Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch, Mark. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu addysg addas i bob plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd ein diwygiadau uchelgeisiol mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol yn ailwampio'r system ar gyfer cefnogi dysgwyr ag ADY yn llwyr, a bydd yn gyrru gwelliannau ac yn sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni eu potensial llawn, beth bynnag y bo.