1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch ddweud ai sicrhau sgôr o 500 yn holl feysydd tablau addysg byd-eang PISA, mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, yw polisi eich Llywodraeth o hyd? Ac a allwch chi gadarnhau y bydd y ffigurau ar gyfer Cymru yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r holl ffigurau rhyngwladol eraill ar 3 Rhagfyr, heb eu llesteirio gan y rheolau ynghylch cyhoeddiadau yn ystod y cyfnod cyn etholiad?
Wel, Llywydd, mae ein huchelgais ar gyfer PISA wedi ei nodi yn ein cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg. Nid wyf i wedi cael unrhyw gyngor sy'n awgrymu i mi na fydd y ffigurau hynny'n cael eu cyhoeddi, ond byddwn yn edrych i weld beth fydd gweinyddiaethau eraill ledled y Deyrnas Unedig yn ei wneud, a byddwn yn cymryd cyngor, fel y byddai'r Aelod yn ei ddisgwyl, gan y rhai sy'n gyfrifol am blismona unrhyw reolau sy'n bodoli ynghylch cyhoeddi data o'r fath yn ystod cyfnod etholiad cyffredinol.
Prif Weinidog, rwy'n credu ei bod hi'n arferol i'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd roi hysbysiad ymlaen llaw i Lywodraethau, yn crynhoi'r sgoriau cyn y cyhoeddiad swyddogol. A ydych chi eisoes wedi cael hysbysiad ymlaen llaw o'r fath, ac a allwch chi ddweud pa un a ydych chi'n disgwyl y bydd cynnydd sylweddol wedi ei wneud tuag at gyrraedd eich targed?
Lywydd, nid oes unrhyw wybodaeth ymlaen llaw wedi ei chyfleu i Lywodraeth Cymru, ac, wrth gwrs, mae Adam Price yn gwneud pwynt pwysig mai ffigurau'r OECD yw'r rhain, ac y bydd eu cyhoeddi, i raddau, yn eu dwylo nhw, nid ein rhai ni. Ond nid ydym ni wedi cael unrhyw hysbysiad ymlaen llaw am ganlyniadau'r rownd ddiweddaraf a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn—
Rhagfyr.
Ym mis Rhagfyr, mae'n ddrwg gen i. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n obeithiol y bydd y canlyniadau hynny'n adlewyrchu'r ymdrechion gwirioneddol y mae ein pobl ifanc yn ein hysgolion yn eu gwneud yn y profion PISA hynny.
Prif Weinidog, dywedodd eich Gweinidog addysg yn 2017 bod angen i ni wneud cynnydd yn y gyfres nesaf o ganlyniadau PISA os ydym ni'n mynd i gyrraedd y targed nesaf. Os nad yw'r newyddion i Gymru ar 3 Rhagfyr yn gadarnhaol o gwbl, neu ddim yn ddigon cadarnhaol, beth fydd ymateb y Llywodraeth yn y sefyllfa honno? A wnewch chi dderbyn nad yw'r strategaeth yn gweithio? Bu gennym ni darged PISA ers 2006 wedi'r cyfan. A fydd yn gatalydd i hwb y mae angen mawr amdano o ran cyllid ar gyfer y system addysg yng Nghymru? Neu a fyddwch chi'n cael eich temtio i wneud yr hyn yr ydych chi'n aml yn ei wneud o dan yr amgylchiadau hyn, sef anwybyddu'r targed?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n cydnabod yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud, ac yn sicr nid wyf i'n mynd i ddyfalu y prynhawn yma ynglŷn â'r hyn y byddwn i'n ei ddweud o dan gyfres o amgylchiadau damcaniaethol nad oes gen i syniad beth y bydden nhw'n ei olygu. Mae'n ymddangos fel cwestiwn cwbl ddiystyr, ac nid wyf i'n mynd i allu rhoi ateb ystyrlon iddo.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau cydnabod mai dyma ail ben-blwydd marwolaeth drasig ein cyd-Aelod a'n cyfaill, Carl Sargeant, ac rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ymuno â mi i anfon ein meddyliau a'n gweddïau at ei deulu, ei anwyliaid a phawb yr effeithir arnynt ar yr adeg hon.
