Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 23 Hydref 2019.
A gaf fi longyfarch Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl hon ac am ei harwain yn y ffordd y gwnaeth, ac ar ei gwaith yn ei hetholaeth? Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn y stori ynglŷn â'r clwb ieuenctid yno, GISDA.
Fe ddywedodd ar un adeg yn ei haraith mai rhagfarn oedd wrth wraidd y cynnydd. Dywedodd Leanne Wood, a hynny'n gwbl briodol rwy'n credu, fod agweddau cymdeithasol wedi datblygu gryn dipyn yn ystod y degawdau diwethaf. Nid wyf yn gwybod a yw'n iawn dweud mai rhagfarn sydd wrth wraidd y cynnydd, oherwydd mae hynny, i mi, yn awgrymu bod rhagfarn wedi gwaethygu. Nid wyf yn gwybod a yw hynny'n wir yn y tymor byr. Yn sicr, yn y tymor hwy, fy argraff i, fel Leanne, yw bod pethau wedi gwella—yn amlwg, nid yw'n ddigon da ac mae yna broblemau y mae angen inni fynd i'r afael â hwy.
Mae gennym yr ystadegau hyn, ac mae'r ffocws wedi bod ar y rhai yr adroddwyd wrth yr heddlu yn eu cylch a'r ffordd y maent wedi cofnodi'r troseddau, a'r cynnydd o 17 y cant yng Nghymru a'r 10 y cant ar draws Cymru a Lloegr dros y flwyddyn ddiwethaf. Pan fydd rhywun yn rhoi gwybod am drosedd casineb, mae'n bwysig iawn fod yr heddlu'n eu cofnodi mewn ffordd gyson. Tan yn ddiweddar, yn anffodus, dengys tystiolaeth nad yw hynny wedi digwydd, ac mae'n bwysig fod safonau cofnodi troseddau'n cael eu gosod yn ganolog.
Y ffordd y gwneir hyn yw fod rhywun yn rhoi gwybod am ddigwyddiad os yw'n honni bod trosedd wedi'i chyflawni, a chaiff ei gofnodi fel trosedd. Os yw'r person hwnnw, neu unrhyw un arall yn wir, yn dweud eu bod yn ystyried bod hil neu nodwedd warchodedig arall yn ffactor ysgogiadol, yna, unwaith eto, mae'n rhaid ei gofnodi fel trosedd casineb. Rwy'n credu bod hynny'n iawn ac yn briodol, ond mae hefyd yn iawn ein bod yn deall hynny ac yn deall nad oedd hynny'n digwydd mewn modd dibynadwy yn y gorffennol. Ac ni phrofwyd mai dyma oedd pob un o'r achosion hyn o reidrwydd, ac nid ydym wedi clywed gan bobl eraill a oedd yno, na diffynnydd yn arbennig, o ran yr hyn y gallent ei ddweud. Rwy'n credu bod 13 y cant o'r achosion hyn yn arwain at gyhuddiad neu wŷs, sy'n gyfran ychydig yn uwch nag ar gyfer troseddau'n gyffredinol.
