Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 23 Hydref 2019.
Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n synnu eich bod chi, Suzy Davies, yn mabwysiadu ymagwedd 'swyddfa ganolog' o'r fath. Roeddech yn rhan o'r pwyllgor, ac mae'n adroddiad adeiladol. Nid yw wedi'i fwriadu i fod yn y ffordd rydych chi'n ei gyflwyno, fel rhaniad rhwng y DU a Bae Caerdydd. A fyddech cystal â bod yn fwy adeiladol ac adlewyrchu barn y pwyllgor?