Prif Weinidog, a yw'n dderbyniol talu bron i £2,000 y dydd i reolwr GIG a chaniatáu iddo weithio o'i gartref yn Sbaen?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Paul Davies. Mae hon yn wythnos pan fydd llawer o bobl yn y Siambr hon yn meddwl am ein cyd-Aelod a'r loes sydd yno o hyd ar ôl ei farwolaeth cyn pryd ddwy flynedd yn ôl. Felly, rwy'n falch iawn o roi ar y cofnod yr ymrwymiad sydd gan yr ochr hon o'r Siambr i gofio hynny ac i feddwl am y rhai sydd â'r cysylltiad agosaf ag ef.
Llywydd, mae'r Aelod yn cyfeirio at gyfarwyddwr yn ymddiriedolaeth Betsi Cadwaladr a benodwyd yn dilyn cyngor y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a ddywedodd y dylai'r bwrdd iechyd gymryd camau brys ac ar unwaith i benodi cyfarwyddwr i gynorthwyo'r bwrdd iechyd i gyflawni'r diwygiadau angenrheidiol. Felly, mae'r bwrdd iechyd wedi dilyn cyngor y pwyllgor, o dan gadeiryddiaeth ei gydweithiwr, ac rwy'n siŵr y bydd yn falch bod y bwrdd iechyd wedi gwrando mor astud ar y cyngor hwnnw.
O, dewch nawr, Prif Weinidog. Ni ddywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrth y bwrdd iechyd y dylid talu bron i £2,000 y dydd iddo ac y dylai weithio o'i gartref yn Sbaen. Wnaethon nhw ddim dweud hynny. A gadewch i ni edrych ar y ffeithiau, ie? Deallir y bydd y cytundeb a gytunwyd gyda'r bwrdd iechyd, y bydd yr ymgynghorydd rheoli, Phillip Burns, yn ennill mwy na £360,000 am gontract naw mis—£360,000 y gellid ei ddefnyddio i recriwtio meddygon a nyrsys go iawn, o gofio bod gan ogledd Cymru y gymhareb ail-waethaf o gleifion i uwch feddygon yn y Deyrnas Unedig, £360,000 y gellid ei wario yn mynd i'r afael â'r nifer fawr o gleifion sy'n aros am fwy na 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, neu £360,000 y gellid ei ddefnyddio i helpu i baratoi'r bwrdd iechyd ar gyfer misoedd y gaeaf. Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn bod eich Llywodraeth wedi gwneud cam â chleifion ar draws y gogledd, o gofio y gellid bod wedi defnyddio'r arian hwn i ddarparu gwasanaethau rheng flaen? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni beth yr ydych chi'n ei wneud i unioni'r sefyllfa hon sy'n achosi cymaint o gywilydd?
Wel, gadewch i mi wneud dau neu dri o bwyntiau ynglŷn â chwestiynau'r Aelod. Yn gyntaf oll, rwy'n gweld pa mor gyflym y mae'n rhedeg i ffwrdd oddi wrth gyngor un o bwyllgorau'r Cynulliad pan nad yw'n ei blesio.
Diar, diar, diar. Dyna esgus truenus.
Mae'r aelod o'r farn ei fod yn druenus. Gadewch i mi ei herio, gan mai ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor hwn ar un adeg, ac roedd yn awyddus iawn yn wir i'w gyngor gael ei ddilyn. Mae'r pwyllgor yn gwneud cyngor. Dywedodd y dylai'r bwrdd iechyd hwn benodi rhywun o'r math hwn ar frys ar gyfer y diben hwn. Mae'r bwrdd iechyd yn mynd ati i wneud hynny. Nid yw'n ei blesio wedyn, felly mae eisiau ei droi yn gwestiwn yn y fan yma. Y rheswm y mae'n rhaid i'r person hwn gael ei dalu yr hyn a delir iddo yw oherwydd y farchnad y mae ei Lywodraeth ef wedi ei chreu yn y GIG dros ein ffin. [Torri ar draws.] Llywydd, dyma'r union symiau o arian y mae ei gydweithwyr yn Lloegr yn gorfod eu talu bob dydd, ac oherwydd bod marchnad wedi ei chreu gan bobl o'r math hwnnw sy'n credu y dylai'r GIG gael ei redeg yn yr un ffordd â marchnad, rydym ni'n gorfod talu symiau o arian o'r math hwn yn y pen draw. Mae hyn yn cyd-fynd yn union â'r hyn y mae sefydliadau dros ein ffin sy'n cael eu rhedeg dan Lywodraeth ei blaid ef yn gorfod ei dalu bob dydd, ac rydym ni'n cael ein dal yn adlach y system y mae ei blaid ef wedi ei chreu.