Fodd bynnag, credaf mai un dull cywirol defnyddiol yw cymharu ystadegau troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu â'r hyn a welwn yn arolwg troseddu Prydain. Mae'r duedd wedi bod yn wahanol yn hwnnw. Ar y materion hyn, mae gennym amrywiadau'r arolwg, ac mae'r cyntaf rwyf am gyfeirio ato yn arolwg 2007 i 2009, ac roedd hwnnw, o'i grosio i fyny o ffigur yr arolwg i'r boblogaeth gyfan, yn awgrymu bod 69,000 o droseddau casineb yn gysylltiedig â chyfeiriadedd rhywiol wedi'u cyflawni ledled y DU. Ac yna, yn 2010-12, disgynnodd y ffigur hwnnw o 69,000 i 42,000 yn arolwg troseddu Prydain, ac yn 2013-15 disgynnodd eto i 29,000. Ceir cynnydd bach yn 2016-18 o 29,000 i 30,000, ond nid yw'n ystadegol arwyddocaol ar sail y niferoedd yn yr arolwg. Ar y troseddau casineb trawsryweddol, nid oeddent yn gofyn y cwestiynau perthnasol yn y ddau arolwg cyntaf. Gwnaethant hynny yn y ddau olaf, ond mae ganddynt ryw fath o ymateb seren, drwy ddweud bod y niferoedd yn rhy fach iddynt allu grosio i fyny'n ddibynadwy a rhoi amcangyfrif ar gyfer y wlad yn ei chyfanrwydd. Mae un drosedd casineb yn ormod, ac mae'r troseddau casineb trawsryweddol hyn—. Yn amlwg, mae pobl drawsryweddol, a nifer y bobl sy'n arddel yr hunaniaeth honno wedi cynyddu, ac mae'n cael ei drafod mewn ffordd nad oedd yn digwydd oddeutu degawd yn ôl. Efallai y bydd pobl yn dadlau ynglŷn â'r trefniadau ar gyfer chwaraeon neu beth yw'r trefniadau ar gyfer tai bach, ond mae'n anfaddeuol pan fydd troseddau'n cael eu cyflawni, a throseddau treisgar yn aml, a hynny'n unig oherwydd, neu o leiaf yn cael eu hysgogi gan hunaniaeth rhywun.
Felly, cytunaf â llawer o'r hyn a ddywedwyd yn y ddadl hon, ond buaswn yn cynnwys yr elfen gywirol honno o edrych ar arolwg troseddu Prydain yn ogystal â'r ystadegau heddlu a gofnodwyd. Pan fyddwch yn cymharu ystadegau'r heddlu ar draws y DU, yn gyffredinol, buaswn yn dweud nad yw heddluoedd Cymru yn y 10 uchaf ar gyfer troseddau casineb, ond mae un eithriad i hynny, a chyfeiriadedd rhywiol yw'r maes hwnnw, lle mae dau o heddluoedd Cymru—Gwent, yn fy rhanbarth i, a de Cymru, sy'n cyffwrdd â rhan o fy rhanbarth—yn bedwerydd ac yn bumed o'r 43, gyda 26 trosedd casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol am bob 100,000. Felly, mae'n bosibl ei fod yn awgrymu bod problem benodol yno yng Nghymru, yn ne Cymru o leiaf, y dylem fod yn boenus yn ei chylch ac y dylem holi pam fod hynny'n digwydd, ac edrych i weld sut y gallwn ei wella, hyd yn oed os nad yw Cymru ar y blaen, yn gyffredinol, mewn perthynas â'r troseddau casineb eraill.
Fe ddywedaf yn syml nad wyf wedi cael fy argyhoeddi eto o'r cyswllt â phwyntiau 2 a 3 yn y cynnig, ac am y rheswm hwnnw nid wyf yn bwriadu cefnogi'r cynnig heddiw. Mae'n anffodus o ran amseru, oherwydd rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed yr Arglwydd Thomas yfory; rwy'n credu ei fod yn lansio'i adroddiad comisiynydd ar y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru am 8:30 yfory yn y Pierhead. Rwy'n gobeithio gweld rhai o fy nghyd-Aelodau yno, ac rwy'n awyddus iawn i wrando, darllen ac ystyried yr adroddiad hwnnw cyn ystyried ein safbwynt ar ddatganoli cyfiawnder. Nid ydym wedi ein darbwyllo ynglŷn â hynny eto; yn benodol, buaswn yn poeni pe baem yn mynd o gomisiynwyr heddlu a throseddu sydd wedi'u hethol i heddlu ar gyfer Cymru gyfan yn sgil hynny. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhai pethau da mewn rhai meysydd yma, ond nid yw hynny ynddo'i hun yn rheswm digonol dros ddatganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd yn fy marn i, ond fe fyddaf yn darllen yr hyn a ddywed yr Arglwydd Thomas a'i dîm yfory yn ofalus iawn. Diolch.