Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 23 Hydref 2019.
Hoffwn ddiolch i Lynne Neagle AC am ei harweiniad fel cadeirydd ein Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, am baratoi'r adroddiad hwn a hefyd am ei gyflwyno yma heddiw. Mae hi wedi taro'r hoelen ar ei phen: yn syml iawn, nid oes digon o arian yn mynd i mewn i system addysg Cymru, ac yn sicr nid oes digon yn cyrraedd ein hysgolion.
Nawr, wrth gwrs, ers cyhoeddi'r adroddiad hwn—[Torri ar draws.] Nid wyf hyd yn oed wedi dechrau. Ni allaf, mae’n ddrwg gennyf.
Ers cyhoeddi’r adroddiad hwn, a diolch byth, mae ein Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.24 biliwn o wariant ychwanegol yn uniongyrchol ar gyfer ysgolion. Bydd yr arian yn rhoi cyfle i'r Gweinidog addysg roi camau pendant ar waith i gau, os nad dileu’r bwlch cyllido o £645 y disgybl rhwng Cymru a Lloegr. Yn gynharach eleni, dywedodd cynrychiolydd ar ran Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau wrthym mai hon oedd y flwyddyn waethaf ar gyllidebau ysgolion Cymru ers 1995, ac yn anffodus, mae pethau’n mynd i waethygu am fod y Gweinidog ei hun yn gwadu hyn mewn gwirionedd.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhagweld y bydd y bwlch yng nghyllideb ysgolion yn codi ymhellach i £319 miliwn yn 2022-23, ac mae'r toriadau y mae hyn yn eu hachosi yn creu anawsterau mawr. Er enghraifft, mae nifer yr athrawon wedi gostwng 1,500 rhwng 2010 a 2018, er mai dim ond 29 yn llai o ddisgyblion a geir. Mae angen cyllid digonol ar ysgolion, felly rwy'n falch bod argymhelliad 1 wedi'i dderbyn. Byddaf yn dilyn yr adolygiad brys gyda diddordeb mawr gan fy mod yn credu bod angen inni wybod, fodd bynnag, beth yw’r amserlen ar hyn ac erbyn pa bryd y gallwn obeithio cael ffigur sylfaen ar gyfer rhedeg ysgol ac addysgu plentyn yma yng Nghymru.
Nawr, mae'r adroddiad hefyd yn mynd i'r afael â monitro lefel y flaenoriaeth y mae awdurdodau lleol yn ei rhoi i ysgolion wrth iddynt ddosbarthu cyllid ac yn ein rhoi ar y trywydd iawn i gael gwell dealltwriaeth a mynd i'r afael â'r anghysondeb y gwyddom amdano wrth i'r 22 awdurdod lleol osod cyllidebau ysgolion. Er enghraifft, daw’r sefyllfa anghyfartal yn amlwg wrth ystyried y gall y swm a werir gan awdurdodau ar ysgolion amrywio o £5,107 i £6,456 y disgybl. Felly, rydym mewn sefyllfa ryfedd lle roedd 501 o ysgolion yn cadw cronfeydd wrth gefn sydd uwchlaw'r trothwyon statudol tra bod 225 ohonynt mewn diffyg ym mis Mawrth 2018. Yn frawychus, mae 70 y cant o ysgolion uwchradd Cymru mewn diffyg ar hyn o bryd. Mae hon yn broblem sy'n ymwneud â blaenoriaeth.
Tybed felly pam nad yw'r ymateb i'r argymhelliad ynghylch diffygion yn egluro sut rydych chi'n gweithio gydag awdurdodau lleol i archwilio rheolaeth effeithiol. Rwy’n croesawu eich ymrwymiad parhaus i herio consortia rhanbarthol ynghylch arian yn cyrraedd y rheng flaen. Mae'r Undeb Addysg Cenedlaethol wedi dweud wrthym eu bod wedi cael problemau gyda'r consortia ers iddynt gael eu sefydlu. Mae'r dystiolaeth a gawsom yn dangos diffyg dealltwriaeth o rolau llywodraeth leol a chonsortia rhanbarthol. Ni allaf feirniadu'r dryswch gan eich bod chi hyd yn oed yn dal i weithio ar ddarparu eglurder. Ac rwy’n cofio, Weinidog, yn ystod fy ngwaith craffu arnoch yn ystod un o'ch cyflwyniadau gweinidogol i ni yn y pwyllgor, eich bod wedi dweud, 'Janet, ni allaf fi hyd yn oed ddilyn yr arian o'r Llywodraeth i'r ysgolion', felly mae’n ofid, os na allwch chi ei ddilyn, sut y gall ein penaethiaid a’n rhieni ei ddilyn?
Nid oes unrhyw faes yn galw am fwy o eglurder na'r gwariant ar wella ysgolion. Yn 2018-19, er bod £11 miliwn wedi’i wario ar brynu gwasanaethau gwella ysgolion gan gonsortia, gwariodd awdurdodau lleol £10.9 miliwn yn ogystal ar welliannau i ysgolion. Felly, rwy’n cefnogi’n gryf y galwadau am gymharu’r ddau wariant ar frys. Nid oes lle i ddyblygu gwaith ac ysgafalwch ariannol. Rhaid gwneud i’r cyllid yn y system weithio mor effeithiol â phosibl gan fod sefyllfa'r ysgolion yn anghynaladwy ar hyn o bryd. Er enghraifft, cysylltodd pennaeth yng ngogledd Cymru â mi ddoe i egluro bod athrawon yn gadael y proffesiwn ac nad oes neb yn dod yn eu lle, mae athrawon yn lleihau eu horiau oherwydd pwysau cyllidebol, ac mae staff cymorth yn cael eu taro gan ddiswyddiadau a llai o oriau. Byddaf yn pleidleisio er budd gorau pobl ifanc a'n hathrawon gweithgar, ac felly rwy'n cefnogi'r holl argymhellion.
Fodd bynnag, credaf y gallwch chi, Weinidog, fynd ymhellach trwy fynd i'r afael â'r cwestiynau a ofynnais i helpu i roi hwb i ysgolion o'r fan hon, Llywodraeth Lafur Cymru, fel y mae ein Prif Weinidog wedi'i wneud o Lywodraeth y DU.