Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 5 Tachwedd 2019.
A gaf i ddiolch i Lynne Neagle am y cwestiwn atodol yna, a chroesawu ffurfio'r grŵp trawsbleidiol ar y pwnc pwysig iawn hwn? Mae hi'n iawn i ddweud ein bod ni wedi ymrwymo i ddatblygu llwybr profedigaeth ôl-ofal cenedlaethol yma yng Nghymru. A bydd hyn yn flaenoriaeth allweddol i'r arweinydd cenedlaethol newydd ar atal hunanladdiad, a'r tri gweithiwr rhanbarthol a fydd yn eistedd ochr yn ochr â'r arweinydd cenedlaethol, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu datblygu system nad yw'r cymorth sydd eisoes ar gael i bobl sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad ar gael iddyn nhw yn oddefol ac nad yw hynny'n dibynnu arnyn nhw i fynd allan i ddod o hyd i'r cymorth sydd ar gael, ond bod y cymorth sydd ar gael yn cael ei drefnu mewn modd sy'n sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael yn weithredol i bobl sy'n eu canfod eu hunain yn y sefyllfa hon, ac yn canfod ei ffordd atyn nhw nid unwaith, ond dro ar ôl tro dros y cyfnod y bydd profedigaeth yn digwydd. Oherwydd rydym ni'n gwybod nad yw pobl sydd yn y sefyllfa ofnadwy honno o ddioddef profedigaeth drwy hunanladdiad yn aml ddim mewn sefyllfa eu hunain i gymryd y cam cyntaf i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. A hyd yn oed weithiau pan ddaw cymorth iddyn nhw, efallai mai dyna'r adeg anghywir—efallai nad dyma'r adeg pan eu bod yn gallu manteisio ar y cymorth a gynigir. Felly, mae angen llwybr ôl-ofal arnom ni sy'n weithredol o ran mynd â'r cymorth hwnnw i'r unigolion hynny a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n ymwybodol o'r hyn sydd ar gael iddyn nhw, a bod cymryd y cymorth hwnnw'n cael ei wneud mor hawdd â phosibl. A dangosir hynny'n berffaith yn y pwynt olaf a wnaeth Lynne Neagle—bod y ffordd honno o wneud pethau yn deillio'n uniongyrchol o brofiad byw pobl sydd wedi canfod eu hunain yn y sefyllfa ofnadwy hon. Ac rydym ni'n lwcus eu bod nhw wedi bod yn barod i gyfrannu'r profiad hwnnw i ni yng Nghymru, i helpu gyda datblygiad y llwybr profedigaeth ôl-ofal.