Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae trafodaethau rheolaidd yn cael eu cynnal rhyngof i a'r Gweinidog ar amrywiaeth eang o faterion iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r trafodaethau hyn wedi cynnwys cymorth i'r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth trwy hunanladdiad yng Nghymru.