Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 23 Hydref 2019.
Gadewch i mi barhau, oherwydd, wrth gwrs, fel y crybwyllodd Lynne Neagle yn ei sylwadau agoriadol, cyfeiriwyd at San Steffan yn hyn, a chredaf ei bod yn werth inni nodi bod San Steffan bellach wedi ymateb i bryderon a wnaed yn amlwg iddynt yn ystod y pedair neu bum mlynedd diwethaf yn unig. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r bwlch ariannu fesul disgybl a amlygwyd iddynt ers i mi fod yma a chyn hynny. Felly, yr hyn rwyf am ei ddweud yw, hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn ymrwymo'r £355 miliwn cyfan i ysgolion—nid i addysg, i ysgolion—yna, fel y dywed adroddiad y pwyllgor, rydym yn taro 'niwl cyllido' llywodraeth leol, a dyma rwyf am ganolbwyntio arno yn awr. Oherwydd, mewn rhai ffyrdd, hoffwn yn fawr pe bai'r Gweinidog llywodraeth leol yma i ymateb i'r ddadl hon, oherwydd credaf mai ar lefel llywodraeth leol y mae angen gweithredu ar frys.
Nawr, rwy'n derbyn bod pwysau ehangach ar y grant cynnal refeniw, ond mae'r adroddiad hwn wedi amlygu'r hyn sy'n edrych fel mympwy o ran sut y cyllidir ysgolion. Mae'r gwahaniaeth enfawr yng nghronfeydd wrth gefn a diffyg ysgolion yn dangos bod rhywbeth yn mynd o'i le'n wael. Nid oes unrhyw gysondeb rhwng awdurdodau lleol o ran y modd y maent yn blaenoriaethu gwariant craidd ar ysgolion a dim llinell atebolrwydd i Lywodraeth Cymru sy'n cysylltu ei phenderfyniadau ar faint y mae ysgolion ei angen, ei chyfraniad o ganlyniad i hynny i'r grant cynnal refeniw, a faint y mae cynghorau'n ei wario ar ysgolion mewn gwirionedd.
Rhaid i mi ofyn a ddylai awdurdodau lleol fod yn gwbl rydd i ddefnyddio arian a ganfuwyd gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â phroblem benodol a nodwyd ar rywbeth arall yn gyfan gwbl. Fel y dywedodd Lynne Neagle, mae gwariant ar brofiad ysgol da yn ymgorfforiad o wariant ataliol ac felly, dylai digon o gyllid i ysgolion fod yn flaenoriaeth i bob cyngor. Ond fel y mae'r Llywodraeth yn cyfaddef, ni fydd yn dylanwadu ar y blaenoriaethu, er ei bod yn derbyn argymhelliad 2.
Mewn tystiolaeth i ni, soniodd y ddau Weinidog am bwysigrwydd ymddiriedaeth broffesiynol rhwng Llywodraeth a chynghorau o ran eu penderfyniadau. Ond beth am yr ymddiriedaeth broffesiynol rhwng staff ysgolion a chynghorau, ac ysgolion a'r Llywodraeth? Hyd yn oed wrth dderbyn ein holl argymhellion, mae'r Gweinidog wedi osgoi ateb rhai o'r cwestiynau a gafwyd yn yr argymhellion. Ceir cwestiwn anghysurus ynglŷn â phwy y mae'n ymddiried ynddynt fwyaf i gyflawni ei dyheadau ar gyfer rhai oedran ysgol, gan ei bod yn ymddangos i mi ei bod yn fwy na pharod i ymddiried mewn arweinwyr ysgolion sydd â chyfrifoldeb enfawr am gynllunio cwricwlwm newydd, ond pan ddaw'n fater o ariannu'r ysgol er mwyn ei gyflwyno, mae hynny'n rhywbeth i rywun arall ac nid yw'n glir i mi pwy, eto i gyd arweinwyr ysgolion fydd yn atebol os bydd y cwricwlwm yn methu oherwydd diffyg arian i ysgolion.
Bydd eich gwaddol, Weinidog, yn dibynnu ar y modd y byddwch yn datrys y broblem ariannu ysgolion a nodir mor glir yn ein hadroddiad. Rwy'n mawr obeithio y bydd yr adroddiad hwn yn eich helpu chi, a'r Gweinidog llywodraeth leol, i gael yr arian sydd ei angen arnoch ar gyfer ysgolion. Diolch.