1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 23 Hydref 2019.
8. Pa gymorth sydd ar gael ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru? OAQ54570
Diolch, Mark. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu addysg addas i bob plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd ein diwygiadau uchelgeisiol mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol yn ailwampio'r system ar gyfer cefnogi dysgwyr ag ADY yn llwyr, a bydd yn gyrru gwelliannau ac yn sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni eu potensial llawn, beth bynnag y bo.
Diolch. Ar ddechrau’r mis, derbyniodd yr holl Aelodau e-bost gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith a oedd yn tynnu sylw at y risgiau os yw cyfathrebu lleferydd ac iaith heb ddatblygu'n llawn. Rwyf am sôn am ychydig o bethau a wnaethant, ond er enghraifft, heb gymorth effeithiol, bydd angen triniaeth iechyd meddwl ar un o bob tri phlentyn ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu; mae gan 88 y cant o ddynion ifanc sy'n ddi-waith yn hirdymor anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu; ac mae gan hyd at 60 y cant o bobl ifanc mewn sefydliadau cyfiawnder ieuenctid anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu tebyg.
Mae bron i ddau ddegawd wedi bod ers i mi ymladd y frwydr hon ar ran un o fy mhlant er mwyn sicrhau ei fod yn cael yr ymyriadau a oedd yn cael eu gwrthod iddo fel arall, a ddau ddegawd yn ddiweddarach, rydym yn dal i dderbyn e-byst gyda'r ystadegau arswydus hyn. Y tu hwnt i'r Ddeddf ADY, pa gamau penodol y gallwch eu cymryd gyda'ch cyd-Aelodau—gan fod hwn yn fater trawsadrannol—i gydnabod yr angen hollbwysig am therapi lleferydd ac iaith ar gyfer ystod eang o blant yn amgylchedd yr ysgol, gan gydnabod data Cymreig hefyd ar werth economaidd therapi lleferydd ac iaith, fod pob £1 a fuddsoddir mewn gwell therapi lleferydd ac iaith yn cynhyrchu £6.43 drwy enillion uwch dros oes gyfan, gan ei fod yn galluogi mynediad at y cwricwlwm ac yn creu cyfleoedd i unigolion, a bod pob £1 a fuddsoddir mewn gwell therapi lleferydd ac iaith ar gyfer disgyblion awtistig yn cynhyrchu £1.46 drwy arbedion cost dros oes gyfan yn sgil gwell cyfathrebu?
Wel, Mark, nid wyf am ddadlau â chi o gwbl ynghylch pwysigrwydd datblygu sgiliau llafaredd ar yr oedran cynharaf posibl i'n plant. Gwyddom fod sylfaen dda mewn sgiliau siarad yn arwain at lwyddiant yn nes ymlaen yn eu taith addysgol.
Ar wahân i'r rhaglen ADY, rydych yn gofyn beth arall sy'n digwydd, ond mae'r rhaglen drawsnewid ADY yn gwbl hanfodol i hybu gwaith rhyngadrannol gwell rhwng addysgwyr proffesiynol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan sicrhau bod anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer pob plentyn yn cael eu nodi'n gynharach a chreu'r disgwyliad, a bodloni'r disgwyliad hwnnw, y bydd y gwasanaethau hynny ar gael. Rwy’n parhau i gael trafodaethau gyda chyd-Aelodau ym maes iechyd—ac mae’r Gweinidog iechyd yn ei sedd—ynglŷn â sut y gallwn sicrhau, pan fydd ysgol yn nodi bod gan blentyn penodol angen gofal iechyd, y bydd y gefnogaeth honno yno ar yr adeg briodol i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r plentyn hwnnw mewn perthynas â dysgu.
Ac, yn olaf, Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac a gaf fi ddatgan buddiant personol? Fe ddywedoch chi, Weinidog, mewn ateb i Mark Isherwood, fod gan bob awdurdod lleol gyfrifoldeb am gyflawni'r agenda hon. Fe wyddoch chi ac fe wn i, o'ch llwyth gwaith etholaethol chi ac o fy llwyth gwaith etholaethol innau, fod plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cam bob dydd o'r wythnos mewn ysgolion yn y wlad hon. Fe wyddoch chi ac fe wn i nad yw awdurdodau lleol yn darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar blant ag anghenion dysgu ychwanegol i gyflawni eu potensial. Fe fuoch chithau a minnau'n gweithio gyda'n gilydd yn y Llywodraeth i ddarparu proses newydd wedi'i thrawsnewid a'i hailstrwythuro ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Onid ydych yn credu bellach, Weinidog, ei bod yn bryd inni sicrhau bod adnoddau wedi'u clustnodi, ffrydiau cyllid penodol, ar gael i ysgolion fel y gallant ddarparu addysg anghenion dysgu ychwanegol? Oherwydd nid oes gennyf hyder—. Mae fy mhrofiad personol, a'ch profiad personol chithau, rwy'n credu, fel yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, yn dweud wrthych chi ac yn dweud wrthyf finnau na fydd y system bresennol, hyd yn oed system ddiwygiedig, oni bai fod cyllid ychwanegol ynddi, cyllid wedi’i glustnodi'n benodol, yn llwyddo i wneud hynny.
Lywydd, mae'r Aelod yn cyfeirio at ddigwyddiadau penodol ym Mhowys. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, os oes ganddynt ddiddordeb mewn addysg ym Mhowys, o ganfyddiadau adroddiad diweddar Estyn ar berfformiad yr awdurdod addysg lleol. Roedd yr adroddiad hwnnw gan Estyn yn cynnwys cyfeiriad penodol at gefnogaeth i anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion addysgol arbennig a'r angen i Gyngor Sir Powys wneud yn well yn hyn o beth. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod gydag Estyn a Phowys ynghylch y ffordd orau o ymateb i gynnwys yr adroddiad hwnnw gan Estyn, ac rwy'n rhagweld rôl fwy i Lywodraeth Cymru wrth geisio sicrwydd gan Powys ynghylch gwelliannau o ganlyniad i adroddiad Estyn. Rwy’n parhau i drafod gyda swyddogion beth arall y gallwn ei wneud ar yr ochr ariannol, yn ychwanegol at yr £20 miliwn sydd eisoes ar gael ar gyfer y rhaglen drawsnewid ADY, er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn.
Ond gadewch imi ddweud yn glir wrth bob awdurdod lleol yng Nghymru: wrth inni aros i Ddeddf ADY gael ei rhoi ar waith, mae ganddynt gyfrifoldebau cyfreithiol a statudol am blant yn eu hysgolion yn awr, a'n disgwyliad yw y byddant yn bodloni eu gofynion statudol a chyfreithiol i gefnogi pob plentyn sydd ag angen dysgu ychwanegol. Nid oes angen iddynt aros am y Ddeddf—mae ganddynt gyfrifoldebau cyfreithiol yn awr, ac rwy'n disgwyl iddynt eu cyflawni.
Diolch i'r Gweinidog.