3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 23 Hydref 2019.
2. Pa drafodaethau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal gyda’r awdurdodau perthnasol yng ngoleuni’r newyddion trasig bod cyrff 39 o bobl wedi’u darganfod mewn cynhwysydd lori yn Essex ar ôl iddynt ddod i mewn i’r DU trwy Gaergybi? 357
Lywydd, hoffwn ddechrau drwy gofnodi fy meddyliau i a holl Lywodraeth Cymru—mae ein meddyliau gyda'r teuluoedd sy'n dioddef yn sgil y newyddion gwirioneddol erchyll heddiw. Fe fyddwch yn deall nad yw'r holl fanylion am y digwyddiad ofnadwy hwn gennyf, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn ac yn briodol fod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal gan yr heddlu i'r digwyddiad. Digon yw dweud wrth gwrs, fel Llywodraeth Cymru, y byddwn yn chwarae ein rhan lawn a chydweithredol yn yr ymchwiliad mewn perthynas â'n meysydd cyfrifoldeb, o ran unrhyw daith y gallai'r cerbyd dan sylw fod wedi'i wneud drwy Gymru.
Diolch am yr ymateb yna, Weinidog. Mae hwn yn achos sy'n torri calon, bod 39 o bobl wedi teimlo'r angen i roi eu bywydau mewn perig fel hyn, a bod y 39 wedi colli eu bywydau mewn ffordd mor erchyll. Mae fy nghydymdeimlad innau efo nhw a'u teuluoedd. Waeth pa mor bell o gartref mae rhywun yn colli bywyd, yr un ydy'r galar. Mae yna lawer o gwestiynau yn codi o'r hyn—cwestiynau dyngarol, yn sicr, am pam mae'r unigolion wedi cael eu gyrru i gymryd y cam yma, ond mae yna gwestiynau ymarferol yn codi hefyd, wrth gwrs.
Yr hyn y mae angen i ni ei wneud ar unwaith, rwy'n meddwl, yw dechrau gofyn rhai o'r cwestiynau ymarferol ynghylch sut a pham. Mae angen gofyn y cwestiynau hyn ochr yn ochr ag ymchwiliadau'r heddlu a fydd yn amlwg yn dechrau ar unwaith. Sut y gallodd y lori hon fynd drwy Gaergybi heb ei darganfod fel hyn? Pam y penderfynai'r rheini a oedd ynddi, neu eraill a oedd yn gysylltiedig â'r drasiedi hon, mai Dulyn-Caergybi fyddai'r man croesi a ddewiswyd? Rwyf wedi clywed pobl yn cwyno rywsut mai aelodaeth o'r UE oedd ar fai am fod Caergybi yn ffin braidd yn rhy agored. Gadewch i mi ddweud nad oes a wnelo penderfyniadau i dorri swyddi dros y blynyddoedd yng Nghaergybi ddim byd â'r UE ac maent yn mynd yn ôl ymhellach o lawer nag unrhyw drafodaethau ar Brexit; maent wedi ymwneud â thoriadau a chyni a dim byd arall. Felly, pa sicrwydd rydych wedi'i geisio, Weinidog, ynghylch lefel staffio rheoli ffiniau yng Nghaergybi, gan gynnwys diffyg swyddogion gorfodi parhaol ar gyfer mewnfudo? Rwyf fi ac eraill, fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi mynegi pryderon ers tro byd ynglŷn ag ofnau ynghylch diffyg adnoddau ffiniau yng Nghaergybi. Cafodd y comisiynydd ymateb gan y Swyddfa Gartref pan aeth ar drywydd hyn, yn dweud bod y Llywodraeth yn ymwybodol o natur fregus yr ardal deithio gyffredin—yn ymwybodol, efallai, ond beth a wnaethant yn ei gylch o ran cynyddu adnoddau?
Roedd Alex Carlile QC, pan oedd yn adolygu deddfwriaeth wrth-derfysgaeth, yn cyfeirio at broblemau gyda phlismona ffiniau a mesurau gwrth-derfysgaeth yng Nghaergybi 20 mlynedd yn ôl. Mewn cymaint o ffyrdd, mae arnaf ofn fod Caergybi wedi cael ei ddiystyru fel porthladd. Er bod Dover yn gadarn ar yr agenda fel porthladd prysuraf y DU ar gyfer llongau fferi gyrru mewn ac allan, ymddengys bod Caergybi yn cael ei anwybyddu fel yr ail brysuraf, gyda thua 400,000 o lorïau yn pasio drwyddo bob blwyddyn. Nid yw hyn yn dderbyniol, yng nghyd-destun Brexit ac anwybyddu Caergybi yn nogfen Yellowhammer, er enghraifft, na nawr yng nghyd-destun mewnfudo a'r fath golli bywyd trasig. Fel y gwyddom, credir bod y lori wedi dod o Fwlgaria ac wedi cyrraedd Cymru ddydd Sadwrn yng Nghaergybi. Dyfynnir Seamus Leheny, rheolwr polisi Gogledd Iwerddon ar gyfer y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau, gan Gymdeithas y Wasg heddiw yn dweud:
Pe bai'r lori wedi dod o Fwlgaria— fel y credwn ei bod— mae dod i mewn i Brydain drwy Gaergybi yn llwybr anarferol.
