Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 23 Hydref 2019.
Yr hyn y mae angen i ni ei wneud ar unwaith, rwy'n meddwl, yw dechrau gofyn rhai o'r cwestiynau ymarferol ynghylch sut a pham. Mae angen gofyn y cwestiynau hyn ochr yn ochr ag ymchwiliadau'r heddlu a fydd yn amlwg yn dechrau ar unwaith. Sut y gallodd y lori hon fynd drwy Gaergybi heb ei darganfod fel hyn? Pam y penderfynai'r rheini a oedd ynddi, neu eraill a oedd yn gysylltiedig â'r drasiedi hon, mai Dulyn-Caergybi fyddai'r man croesi a ddewiswyd? Rwyf wedi clywed pobl yn cwyno rywsut mai aelodaeth o'r UE oedd ar fai am fod Caergybi yn ffin braidd yn rhy agored. Gadewch i mi ddweud nad oes a wnelo penderfyniadau i dorri swyddi dros y blynyddoedd yng Nghaergybi ddim byd â'r UE ac maent yn mynd yn ôl ymhellach o lawer nag unrhyw drafodaethau ar Brexit; maent wedi ymwneud â thoriadau a chyni a dim byd arall. Felly, pa sicrwydd rydych wedi'i geisio, Weinidog, ynghylch lefel staffio rheoli ffiniau yng Nghaergybi, gan gynnwys diffyg swyddogion gorfodi parhaol ar gyfer mewnfudo? Rwyf fi ac eraill, fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi mynegi pryderon ers tro byd ynglŷn ag ofnau ynghylch diffyg adnoddau ffiniau yng Nghaergybi. Cafodd y comisiynydd ymateb gan y Swyddfa Gartref pan aeth ar drywydd hyn, yn dweud bod y Llywodraeth yn ymwybodol o natur fregus yr ardal deithio gyffredin—yn ymwybodol, efallai, ond beth a wnaethant yn ei gylch o ran cynyddu adnoddau?
Roedd Alex Carlile QC, pan oedd yn adolygu deddfwriaeth wrth-derfysgaeth, yn cyfeirio at broblemau gyda phlismona ffiniau a mesurau gwrth-derfysgaeth yng Nghaergybi 20 mlynedd yn ôl. Mewn cymaint o ffyrdd, mae arnaf ofn fod Caergybi wedi cael ei ddiystyru fel porthladd. Er bod Dover yn gadarn ar yr agenda fel porthladd prysuraf y DU ar gyfer llongau fferi gyrru mewn ac allan, ymddengys bod Caergybi yn cael ei anwybyddu fel yr ail brysuraf, gyda thua 400,000 o lorïau yn pasio drwyddo bob blwyddyn. Nid yw hyn yn dderbyniol, yng nghyd-destun Brexit ac anwybyddu Caergybi yn nogfen Yellowhammer, er enghraifft, na nawr yng nghyd-destun mewnfudo a'r fath golli bywyd trasig. Fel y gwyddom, credir bod y lori wedi dod o Fwlgaria ac wedi cyrraedd Cymru ddydd Sadwrn yng Nghaergybi. Dyfynnir Seamus Leheny, rheolwr polisi Gogledd Iwerddon ar gyfer y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau, gan Gymdeithas y Wasg heddiw yn dweud:
Pe bai'r lori wedi dod o Fwlgaria— fel y credwn ei bod— mae dod i mewn i Brydain drwy Gaergybi yn llwybr anarferol.
Aeth ymlaen i ddweud:
Mae pobl wedi bod yn dweud bod diogelwch ac archwiliadau wedi cynyddu mewn mannau fel Dover a Calais, felly efallai y gellid ei gweld fel ffordd haws i ddod i mewn drwy fynd o Cherbourg neu Roscoff draw i Rosslare, yna i fyny ar hyd y ffordd i Ddulyn.
Mae'n ffordd bell o gwmpas, meddai, ac fe fydd yn ychwanegu diwrnod ychwanegol at y daith. Rwy'n credu mai'r cwestiwn sydd angen i ni ei ofyn yw: a yw'r diffyg adnoddau gan y Swyddfa Gartref i Gaergybi wedi gwneud ein porthladdoedd yn fregus ac wedi ychwanegu at fregusrwydd sylweddol y 39 o bobl a ganfuwyd yn farw yn awr? Siaradais â chynghorydd o Gaergybi yn gynharach heddiw, y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, ynglŷn â sut y bu yntau hefyd yn mynegi'r pryderon hyn ers cryn amser. A wnewch chi ymuno ag ef a minnau i wahodd Gweinidogion y Swyddfa Gartref i Gaergybi i weld drostynt eu hunain pam y mae angen buddsoddi'n iawn yn y porthladd hwn ac i bwysleisio wrth y Swyddfa Gartref fod Caergybi'n haeddu cael blaenoriaeth fel y porthladd llongau fferi gyrru mewn ac allan prysuraf yng Nghymru, a'r prysuraf ond un yn y DU?