5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb LHDT

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 23 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 4:12, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad? Rwy'n falch iawn o'ch clywed yn dweud y byddwch yn cyflwyno'r sylwadau hynny. Wrth gwrs, un o'r nodweddion gwarchodedig lle nad yw trais yn erbyn y rhai sydd â'r nodwedd warchodedig honno'n cael ei drin fel trosedd casineb yw trais yn erbyn menywod. A ydych yn credu y gall fod yna achos? Ni fuaswn yn gofyn i chi ohirio—buaswn yn gofyn i chi ystyried gweithredu ar y lleill—ond hoffwn ofyn i chi ystyried a yw'r amser wedi dod i drin trais yn erbyn menywod fel trosedd casineb yn ogystal, oherwydd, wedi'r cyfan, mae gwreig-gasineb yn un o'r rhagfarnau dyfnaf a mwyaf gwreiddiedig yn ein cymdeithas heddiw.