Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 23 Hydref 2019.
Diolch yn fawr iawn, Lynne. Pwynt o eglurhad yn unig am yr adolygiad ydoedd yn fwy na dim. Roedd ein hargymhelliad yn ymwneud â chyllid ysgolion—digonolrwydd cyllid ysgolion—nid addysg yn gyffredinol. Ac o gofio'r rhaniad rhwng llywodraeth leol a'r pot addysg yn ganolog, rwy'n credu bod hwnnw'n wahaniaeth pwysig y mae angen ei gofnodi.