Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 23 Hydref 2019.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Diolch yn fawr, Siân, am agor y ddadl. Rwy'n credu ei fod yn adlewyrchiad trist o'r cyfnod rydym yn byw ynddo fod adroddiadau am droseddau casineb yn erbyn pobl LHDT yng Nghymru a Lloegr wedi saethu i fyny yn ôl data newydd sydd newydd gael ei grybwyll, data a luniwyd gan y Swyddfa Gartref a sefydliadau eraill. Yn wir, o edrych ar yr ystadegau, credaf fy mod yn iawn i ddweud bod cynnydd o 25 y cant wedi bod yn nifer y troseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn unig—25 y cant.
Mae hwn yn ystadegyn sy'n peri pryder mawr, ond wrth gwrs, y tu ôl i'r ystadegau, mae yna straeon unigol torcalonnus. A Siân, roeddech yn sôn am un o'r straeon diweddaraf, sydd wedi cael cyhoeddusrwydd, yng Ngwynedd, yn eich etholaeth chi, rwy'n credu, a roddodd fachgen yn ei arddegau yn yr ysbyty. Fel y dywedoch chi, aelod o glwb ieuenctid oedd hwnnw—dim ond 13 mlwydd oed. Ymosodwyd arno mewn safle bws lleol wrth iddo gael ei gam-drin yn eiriol. Deallaf fod y sylfaenydd, Aled Griffiths, mewn cyfarfod, wedi galw am aelodau—dywedodd y dylai cynghreiriaid sefyll gyda'i gilydd dros gydraddoldeb. Ac rwy'n credu y byddai pob un ohonom sy'n gynghreiriaid yn y Siambr hon ac yn y sefydliad hwn yn cytuno ac yn cefnogi'r safbwyntiau hynny—mae angen i bawb ohonom sefyll gyda'n gilydd, fel y dywedoch chi ar ddiwedd eich araith. Wrth gwrs, un enghraifft yw hon. Mae llawer mwy. Mewn achos arall, dyrnodd dyn ei gymydog a gweiddi geiriau homoffobig sarhaus arno—mae'n erchyll darllen y manylion hyn hyd yn oed. Mae'n anghredadwy bod hyn yn digwydd yng nghymdeithas heddiw, ond fe ddyrnodd ei gymydog a'i sarhau'n homoffobig mewn modd erchyll, a hynny ar ôl ymosod ar ei bartner yn ôl yr honiad. Felly, roedd nifer o bobl yn gysylltiedig â'r ymosodiad hwnnw.
Felly, diben y ddadl hon yw galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, gydag ysgolion a'r heddlu i geisio dileu'r rhagfarn a'r trais y mae ein hetholwyr LHDT ledled Cymru yn ei wynebu o ddydd i ddydd.
Os astudiwch yr ystadegau, mae'n peri mwy fyth o ofid. Mae troseddau casineb gwrth-draws wedi cynyddu mwy na phedair gwaith yn y pum mlynedd diwethaf. Felly, mae'r rhain yn ystadegau syfrdanol na fyddech yn eu derbyn mewn unrhyw agwedd arall ar fywyd nac unrhyw linell arall o ystadegau troseddol. Felly, mae gwir angen mynd i'r afael â hyn cyn gynted ag y bo modd.
Rydych wedi sôn am ddatganoli cyfiawnder, ac rwy'n credu eich bod wedi dweud bod Leanne Wood yn bwriadu edrych ymhellach ar hynny. Ac yn sicr nid wyf yn gwrthwynebu datganoli rhagor o bwerau i'r lle hwn lle bo angen. Rwy'n credu ei bod yn eithaf dymunol, mewn sawl ffordd, fod gennym, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd cyllid a'r cyn Brif Weinidog yn wir, yr offer priodol i ymdrin â'r materion hyn. Hoffwn eich annog i fod yn ofalus, oherwydd, wrth gwrs, nid pwerau pellach yw'r ateb bob tro. Fel y dywedoch chi, rwy'n credu, mae'n rhaid i ni wybod beth y bwriadwn ei wneud gyda'r pwerau hynny, a dyna pam rwy'n credu bod pwynt 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth sy'n dangos sut y gellir cysylltu pob un o'r meysydd gwahanol hyn er mwyn ceisio gwneud i bethau weithio'n well. Felly, buaswn yn pryderu pe bai'r ffocws yn cael ei dynnu oddi ar ddefnyddio'r pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd a'i droi ar drafodaeth—er mor bwysig yw hi—ynglŷn â'r modd y caiff pwerau'r lle hwn eu cynllunio yn y dyfodol, oherwydd ar hyn o bryd, rwy'n credu bod angen i bobl LHDT ledled Cymru wybod ein bod yn gofalu amdanynt ac yn gwneud yr hyn a allwn ar hyn o bryd i'w cefnogi.
Fe sonioch chi am addysg, ac mae'r Gweinidog addysg yn y Siambr heddiw, ac mae'n ymddangos i mi na allwch ymdrin â throseddau casineb a homoffobia, a phob math o ffobiâu eraill, heb fynd i'r afael â'r rheini'n gynnar mewn gwirionedd. Yn aml, mae hadau troseddau sy'n cael eu cyflawni yn ddiweddarach mewn bywyd wedi'u hau'n gynnar iawn, ac mae'n ymwneud â'r dylanwadau niweidiol cynnar ar bobl ifanc nad ydynt yn cael sylw ac nid oes ganddynt enghraifft dda i'w dilyn bob amser, felly credaf fod gan ysgolion a'r byd addysg rôl bwysig i'w chwarae. A buaswn yn dweud bod camau breision wedi cael eu gwneud yn y maes hwnnw—mae materion na châi eu crybwyll o'r blaen bellach yn cael eu trafod mewn ysgolion, felly mae hwnnw'n gynnydd, ond mae angen inni fynd yn llawer pellach i fynd i'r afael â'r broblem er mwyn sicrhau, yn y dyfodol, fod pobl LHDT, pobl draws—yn wir, yr holl bobl rydym yn eu cynrychioli—yn gallu teimlo'n ddiogel a theimlo'n rhydd, mewn clybiau ieuenctid neu lle bynnag, i fynegi eu hunain a byw'r math o fywydau y maent eisiau eu byw ac y maent yn haeddu gallu eu byw yn rhydd a heb ragfarn yng Nghymru.