1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 23 Hydref 2019.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi darpariaeth iechyd meddwl mewn ysgolion? OAQ54591
Diolch, Alun. Heddiw, lansiais yr ymgynghoriad ffurfiol ar ddrafft wedi'i ddiweddaru o'r pecyn cymorth gweithredu cwnsela mewn ysgolion a chymunedau. Mae hyn yn rhan annatod o'n gwaith i ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol, o dan arweiniad y Gweinidog iechyd a minnau ar y cyd.
Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Weinidog. Fe fyddwch yn cofio, ychydig wythnosau yn ôl, fy mod yn ddiolchgar iawn i chi am dreulio amser yn fy hen ysgol, sef Ysgol Gyfun Tredegar, wrth gwrs. Yn ystod yr ymweliad hwnnw, fe dreulioch chi beth amser yn siarad â chyngor yr ysgol, a byddwch yn cofio bod llawer o’u cwestiynau i chi yn ymwneud â materion iechyd meddwl a lles. Ac roeddwn yn credu bod y sgwrs a gawsoch gyda'r cyngor ysgol yn sgwrs dda, gref a phwerus iawn, a byddant hwythau, rwy'n siŵr, yn croesawu'r datganiad a wnaethoch yn gynharach heddiw. Ond sut y gallwch adeiladu ar hyn a gwneud dull mwy cyfannol, creu dull mwy cyfannol, o sicrhau bod lles ac iechyd meddwl pobl ifanc a phlant mewn ysgolion yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ysgolion ac i'r Llywodraeth hon?
Wel, diolch, Alun. Roeddwn yn falch iawn o ymweld ag Ysgol Gyfun Tredegar gyda chi, er fy mod ychydig yn siomedig na welais eich ffotograff ar y wal, ymhlith cyn-ddisgyblion nodedig eraill yr ysgol. [Chwerthin.] Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod y sgyrsiau a gefais gyda'r disgyblion yn Nhredegar yn sgyrsiau a gaf gyda disgyblion ysgol yn gyson. Nid wyf wedi bod mewn cyfarfod o gyngor ysgol eto lle nad yw mater lles ac iechyd meddwl ar frig yr agenda. Ac rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, fod y Senedd Ieuenctid yn ystyried lles ac iechyd meddwl yn un o'i blaenoriaethau ar gyfer ei thymor. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y Llywodraeth hon yn buddsoddi £2.5 miliwn eleni er mwyn ymgorffori gweithgaredd ar draws ystod gyfan o ddulliau ysgolion cyfan, gan gynnwys adnoddau ychwanegol i gwtogi amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cwnsela mewn ysgolion. Ac fel Llywodraeth, rydym yn benderfynol o weithio gydag ysgolion, a'r rheini yn yr haen ganol sy'n cefnogi ein hysgolion, i sicrhau bod lles ac iechyd meddwl yn cael eu hystyried o ddifrif ac nid fel elfen o'r cwricwlwm yn unig, ond yn sail i ddiwylliant o sut y mae addysg yn gweithredu yn ein gwlad.
Weinidog, canfu arolwg gan yr elusen iechyd meddwl Mind Cymru o dros 3,000 o bobl ifanc rhwng 11 a 19 oed fod un o bob saith o bobl ifanc yn dweud bod eu hiechyd meddwl naill ai'n wael neu'n wael iawn. Dywedodd bron i hanner y bobl ifanc a holwyd na fyddent yn gwybod ble i fynd i gael cymorth yn eu hysgolion, ac nid oedd mwy na'u hanner yn teimlo'n ddigon hyderus hyd yn oed i fynd at athro neu aelod arall o staff yr ysgol arall pe bai angen help arnynt. Weinidog, beth yw eich ymateb i alwad Mind Cymru y dylid gwneud lles ac iechyd meddwl yn rhan statudol o'r cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer pob dysgwr mewn ysgolion yng Nghymru?
Wel, Oscar, mae'n siomedig clywed yr ystadegau hynny, oherwydd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-2018, fe wnaeth dros 11,000 o bobl ifanc elwa o'r gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion. Ond gwyddom fod rhai pobl ifanc yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at y gwasanaeth hwnnw. Dyna pam rydym ni, fel y dywedais, yn darparu adnoddau newydd i awdurdodau lleol fel y gallwn edrych ar ffyrdd y gallwn ystyried trefniadau mwy cydweithredol gyda darparwyr cwnsela eraill yn hytrach na gwasanaethau traddodiadol yn unig, er enghraifft, gwasanaethau ar-lein, a allai ei gwneud yn haws i rai plant fynd i'r afael â’u problemau.
O ran y cwricwlwm newydd, un o'r chwe maes dysgu a phrofiad fydd iechyd a lles, a bydd digon o gyfle, ac yn wir, disgwyliad, y bydd y maes dysgu a phrofiad hwnnw'n sicrhau y gall athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda'n hysgolion ddarparu gwersi effeithiol iawn mewn perthynas â lles ac iechyd meddwl, gan gynnwys annog arfer o ofyn am gymorth os yw pobl yn teimlo bod angen iddynt ofyn am gymorth.
Fel y gwyddoch efallai, rwyf wedi bod yn edrych yn ddiweddar ar fater cyflyrau niwroddatblygiadol, ac rwy'n darganfod bod llawer o blant â chyflyrau niwroddatblygiadol sydd ar y sbectrwm awtistiaeth hefyd yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl—at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Weithiau, mae ganddynt broblem iechyd meddwl hefyd, ond yn aml, mae angen gwasanaethau arbenigol eraill. Felly, a oes gennych bolisi ar sgrinio am gyflyrau niwroddatblygiadol mewn ysgolion? A ydych yn credu y byddai'n gwneud synnwyr sgrinio disgyblion sydd â chyflyrau iechyd meddwl difrifol, neu broblemau camddefnyddio sylweddau, plant sydd wedi'u gwahardd, neu sydd mewn perygl o gael eu gwahardd, eu sgrinio am gyflyrau niwroddatblygiadol? Oherwydd mae triniaethau ar gael, ac i rai pobl, maent yn effeithiol tu hwnt. Ond nid yw'r angen hwn yn cael ei ddiwallu i lawer o'n plant sydd â'r angen hwn. Nid ydynt yn cael eu sgrinio, nid ydynt yn cael y diagnosis cywir, ac felly nid ydynt yn cael y driniaeth. A oes rhywbeth y gallwch ei wneud ynglŷn â hyn?
Wel, credaf mai'r agwedd gyntaf er mwyn ymateb yn briodol i anghenion y plant hynny yw sicrhau bod eu hanghenion dysgu penodol yn cael eu nodi’n gynnar yn eu gyrfa ysgol. A dyna pam fod y Llywodraeth hon yn gwario adnoddau ar sicrhau bod mwy a mwy o'n gweithwyr proffesiynol yn cael hyfforddiant fel y gallant nodi arwyddion o ystod o wahanol ffactorau a allai effeithio ar les plant a’u gallu i ddysgu, ac i allu ceisio cymorth gan weithwyr proffesiynol eraill, os yn briodol, i ddiwallu anghenion dysgu unigol y plant hynny. Ond rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod i drafod y defnydd o offer sgrinio, ac i weld a oes sylfaen dystiolaeth gref y bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth.