Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Llywydd, croesawaf dröedigaeth yr Aelod i gefnogi Maes Awyr Caerdydd a chroesawaf y pethau y mae wedi eu dweud am y ffordd y mae'r maes awyr yn ffynnu bellach o dan berchnogaeth gyhoeddus—ymhell iawn o'r gwirionedd pan yr oedd o dan ei—. Rwy'n credu bod yr Aelod wedi cyfeirio at Faes Awyr Caerdydd sy'n 'ffynnu'— fe'i hysgrifennais i lawr—maes awyr sy'n ffynnu, sydd, fel y mae'n gwybod yn iawn, o dan berchnogaeth gyhoeddus. Felly, croesawaf ei dröedigaeth i'r ddau achos hynny.
Bydd buddiant cyhoeddus hirdymor yn y maes awyr hwn gan fod Cymru angen maes awyr fel buddsoddiad hirdymor yn nyfodol ein heconomi. Wrth i'r maes awyr barhau i ffynnu a pharhau i dyfu, wrth gwrs byddwn eisiau sicrhau bod y ffordd y caiff ei redeg a'r ffordd y caiff ei drefnu yn adlewyrchu ei lwyddiant newydd.