Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 23 Hydref 2019.
Weinidog, dros y 10 mlynedd diwethaf, mae gwariant y pen ar ddisgyblion wedi gostwng £500, sef bron i 10 y cant. Mae ysgolion yn ei chael hi'n anodd iawn yn ariannol. Maent mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid iddynt ddiswyddo staff. Felly, fel y Gweinidog Addysg yng Nghymru, gyda'r cefndir hwnnw a'r argyfwng hwnnw o ran cyllid, sut y gallwch gyfiawnhau safbwynt eich Llywodraeth a beth a wnewch ynglŷn â'r broblem?