Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Prif Weinidog, rwy'n credu ei bod hi'n arferol i'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd roi hysbysiad ymlaen llaw i Lywodraethau, yn crynhoi'r sgoriau cyn y cyhoeddiad swyddogol. A ydych chi eisoes wedi cael hysbysiad ymlaen llaw o'r fath, ac a allwch chi ddweud pa un a ydych chi'n disgwyl y bydd cynnydd sylweddol wedi ei wneud tuag at gyrraedd eich targed?