Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch am yr ymateb yna, Weinidog. Mae hwn yn achos sy'n torri calon, bod 39 o bobl wedi teimlo'r angen i roi eu bywydau mewn perig fel hyn, a bod y 39 wedi colli eu bywydau mewn ffordd mor erchyll. Mae fy nghydymdeimlad innau efo nhw a'u teuluoedd. Waeth pa mor bell o gartref mae rhywun yn colli bywyd, yr un ydy'r galar. Mae yna lawer o gwestiynau yn codi o'r hyn—cwestiynau dyngarol, yn sicr, am pam mae'r unigolion wedi cael eu gyrru i gymryd y cam yma, ond mae yna gwestiynau ymarferol yn codi hefyd, wrth gwrs.