Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch yn fawr, Lynne. Fel y gwyddoch, fe wnaethom lansio'r canllawiau newydd gyda'n gilydd ar 10 Medi a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y grŵp cynghori cenedlaethol, i sicrhau eu bod yn cael ei hyrwyddo'n helaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol, nid yn unig mewn ysgolion ond yn ehangach ar draws y system. Ac fel rhan o'n dull ysgol gyfan, byddwn yn ystyried y ffordd orau o fonitro'r broses o'u rhoi ar waith, eu defnydd a'u heffaith.