Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 23 Hydref 2019.
Rwy'n cytuno â chi, Mike, o ran pwysigrwydd buddsoddi mewn addysg. Mae'n fuddsoddiad; nid yw'n gost. Os ydym am ddatblygu’r sgiliau uchel y bydd eu hangen arnom ar gyfer economi lwyddiannus yn y dyfodol, y peth gorau y gallwn ei wneud yw buddsoddi yn ein plant ac yn y rhai sy’n gweithio gyda hwy bob dydd. Cytunir ar y dyraniad rhyngom ni a'r awdurdodau lleol, a chaiff ei wneud ar sail eu cyfran deg o'r £12.8 miliwn ychwanegol hwnnw rydym wedi gallu ei ddarparu iddynt.