Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 23 Hydref 2019.
Addysg dda yw un o'r blociau adeiladu pwysicaf y gall plentyn ei gael. Fodd bynnag, yn llawer rhy aml clywn am y pwysau enfawr y mae ysgolion yn ei wynebu wrth geisio rheoli eu cyllidebau lle nad yw'r cyllid a gânt yn ddigonol. Mae hyn yn amlwg yn cael effaith negyddol ar ddarpariaeth addysg, gan gynnwys ysgolion yn gorfod cwtogi ar nifer y staff er mwyn mantoli eu cyllidebau.
Roedd cwestiynau wedi codi hefyd ynghylch lefel y tryloywder a'r amrywiad o ran dosbarthiad cyllid i ysgolion a bu dadlau ynghylch y cydbwysedd rhwng cyllid heb ei neilltuo ar gyfer llywodraeth leol a'r arian sydd wedi'i dargedu'n fwy penodol tuag at flaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru. Yn fwy diweddar, clywsom fod pryder cyffredinol y byddai cyllidebau annigonol i ysgolion yn llesteirio'r gwaith o gyflawni agenda diwygio addysg Llywodraeth Cymru.
Mae lefel enfawr a digynsail o ddiwygio'n digwydd ym maes addysg. Mae gennym gwricwlwm newydd radical ar gyfer Cymru, Deddf anghenion dysgu ychwanegol bwysig newydd, cyflwyno dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a diwygiadau pellgyrhaeddol i ddysgu proffesiynol yn sail i'r cyfan. Ni allwn ddisgwyl i'r diwygiadau pwysig hyn lwyddo heb gyllid digonol.
Yng ngoleuni hyn, cytunodd y pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad er mwyn edrych yn benodol ar ddigonolrwydd cyllid ysgolion yng Nghymru a'r ffordd y caiff cyllidebau ysgolion eu pennu a'u dyrannu. Wrth fwrw ymlaen â'r ymchwiliad, clywsom dystiolaeth gan amrywiaeth eang o randdeiliaid ar draws y sector. Aethom ati hefyd i gynnal astudiaethau achos manwl gyda thair ysgol, lle cyfarfuom â phobl ar bob lefel—disgyblion a rhieni, athrawon ac arweinwyr ysgol, awdurdodau lleol a llywodraethwyr ysgol. Roedd yr hyn a glywsom yn y tair ysgol yn ddidostur iawn, ac ar brydiau, yn frawychus. Roedd gweld effaith cyfyngiadau cyllidebol ar y rhai ar y rheng flaen yn uniongyrchol yn dangos pa mor bwysig yw hi i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gyfarfod â ni yn ystod yr astudiaethau achos, ac am eu barn onest am y problemau a wynebir.
Gwnaeth y pwyllgor gyfanswm o 21 o argymhellion, yn cwmpasu ystod eang o faterion. Yn yr amser sydd ar gael heddiw, ni allaf ymdrin â'n holl argymhellion. Fodd bynnag, fe amlinellaf rai o'r prif bryderon a godwyd. Rydym yn falch bod y Gweinidog Addysg wedi derbyn yr holl argymhellion yn ein hadroddiad a'r croeso cyffredinol y mae wedi'i roi i waith y pwyllgor yn y maes allweddol hwn. Mae'n peri pryder, serch hynny, nad yw ymateb y Gweinidog yn cynnwys manylion clir ynglŷn â sut y gweithredir nifer o'r argymhellion. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ymhelaethu ar ei hymateb yn ystod y ddadl heddiw ar nifer o'r argymhellion allweddol hynny.
Wrth amlinellu canfyddiadau'r ymchwiliad, hoffwn ddechrau gyda'r casgliad mwyaf pryderus y daethom iddo fel pwyllgor, a lle roedd y dystiolaeth a gafwyd yn ysgubol. Yn syml iawn, nid oes digon o arian yn mynd i mewn i'r system addysg yng Nghymru ac nid oes digon yn cyrraedd yr ysgolion. Gwelsom hyn yn uniongyrchol yn ystod ein hymweliadau ag ysgolion. Fel rydym wedi'i amlinellu yn yr adroddiad, casgliad syml yw hwn nad oes iddo ateb syml, gwaetha'r modd. Mae'r system ar gyfer ariannu ysgolion yn hynod gymhleth, yn amlhaenog ac yn ddibynnol ar lawer o ffactorau, nid yn lleiaf wrth gwrs y swm o arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru o San Steffan. Rhaid cydnabod hefyd fod y cyfrifoldeb am ddarparu cyllid digonol ar gyfer ein hysgolion yn torri ar draws portffolios Gweinidogion. O ystyried cymhlethdod y fformiwlâu ariannu, rhaid i Weinidogion ar draws Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod ysgolion yn cael yr arian sydd ei angen arnynt.
Mae cyllid ychwanegol ar gyfer addysg yn hanfodol—a dychwelaf at y pwynt hwn yn fuan—ond er y byddai wedi bod yn hawdd argymell cyllid ychwanegol, credwn nad cynyddu lefel y cyllid yn unig yw'r ateb. Hefyd, rhaid defnyddio'r cyllid yn effeithiol ac yn y mannau cywir. Er mwyn deall y problemau y mae ein hysgolion yn eu hwynebu yn llawn, mae'n hanfodol inni wybod yn gyntaf beth yw graddau'r bwlch cyllido sy'n wynebu'r system addysg yng Nghymru, yn enwedig ar yr adeg hon o ddiwygio sylweddol. Mae angen inni ddeall faint y mae'n costio i redeg ysgol ac addysgu plentyn, fel isafswm sylfaenol, cyn ystyried yr holl ffactorau angenrheidiol megis amddifadedd a theneurwydd poblogaeth, yn ogystal â'r agenda ddiwygio enfawr.
