Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 23 Hydref 2019.
Fel eraill y prynhawn yma rwy'n credu, hoffwn fynegi fy niolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn tystio i waith ac ymrwymiad y pwyllgor cyfan ac arweiniad Lynne Neagle fod y pwyllgor hwn yn cyflwyno adroddiadau’n gyson sydd nid yn unig yn herio'r Llywodraeth ac yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ond hefyd yn herio pob un ohonom i ymateb i'r materion hyn mewn ffordd resymol ac ystyriol.