Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â chi yn y lansiad a chroesawu'r canllawiau, ond fel y dywedais, wrth gwrs, cam cyntaf yw hwn. Maent yn ganllawiau rhagorol a luniwyd gan yr Athro Ann John, ond ni fyddant ond cystal â'r broses o'u gweithredu. Tybed hefyd a ydych yn ymwybodol o ganllawiau a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, a nododd y dylid trin un achos o hunanladdiad mewn ysgol fel clwstwr posibl oherwydd y risg uwch i bobl ifanc. A fyddech yn cytuno â mi fod hynny'n pwysleisio pa mor bwysig yw hi, lle bu hunanladdiad mewn ysgol, fod yr ysgol honno'n croesawu mesurau ôl-ymyrraeth addas ar frys, fel rhaglen Cam wrth Gam, sydd mor llwyddiannus gyda'r Samariaid?