Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Prif Weinidog, dywedodd eich Gweinidog addysg yn 2017 bod angen i ni wneud cynnydd yn y gyfres nesaf o ganlyniadau PISA os ydym ni'n mynd i gyrraedd y targed nesaf. Os nad yw'r newyddion i Gymru ar 3 Rhagfyr yn gadarnhaol o gwbl, neu ddim yn ddigon cadarnhaol, beth fydd ymateb y Llywodraeth yn y sefyllfa honno? A wnewch chi dderbyn nad yw'r strategaeth yn gweithio? Bu gennym ni darged PISA ers 2006 wedi'r cyfan. A fydd yn gatalydd i hwb y mae angen mawr amdano o ran cyllid ar gyfer y system addysg yng Nghymru? Neu a fyddwch chi'n cael eich temtio i wneud yr hyn yr ydych chi'n aml yn ei wneud o dan yr amgylchiadau hyn, sef anwybyddu'r targed?