Prif Weinidog, nid yw hynny'n ddigon da o gwbl. Chi sy'n gyfrifol am y bwrdd iechyd hwn. Chi sy'n gyfrifol am redeg y bwrdd iechyd hwn yng ngogledd Cymru, a gadewch i mi ddweud wrthych, o dan eich stiwardiaeth chi, nid yw bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn addas i'w ddiben, ac mae pobl y gogledd yn haeddu gwell. Mae'n annerbyniol, tra eich bod chi'n caniatáu i reolwyr dorheulo yn Sbaen, bod pobl yn disgwyl yn daer am driniaethau ac am wasanaethau. Yn gynharach eleni, adroddodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad bod cymorth Llywodraeth Cymru wedi bod yn annigonol, ac mai prin oedd yr effaith ymarferol yr oedd camau gweithredu yn ei chael ar newid perfformiad y bwrdd iechyd. Dyna ddywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gynharach eleni. Felly, pryd y bydd eich Llywodraeth yn camu ymlaen ac yn dangos rhywfaint o arweiniad gwirioneddol ar y mater hwn, a pha dargedau penodol ydych chi wedi eu gosod i dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig?
Felly, pan fo cyngor y pwyllgor yn addas ar ei gyfer, Llywydd, mae eisiau gwneud sioe o hynny yn y fan yma. Pan nad yw'n addas ar ei gyfer, mae eisiau ei ddiystyru. Yn syml, nid yw'n ffordd dderbyniol o geisio cyflawni busnes cyhoeddus. A gaf i am eiliad amddiffyn rhywun yr ymosodir arno ar lawr y Cynulliad, ond nad yw yma, wrth gwrs, i amddiffyn ei hun, oherwydd mae'r unigolyn y mae wedi ei feirniadu y prynhawn yma yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos yn y bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru mewn gwirionedd, er gwaethaf y pethau y mae wedi eu dweud ar y llawr yn y fan yma y prynhawn yma?
Llywydd, yr hyn a welwn yw'r hen dric Torïaidd. Rydym ni'n ei weld bob tro y bydd etholiad. Maen nhw'n meddwl—fel y dywedodd darparwyr yn Lloegr wrth ei Lywodraeth ef ddoe—y gallan nhw droi'r GIG yn arf, y gallan nhw ei wneud yn rhan o'u hymgyrch. Gadewch i mi ddweud wrtho nawr: mae wedi rhoi cynnig ar hyn o'r blaen, ni weithiodd bryd hynny, ac nid yw'n mynd i weithio nawr ychwaith.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, gwrthododd 10 AS Llafur Cymru gefnogi etholiad. Mae un o'ch ACau yn fy rhanbarth i wedi dweud ei fod yn gamgymeriad ar raddau hanesyddol. Mae un arall wedi dweud nad yw'n ddiogel cael unrhyw etholiad tan fod y system etholiadol yn cael ei diwygio ac yr ymdrinnir â phroblemau cam-drin gwleidyddion. Ers i'r AC Llafur hwnnw, er gwaethaf ein polisïau ein hunain, ddweud wrth aelod benywaidd o'm grŵp i 'eff off' gwta bythefnos yn ôl, a'r gwir—. Onid ydych chi'n cytuno ei fod yn rhagrith llwyr ac mai'r gwir reswm y gwrthwynebodd Llafur gael etholiad yw eich bod chi'n ofni y byddwch chi'n colli a'i bod yn well gennych chi atal Brexit yn y Tŷ'r Cyffredin hwn?
