Part of the debate – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Diolch. Rwy'n falch iawn bod cadeirydd y bwrdd iechyd wedi gallu cyfarfod â chi i drafod eich pryderon yn hyn o beth. Ac, wrth gwrs, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog iechyd yn ymwybodol o'r cais yr ydych chi newydd ei wneud am ddatganiad, ac rwy'n gwybod y bydd yn rhoi ystyriaeth briodol i'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y mater hwn.