Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 23 Hydref 2019.
Fel rwyf newydd egluro wrth Mohammad Asghar, yn ddiweddarach y prynhawn yma, byddwn yn cael cyfle i drafod canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Nid wyf am achub y blaen ar y ddadl honno, ond bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad hwnnw, gan gynnwys ei brif argymhelliad, sef sefydlu adolygiad annibynnol i gyllid addysg yng Nghymru, gan archwilio rôl Llywodraeth Cymru, yr haen ganol, yr awdurdodau lleol, sydd â'r prif gyfrifoldeb am ariannu ysgolion, a sut y gallwn sicrhau ein bod yn gwybod bod digon o arian yn dod i mewn i'n system addysg a'i fod, o ran y ffordd y gwerir yr arian hwnnw, yn cael ei ddefnyddio'n briodol.