Wel, Llywydd, os oes gan yr Aelod honiadau i'w gwneud am ymddygiad unrhyw Aelod o'r Cynulliad hwn, yna mae ffyrdd a ddeallir yn dda o fynd ati i godi ac ymchwilio i'r mater yn briodol ac nid gwneud honiad o'r math hwnnw i mi yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r ffordd i ddatrys hynny, yn sicr.
Rwyf i wrth fy modd bod etholiad yn cael ei gynnal. Rwy'n edrych ymlaen at bopeth y byddaf yn ei wneud ynddo i berswadio pobl Cymru i barhau i wneud yr hyn y maen nhw wedi ei wneud ers cynifer o flynyddoedd: cefnogi ymgeiswyr Llafur i sicrhau Llywodraeth Lafur a fydd yn gwneud y gwahaniaeth gwirioneddol y maen nhw eisiau ei weld yn eu bywydau.
Prif Weinidog, chi sy'n gyfrifol am ddisgyblaeth yn eich grŵp, a sylwaf eich bod chi'n ceisio golchi eich dwylo o faterion o'r fath. Dros yr wythnosau nesaf, Prif Weinidog, rydych chi, eich ACau a'ch ASau yn mynd i ddarganfod yn union sut y mae pleidleiswyr yn teimlo am y ffordd yr ydych chi wedi eu trin. Dywedasoch wrthyn nhw eich bod chi'n cefnogi'r refferendwm. Dywedasoch wrthyn nhw y byddech chi'n parchu'r canlyniad. Ac eto, ers hynny, rydych chi wedi ceisio atal Brexit ac atal eu pleidlais ddemocrataidd. Nawr y byddwch chi'n cael eich dwyn i gyfrif, a fyddwn ni'n gweld yr un gweithgarwch dadleoli anobeithiol gennych chi ag a welwn ni gan Blaid Cymru? Mae eu cyn-arweinydd, Leanne Wood, mor frwd dros Lywodraeth San Steffan fel ei bod wedi dweud:
Mae'r etholiad hwn hefyd yn ymwneud â gwasanaeth iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
A allwn ni hefyd edrych ymlaen eto at weld ASau Llafur Cymru yn ymgyrchu ar sail methiannau ein GIG?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddweud unwaith eto wrth yr Aelod, os oes ganddo honiadau y mae eisiau eu gwneud, bod ffyrdd a ddeallir yn dda y gellir ac y dylid eu gwneud, ac nid yw ei ymddygiad y prynhawn yma yn gydnaws â'r cyfrifoldebau y dylai eu hymarfer fel arweinydd ei blaid ddiweddaraf.
Wrth gwrs, mae'r etholiad yn ymwneud a mwy na Brexit yn unig. Mae'n ymwneud â dyfodol ein gwlad, am y math o wlad yr ydym ni eisiau ei chael, am Lywodraeth a fydd yn buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a fydd yn rhoi terfyn ar y cyfnod cyni cyllidol, a fydd yn cynnig gobaith i bobl y gellir paratoi dyfodol gwell ar eu cyfer yn y dyfodol. Dyna pam mae'r Blaid Lafur mor falch o fod yn ymladd yr etholiad hwn. Dyna'r neges y byddwn ni'n ei rhannu ar garreg y drws. Ond mae'r dewis yn yr etholiad hwn rhwng Plaid Geidwadol sy'n edrych i'r gorffennol ac sydd wedi cynnig 10 mlynedd o ddim ond toriadau a dinistr yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a Llywodraeth Lafur, sydd wedi ymrwymo i ddyfodol y bobl niferus yn y wlad hon, nid dim ond y breintiedig rai, a bydd hynny'n cyflwyno prosbectws a fydd yn cynnig dyfodol i bob un ohonom ni pryd y gall Cymru ffynnu y tu mewn i Deyrnas Unedig lewyrchus, ac, fel y gobeithiaf, y tu mewn i Undeb Ewropeaidd llewyrchus.