Aeth ymlaen i ddweud:
Mae pobl wedi bod yn dweud bod diogelwch ac archwiliadau wedi cynyddu mewn mannau fel Dover a Calais, felly efallai y gellid ei gweld fel ffordd haws i ddod i mewn drwy fynd o Cherbourg neu Roscoff draw i Rosslare, yna i fyny ar hyd y ffordd i Ddulyn.
Mae'n ffordd bell o gwmpas, meddai, ac fe fydd yn ychwanegu diwrnod ychwanegol at y daith. Rwy'n credu mai'r cwestiwn sydd angen i ni ei ofyn yw: a yw'r diffyg adnoddau gan y Swyddfa Gartref i Gaergybi wedi gwneud ein porthladdoedd yn fregus ac wedi ychwanegu at fregusrwydd sylweddol y 39 o bobl a ganfuwyd yn farw yn awr? Siaradais â chynghorydd o Gaergybi yn gynharach heddiw, y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, ynglŷn â sut y bu yntau hefyd yn mynegi'r pryderon hyn ers cryn amser. A wnewch chi ymuno ag ef a minnau i wahodd Gweinidogion y Swyddfa Gartref i Gaergybi i weld drostynt eu hunain pam y mae angen buddsoddi'n iawn yn y porthladd hwn ac i bwysleisio wrth y Swyddfa Gartref fod Caergybi'n haeddu cael blaenoriaeth fel y porthladd llongau fferi gyrru mewn ac allan prysuraf yng Nghymru, a'r prysuraf ond un yn y DU?
A gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau? Wrth gwrs, byddwn yn gwahodd Gweinidogion y Swyddfa Gartref i borthladd Caergybi. A yw'r porthladd yn fregus? Wel, gadewch i ni ganiatáu i'r ymchwilwyr ateb hynny yn dilyn ymchwiliad trylwyr i'r hyn sydd wedi digwydd. Ond o'm profiad i, gallaf ddweud nad oes diffyg proffesiynoldeb yng Nghaergybi o ran diogelwch y ffin. A oes cwestiwn ynglŷn â chapasiti, wel, gadewch i'r ymchwilwyr edrych yn fanwl ar hynny.
Rwy'n meddwl bod Rhun ap Iorwerth yn codi cwestiwn difrifol iawn ynglŷn â pham y mae'n ymddangos bod 39 o bobl wedi teimlo'r angen i beryglu eu bywydau. Rwy'n gobeithio ein bod yn mynd i roi amser i gydnabod y bywydau a gollwyd mor ofnadwy a'r drallod y mae hyn yn ei achosi i lawer o deuluoedd. Ni wyddom ymhle eto. Ni wyddom pwy oeddent, ni wyddom a oeddent yn dod o Fwlgaria yn wir. Ond hoffwn ddweud hyn: weithiau mae'n hawdd i ni siarad am ffiniau mewn ffyrdd haniaethol ac artiffisial, ond y realiti yw bod ffiniau a'r trefniadau wrthynt hefyd yn ymwneud â phobl; maent yn ymwneud â bywydau dynol. Ac ni chredaf y dylem fyth anghofio pa mor ddifrifol yw hyn a'r costau dynol trasig a all ddigwydd yn y mannau croesi hynny. Gwelsom nifer sylweddol o fywydau'n cael eu colli yn ôl yn 2000 pan gafodd mwy na 50 o bobl, rwy'n credu, eu mygu yng nghefn lori a'u darganfod yn Dover. Mae nifer o bobl wedi marw mewn lorïau ers hynny, a chredaf y dylem ystyried y rhesymau pam, gan amlaf oherwydd bod pobl yn dianc rhag amgylchiadau brawychus.
Lywydd, nid wyf am ddyfalu'r rhesymau pam y mae'n ymddangos bod y lori wedi dod i mewn i'r DU drwy Gaergybi. Gwn fod rhai sylwadau'n cael eu gwneud gan arbenigwyr trafnidiaeth ei fod yn llwybr anarferol, os canfyddir bod y lori wedi mynd drwy Cherbourg i Rosslare ac yna i fyny i Ddulyn. Rwy'n teimlo o ddifrif ei bod hi'n iawn ac yn briodol i'r heddlu ymchwilio i'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'r drasiedi enfawr hon.
