Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau cydnabod mai dyma ail ben-blwydd marwolaeth drasig ein cyd-Aelod a'n cyfaill, Carl Sargeant, ac rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ymuno â mi i anfon ein meddyliau a'n gweddïau at ei deulu, ei anwyliaid a phawb yr effeithir arnynt ar yr adeg hon.
Prif Weinidog, a yw'n dderbyniol talu bron i £2,000 y dydd i reolwr GIG a chaniatáu iddo weithio o'i gartref yn Sbaen?