidd a fyddai'n drychinebus o ran economi Cymru—yna bydd effeithiau uniongyrchol a niweidiol ym mhorthladdoedd Cymru. Ac er ein bod ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU a chydag awdurdodau porthladdoedd i liniaru'r effeithiau hynny, byddan nhw'n rhai real a byddan nhw'n cael eu teimlo yng Nghymru, yn ogystal ag mewn mannau eraill.
Llywydd, aeth Mick Antoniw ymlaen i dynnu sylw at effaith y fargen y mae Prif Weinidog y DU wedi'i tharo erbyn hyn. Ac nid ydym wedi paratoi'n dda ar gyfer y cytundeb hwnnw, gan ein bod ni wedi bwrw ymlaen ar sail datganiadau blaenorol Prif Weinidog y DU ar y pwnc hwn. Ar 2 Gorffennaf, dywedodd wrth gynulleidfa yn Belfast,
'nid o dan unrhyw amgylchiadau', meddai
'beth bynnag sy'n digwydd, y gwnaf i ganiatáu i'r UE nac unrhyw un arall greu unrhyw fath o raniad i lawr Môr Iwerddon.'
Ar yr ail o Orffennaf, dyna'r hyn a ddywedodd—trefniant a ddisgrifiwyd gan Mrs May, gadewch i ni beidio ag anghofio, fel rhywbeth na allai unrhyw Brif Weinidog y DU byth gytuno iddo. A dyma ni, ychydig wythnosau yn ddiweddarach, a dyna'n union sy'n cael ei gynnig erbyn hyn. A hynny heb unrhyw gyfle i ni archwilio gyda'r weinyddiaeth hon yr effaith y bydd y penderfyniad hwnnw'n ei chael ar borthladdoedd yma yng Nghymru, a bydd yr effeithiau hynny yn gwbl real. Mae cytundeb Johnson yn gwneud Cymru, a phorthladdoedd Cymru, yn rheng flaen rhwng Prydain Fawr a'r Undeb Ewropeaidd.
Nawr, rwyf i wedi gweld gohebiaeth yr Aelod gyda fy nghyd-Weinidog Ken Skates ar y materion hyn, ac rwy'n hapus iawn i drafod cyfarfod gweinidogol sy'n cynnwys Mick Antoniw a'r undebau llafur.
Prif Weinidog, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bod y cytundeb fframwaith capasiti cludo nwyddau yn gallu rhoi'r gallu i adrannau Llywodraeth sicrhau capasiti cludo nwyddau ar gyfer cadwyni cyflenwi rhwng y DU a'r UE. Ond mae hefyd yn bwysig gwella capasiti cludo nwyddau ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. A sylwais yn ystod y broses o gasglu tystiolaeth ar gyfer strategaeth cludo nwyddau y Gororau a chanolbarth Cymru, a gyhoeddwyd y llynedd, bod y gymuned fusnes yn amlinellu'r cyfleoedd i gynhyrchu mwy o fwyd yn ddomestig. Rwyf i hefyd yn dweud hynny yng nghyd-destun pwysigrwydd amaethyddiaeth i ardaloedd o Gymru fel fy etholaeth i. Fe wnaethon nhw bwysleisio hefyd bwysigrwydd ymyraethau a fyddai'n cynyddu capasiti'r rhwydwaith ffyrdd yn y canolbarth, i sicrhau llif gwell i ganolbarth Lloegr. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau penodol yr ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â llif gwell o ran cludo nwyddau rhwng Cymru a Lloegr, yng nghyd-destun y pwyntiau yr wyf i wedi eu codi?
Diolchaf i'r Aelod am y pwynt yna. Mae'n gwneud pwynt pwysig am gapasiti cludo nwyddau ar y tir mawr rhwng Cymru a Lloegr. Ond mae trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y pwynt hwn wedi canolbwyntio'n llwyr nid ar ba un a fydd digon o gapasiti ar y ffyrdd, ond a fydd cludwyr nwyddau sydd â'r trwyddedau angenrheidiol i redeg eu lorïau ar y ffyrdd hynny o gwbl. Oherwydd, os ceir Brexit 'dim cytundeb', rydym ni'n gwybod na fydd digon o drwyddedau i ganiatáu i gerbydau nwyddau trwm weithredu yn y ffordd y maen nhw wedi ei wneud tra'r ydym ni wedi bod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r cytundeb fframwaith capasiti cludo nwyddau wedi canolbwyntio'n bennaf ar gapasiti ychwanegol ar draws y culforoedd byr, ond mae hefyd yn cael effaith yma yng Nghymru hefyd, rhwng porthladdoedd Cymru a Gweriniaeth Iwerddon. Bydd y porthladdoedd hynny, os ceir Brexit 'dim cytundeb', yn canfod eu hunain â chludwyr nwyddau nad ydyn nhw'n gallu gweithredu fel y maen nhw nawr, wedi eu hynysu o bosibl ar gyfandir Ewrop, ac yn methu â dychwelyd. A'n problem ni yn y cyd-destun hwnnw fydd nid pa un a yw'r ffyrdd eu hunain yn addas i'r diben; bydd yn golygu na fydd gennym ni'r capasiti sydd gennym ni heddiw i weithredu ar eu hyd.