Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 23 Hydref 2019.
Mae'r stori yma yn tanlinellu pam fod yn rhaid mynd i'r afael â'r cynnydd mewn troseddau casineb yn erbyn pobl lesbiaidd, deurywiol, hoyw a thraws yng Nghymru, a hynny ar frys. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cofnodwyd bron i 4,000 o droseddau casineb yng Nghymru, yr uchaf eto ar gyfer troseddau casineb yn y wlad yma, a bron i ddwbl y ffigwr ers 2013. Siom yw gweld y lefelau yn codi unwaith eto, a hynny ar draws pob math o nodwedd warchodedig: hil, crefydd, anabledd, ac yn erbyn pobl LHDT. Mae troseddau casineb yn erbyn y gymuned yma yn benodol wedi cynyddu 12 y cant, o 670 i 751 dros y flwyddyn ddiwethaf, a'r nifer o droseddau casineb yn erbyn pobl traws wedi cynyddu o 64 i 120—bron i ddwbl. Ac mae'n debyg, wrth gwrs, fod yna nifer o resymau dros y cynnydd, yn cynnwys mwy o barodrwydd i ddod ymlaen i riportio troseddau a dulliau gwell o gasglu'r wybodaeth, ond rhaid inni dderbyn bod rhagfarn hefyd wrth wraidd y cynnydd mewn troseddau casineb, a rhaid mynd i'r afael â'r rhagfarn hwnnw os ydym ni am greu cymdeithas wâr yng Nghymru—un sy'n coleddu gwahaniaeth, un sy'n parchu hawliau unigolion o ran eu rhywedd.
Mi ddywedwn i fod hyn oll yn ddadl deilwng dros ddatganoli cyfiawnder i Gymru, gan greu'r cyfle i adolygu'r holl broses o ddelio â throseddau casineb, ac mi fydd Leanne Wood yn sôn am hyn yn ei chyfraniad hi. Yn y cyfamser, cyn gallu datganoli cyfiawnder, mae angen mynd i'r afael â'r diffyg adnoddau. Mae yna bryder difrifol ynghylch y diffyg adnoddau sydd eu hangen i fynd i'r afael â throseddau casineb, ac mae yna anghydraddoldeb mewn cefnogaeth ledled Cymru, sy'n golygu bod yr adnoddau yn dameidiog ac yn destun i loteri cod post. Er enghraifft, y clwb ieuenctid roeddwn yn sôn amdano yn GISDA ydy'r unig un o'i fath yng Ngwynedd gyfan, a'r unig un, hyd y gwn i, sy'n darparu lle i aelodau Cymraeg eu hiaith.
Mae yna waith da yn digwydd, a dwi yn falch bod ein comisiynydd heddlu a throseddau yn y gogledd, Arfon Jones, yn cyflawni gwaith clodwiw. Mae gan Heddlu Gogledd Cymru ddau swyddog amrywiaeth a throseddau casineb sy'n rhoi hyfforddiant i swyddogion newydd i adnabod troseddau casineb. Ac mae'r bwrdd cyfiawnder troseddau casineb hefyd wedi bod yn gwneud gwaith da ar draws Cymru. Ac felly, er mai torcalonnus ydy gweld cynnydd yn nifer y troseddau sydd yn cael eu recordio gan yr heddlu, efallai bod hyn yn golygu bod yna well ymwybyddiaeth a bod y cynnydd yn deillio o well ymwybyddiaeth gan yr heddlu a'r cyhoedd a hynny sydd wedi arwain at fwy o riportio. Ac, wrth gwrs, mae'n well i ddioddefwr ddefnyddio a chael cefnogaeth drwy'r gwasanaethau, yn hytrach na dioddef mewn tawelwch.
Ond mae'n rhaid i fi ddweud dwi'n teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi methu â gwir amgyffred yr angen i roi pwysigrwydd i'r mater yma, ac i fynd at wraidd y broblem wrth fynd i'r afael â throseddau casineb. Mae yna fframwaith wedi cael ei ddyfeisio ar gyfer mynd i'r afael â throseddau casineb, ond nid ydym wedi cael llawer o wybodaeth am hwnnw na dim diweddariad ers bron i ddwy flynedd. Ac, wrth gwrs, mae angen rhoi ystyriaeth tymor hir i'r mater yma, ac i weld lefelau troseddau casineb yn gostwng unwaith ac am byth. Ac mae hyn yn golygu bod yn rhaid inni roi sylw ar fesurau ataliol, gan ddechrau yn yr ysgol.
Byddai gwersi mewn addysg perthynas a rhywioldeb yn golygu byddai plant yn ennill dealltwriaeth glir o amrywiaeth pobl a pherthynas iachus. Mi fydden nhw'n dysgu am wahanol fathau o deuluoedd, cyfeillgarwch, perthynas broffesiynol a pherthynas rywiol yn ogystal â goddefgarwch a bod yn gynhwysol ynglŷn â hunaniaeth. Mae'n hanfodol, yn fy marn i, a dwi'n gwybod bod y Gweinidog addysg yn cytuno, fod yr addysg hon yn cael ei roi i bob un plentyn yng Nghymru.
Mae Stonewall Cymru yn dweud yn glir iawn—maen nhw'n dweud fel hyn: mae addysg perthynas a rhywioldeb cynhwysol ac effeithiol yn sicrhau bod pob person ifanc yn derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gadw'n ddiogel, i wneud penderfyniadau gwybodus, cael perthnasoedd iach a pharatoi ar gyfer bywyd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae'n hanfodol bod yr holl adnoddau a chefnogaeth posib yn trosglwyddo i'n hysgolion ni er mwyn sicrhau eu bod nhw'n hyderus i gyflwyno gwersi addysg perthynas a rhywioldeb yn effeithiol. Ac mae'n dda gweld bod cynnwys yr elfen yma—yr addysg perthynas a rhywioldeb—yn y cwricwlwm yn un sydd wedi derbyn cefnogaeth glir a chadarn ar draws y pleidiau yn y Siambr yma.
Dwi'n hapus ein bod ni fel Senedd heddiw yn gallu trafod y mater yma ac yn gallu gwneud safiad cryf ar y cyd ar faterion difrifol sy'n mynd i galon ein cymdeithas ni. Mae'n rhaid inni edrych ar ôl ein gilydd. Dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau cyd-Aelodau i'r cynnig sydd gerbron.