Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 23 Hydref 2019.
Lywydd, hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy meddyliau i a holl Lywodraeth Cymru—mae ein meddyliau gyda'r teuluoedd sy'n dioddef yn sgil y newyddion gwirioneddol erchyll heddiw. Fe fyddwch yn deall nad yw'r holl fanylion am y digwyddiad ofnadwy hwn gennyf, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn ac yn briodol fod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal gan yr heddlu i'r digwyddiad. Digon yw dweud wrth gwrs, fel Llywodraeth Cymru, y byddwn yn chwarae ein rhan lawn a chydweithredol yn yr ymchwiliad mewn perthynas â'n meysydd cyfrifoldeb, o ran unrhyw daith y gallai'r cerbyd dan sylw fod wedi'i wneud drwy Gymru.