Mae argymhelliad 1 yn ein hadroddiad yn galw'n glir felly ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad brys i sefydlu hyn. Mae ymateb y Gweinidog wedi bod yn gadarnhaol iawn, gan gadarnhau bod Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ystyried cwmpas yr adolygiad. Edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu gan y Gweinidog maes o law. A gaf fi ddweud er hynny, beth bynnag fydd canlyniad yr ymchwiliad hwnnw, na ellir ei roi yn y blwch 'rhy anodd', fel sydd wedi digwydd gydag adolygiadau blaenorol ar ariannu ysgolion, megis adolygiad Bramley yn 2007 a'r blynyddoedd dilynol?
I ddychwelyd at fater cyllid ychwanegol, rwy'n siŵr bod yr Aelodau'n ymwybodol fod cyhoeddiadau diweddar am gyllid ar gyfer addysg yn Lloegr wedi arwain at swm canlyniadol o bron £200 miliwn i Gymru. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion adroddiad y pwyllgor, buaswn yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf, os nad y cyfan, o hwn yn cael ei glustnodi ar gyfer addysg yng Nghymru.
Fel y nodir yn ein hadroddiad, nid yw'r problemau a wynebir yn ymwneud yn unig â lefel y cyllid i ysgolion, maent yn ymwneud hefyd â'r ffordd y mae'n gwneud ei ffordd i reng flaen yr ysgol a'r modd y'i defnyddir. Mae hyn yn amlwg yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys blaenoriaethu'r gyllideb ar lefel Llywodraeth Cymru, sut y caiff adnoddau ar gyfer llywodraeth leol eu rhannu rhwng awdurdodau, a yw awdurdodau lleol yn blaenoriaethu ysgolion o fewn eu proses gyllidebu eu hunain, i ba raddau y maent yn dirprwyo cyllid i'r ysgolion eu hunain, a sut y maent yn dosbarthu'r cyllid hwnnw rhwng ysgolion.
O ystyried cymhlethdod y system, roeddem yn pryderu wrth glywed nad yw Llywodraeth Cymru yn monitro lefel y flaenoriaeth y mae awdurdodau lleol yn ei rhoi i ysgolion wrth ddosbarthu eu cyllid. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn drwy gydol yr ymchwiliad mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddyrannu adnoddau i addysg, ac maent yn atebol yn ddemocrataidd am hyn. Er ein bod yn derbyn y safbwynt hwn, o ystyried cyfrifoldeb cyffredinol Llywodraeth Cymru dros addysg, credwn fod rhaid iddi allu bodloni ei hun fod awdurdodau lleol yn rhoi digon o flaenoriaeth i addysg.
Mae argymhelliad 5 yr adroddiad, felly, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro'r gwariant hwn yn fwy manwl, er mwyn sicrhau ei hun fod digon o arian yn cael ei ddarparu i alluogi ysgolion i gyflawni'n effeithiol yr hyn sy'n ofynnol ganddynt: addysg o ansawdd uchel, yn ogystal â gwella a chyflawni'r agenda ddiwygio. Er bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn, nid yw'r manylion yn ei hymateb yn rhoi unrhyw arwydd o sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r rôl fonitro ehangach y galwasom amdani. Felly, byddwn yn gofyn am eglurhad pellach gan y Gweinidog ar y mater hwn.
Yn y dystiolaeth a gawsom, roedd dryswch ynglŷn â diben asesiadau wedi'u seilio ar ddangosyddion o fewn y setliad llywodraeth leol. Safbwynt clir Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru oedd nad oes gan asesiadau wedi'u seilio ar ddangosyddion fawr o ddylanwad ar faint a werir ar addysg. Fodd bynnag, dadleuodd undebau'r prifathrawon nad oes fawr o bwynt sefydlu asesiadau wedi'u seilio ar ddangosyddion os nad yw awdurdodau lleol yn eu hystyried. Er ein bod yn derbyn nad yw cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol wedi'i glustnodi, credwn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu mwy o eglurder ynglŷn â diben asesiadau wedi'u seilio ar ddangosyddion. Er nad ydynt yn rhagnodi faint sy'n rhaid i awdurdod lleol ei wario, onid ydynt o leiaf cymaint ag amcangyfrif Llywodraeth Cymru o faint y dylai fod angen i awdurdod lleol ei wario er mwyn cynnal lefel safonol o wasanaeth? Nid yw hynny'n gwbl glir o ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 6.
Lywydd, codwyd llawer o faterion eraill pwysig yn ystod yr ymchwiliad yr hoffwn eu trafod ond ni allaf ymdrin â hwy heddiw. Hoffwn gloi drwy ddweud fy mod yn credu'n wirioneddol mai diffyg cyllid digonol i'n hysgolion yw un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. I ailadrodd, rwy'n falch iawn fod y Gweinidog wedi cytuno i gomisiynu adolygiad i nodi faint o arian y mae'r system ysgolion yng Nghymru ei angen ac edrychaf ymlaen at wybodaeth bellach am hynny.
Buddsoddi mewn addysg yw'r buddsoddiad ataliol pwysicaf y gall unrhyw Lywodraeth ei wneud. Daeth yn bryd i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd, ar draws y pleidiau, ar draws Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, i sicrhau bod ein hysgolion yn cael yr arian sydd ei angen arnynt i ddarparu'r addysg o safon uchel y mae ein holl blant a'n pobl ifanc yn ei haeddu. Diolch yn fawr.