Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 23 Hydref 2019.
Credaf fod angen gwario cyfran fwy o gyllideb Cymru ar addysg, ac mai gweithlu tra addysgedig yw'r offeryn gorau y gallwn ei gael at ddibenion datblygu economaidd. O ran yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer dyfarniad cyflogau athrawon, a gyhoeddwyd gennych ddoe, a fydd yn cael ei ddosbarthu drwy'r fformiwla ariannu i awdurdodau lleol ac yna ymlaen i ysgolion, rhywbeth sy'n mynd i arwain at enillwyr a chollwyr, neu a fydd yn cael ei ddyrannu i ysgolion i ddiwallu'r costau uwch ar sail cost? Mae sut rydych yn gwneud hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr, oherwydd os gwnewch hynny drwy ei roi yn y fformiwla yn unig, bydd gennych enillwyr a chollwyr ymhlith awdurdodau lleol ac enillwyr a chollwyr ymhlith ysgolion.