Wrth gwrs, rwy'n rhannu eich teimladau ac yn cydymdeimlo â theuluoedd y bobl hyn sydd wedi dioddef profiad erchyll, beth bynnag oedd eu cymhelliad i ddod yma. Mewn gwirionedd, mae sawl blwyddyn ers i mi fynegi pryder yn y Siambr hon gyntaf fod Caergybi yn fan gwan o ran smyglo pobl i mewn i'r DU. Ym mis Mai, dywedodd Hafan o Oleuni, sefydliad di-elw sy'n canolbwyntio ar atal, codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i oroeswyr caethwasiaeth fodern a masnachu pobl yng ngogledd Cymru, na fyddent byth wedi gallu dod o hyd i unrhyw atebion go iawn o ran pa mor ddiogel oedd y man croesi o Iwerddon i Gaergybi, a'r ffordd arall, er bod aelodau'r cyhoedd ac uwch glerigwyr yn dweud wrthynt fod amheuon yn codi'n aml fod pobl yn cael eu cludo i mewn i'r DU ar y fferïau yng Nghaergybi. Roeddent wedi dweud wrthyf o'r blaen fod y prif linellau smyglo drwy Gaergybi yn dod o ddwyrain Ewrop, yn enwedig Rwmania a Bwlgaria, ac o Fietnam, ac fe wnaethant ddweud wrthyf hefyd eu bod wedi cael gwybod fis Hydref diwethaf fod Caergybi bellach wedi'i ddatrys.
Dywedodd Kevin Hyland OBE, Comisiynydd Atal Caethwasiaeth annibynnol cyntaf y Deyrnas Unedig, a fu gynt yn bennaeth ar uned masnachu pobl Heddlu Metropolitanaidd Llundain, fod achosion a nodwyd yng Nghymru y llynedd yn cynnwys, yn benodol, 10 dioddefwr o Fietnam. Mae bellach yn gweithio i'r Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad Ewrop ar gymorth i ddioddefwyr a goroeswyr, ac mae'n cynrychioli Iwerddon yng ngrŵp arbenigwyr Cyngor Ewrop, ar weithredu yn erbyn masnachu pobl. Mae hefyd yn siarad yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ar y materion hyn. Ac unwaith eto, dywedodd wrthyf fod y broblem fod pobl yn gwadu, ledled y DU ac yn fyd-eang, fod masnachu pobl yn arddangos ei hun fel rhywbeth arall o'r pwys mwyaf. Dywedodd fod gormod o ganu clodydd, pan fo 99.6 i 99.7 y cant o ddioddefwyr ar draws y byd yn cael eu colli, a 0.35 y cant o droseddwyr yn unig a gafwyd yn euog ar draws y byd y llynedd.
Felly, mae gennyf ddau gwestiwn: un, a fyddech yn fodlon cyfarfod â Kevin Hyland, eich hun neu gyda chyd-Aelodau priodol, gan mai ef, o bosibl, yw'r prif arbenigwr byd-eang ar y mater hwn, ac mae'n awyddus iawn i ymgysylltu â'r Cymry—[Anghlywadwy.]—a Llywodraeth Cymru ar y mater hwn? Ac yn y tymor byrrach, efallai y gallech roi ateb cyflymach: pa sgwrs y mae cydgysylltydd atal caethwasiaeth Llywodraeth Cymru ei hun wedi'i chael gyda Stena Line ac Irish Ferries, nid heddiw neu ers y newyddion trasig hwn yn unig, ond dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf ers i'r man gwan hwn gael ei amlygu gyntaf?
A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gwestiynau? Byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â Kevin Hyland, ond credaf y byddai'n ddefnyddiol hefyd pe bai Gweinidog o'r Swyddfa Gartref yn cytuno i wneud hynny hefyd. Credaf ei bod yn bwysig pwysleisio ar hyn o bryd nad ydym eto wedi derbyn unrhyw wybodaeth gadarn a fyddai'n cadarnhau bod yr achos hwn yn gysylltiedig â smyglo pobl, caethwasiaeth fodern neu drosedd arall, ond yn amlwg, mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain: mae 39 o bobl wedi cael eu canfod yn farw mewn lori a deithiodd o ddwyrain Ewrop.
Mewn achosion o gaethwasiaeth fodern, mae cydgysylltydd atal caethwasiaeth Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r asiantaethau allweddol i nodi unrhyw wersi a fydd yn ein helpu i fynd i'r afael â throseddau erchyll o'r fath. Rydym mewn cysylltiad â'r Swyddfa Gartref. Rydym mewn cysylltiad â'r ymchwilwyr i ddysgu cymaint ag y gallwn, ac i gymryd unrhyw wersi y gallwn eu dysgu o'r digwyddiad hwn, a'u cymhwyso cyn gynted ag y bo modd.
Diolch i'r Gweinidog.