Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 23 Hydref 2019.
A gaf fi ddiolch i chi, Lynne? Nid wyf yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi synnu'n arbennig at gynnwys yr adroddiad hwn. Mae'r cyllid fesul disgybl ar gyfer ysgolion wedi bod yn wael yn hanesyddol o'i gymharu â gweddill y DU, ac mae'r canlyniadau i'w gweld bellach. Mae athrawon, arweinwyr ysgolion, undebau fel Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon ac arweinwyr cynghorau wedi bod yn wirioneddol ofnus ynglŷn â pha mor agored yw ysgolion i gwtogi ariannol, a diolch i bob un ohonynt am ddod gerbron y pwyllgor i roi eu tystiolaeth. Ac yn ogystal â'u pryderon am y swm cyffredinol sydd ar gael i ysgolion, mae athrawon ac arweinwyr ysgolion wedi bod yn effro iawn i'r gwahaniaeth gweladwy rhwng cynghorau a pha mor annelwig yw'r rhesymau pam y mae'r gwahaniaethau hynny'n bodoli.
Er gwaethaf y bwlch ariannu hirsefydlog rhwng disgyblion, ymrwymodd y Ceidwadwyr Cymreig i'r adroddiad hwn oherwydd ein bod yn credu bod problem mewn perthynas â chyllid Llywodraeth y DU. Er y gallem fod wedi gwthio'r pwynt amlwg fod Llywodraeth Cymru yn dewis sut y mae'n blaenoriaethu ei gwariant, a'r arian ychwanegol y pen a ddarperir gan y cyllid gwaelodol, mae rhai o'r pryderon hyn yn rhai i'r DU gyfan, felly roedd yn rhaid bod Llundain yn rhannol gyfrifol am ddatrys y broblem. Ond mae Llundain wedi ymateb. O ganlyniad i'r diffyg cenedlaethol sy'n lleihau, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £7.1 biliwn i ysgolion dros y tair blynedd nesaf. Dywed y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y bydd hyn yn adfer gwerth y pot o arian i ysgolion i lle roedd cyn i effeithiau'r cwymp ariannol ddechrau gadael eu hôl. Mae hyn yn golygu bod tua £355 miliwn yn ychwanegol yn dod i Gymru o gyllideb ysgolion y DU—a'r gyllideb ysgolion yw honno, nid y gyllideb addysg—dros y tair blynedd nesaf. Mae gan y Gweinidog yr eglurder yn awr i ganiatáu ar gyfer ymrwymiad amlflwyddyn, fel y gofynnodd amdano wrth dderbyn argymhelliad 15.
Y £195 miliwn sy'n dod i Gymru o gyllideb ysgolion y DU ar gyfer 2020-1 o ganlyniad i'r adolygiad o wariant eleni—clywsom gan y Trefnydd ychydig wythnosau'n ôl nad yw'r penderfyniad wedi'i wneud ynglŷn â sut y gwerir yr arian hwnnw. Rwy'n gobeithio y cawn wybod ei fod wedi'i ddyrannu'n fuan, oherwydd yn y tair blynedd diwethaf mae'r bwlch ariannu disgyblion rhwng Cymru a Lloegr wedi culhau'n amlwg—dywed Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau ei fod yn £645; mae Llywodraeth Cymru yn dweud fel arall. Ond mae wedi culhau, oherwydd mae nifer y disgyblion yn Lloegr wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac nid yw cyllid yno wedi dal i fyny. Yng Nghymru, dim ond 29 o ddisgyblion ychwanegol a gawsom yn ystod y 10 mlynedd, ond mae'r bwlch cyllido hirsefydlog—a gadewch i ni gofio ei fod wedi bod cymaint ag £800—yn dal i fod yno, er gwaethaf y cyllid gwaelodol.
Mae'r bwlch wedi deillio o benderfyniadau cyllidebol hirdymor a wnaed gan Lywodraeth Cymru, nid Llywodraeth y DU. Mae'n rhagflaenu ac yn codi o resymau gwahanol i'r rhai sy'n effeithio ar ysgolion yn Lloegr, ac yn wahanol i Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y DU wedi gweithredu'n gymharol gyflym, gan wrthdroi'r toriadau mewn termau real sydd wedi effeithio ar werth y gacen ariannu ysgolion honno. Felly, gan fod yr arian ychwanegol hwn yn dod bellach, y cwestiwn yn awr yw a welwn y bwlch cyllid y pen i ddisgyblion yn agor eto. Oherwydd os gwnaiff, bydd yn gwbl glir mai dewis a wneir ym Mae Caerdydd ydyw, nid un yn Llundain.