Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 5 Tachwedd 2019.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ddod â'r datganiad hwn gerbron heddiw, ac yn fwy byth os caf i ddiolch i Arglwydd Thomas a'i gyd-gomisiynwyr am gyflwyno'r adroddiad hynod drawiadol hwn? Hoffwn i longyfarch y cyn-Brif Weinidog hefyd am yr adroddiad trawiadol iawn hwn a sefydlodd ar ein cyfer.
Hoffwn i ddilyn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog sef bod yr adroddiad hwn yn haeddu ystyriaeth lawnach o lawer nag y gellir ei rhoi heddiw. Roeddwn wedi cynllunio ymlaen llaw i roi ymateb mwy pendant efallai, ond rwy'n credu mai'r peth iawn yw ymatal er mwyn ei ystyried ymhellach ac ymgynghori'n ehangach. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd ef am ei ddull o ymateb i'r adroddiad yn synhwyrol, ac rwy'n edrych ymlaen at gael y ddadl lawn honno a chyfrannu yn llawnach ar rai o'r materion yno.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud o ran un pwynt o egwyddor, o bosib, yw bod y Comisiwn yn cyfeirio at yr 'ymyl garw', a ddisgrifiwyd, er yn fwy rhyddieithol yn y cyd-destun hwn, yn natganiad y Prif Weinidog yn
'heriau ymarferol yn deillio o rannu cyfrifoldebau rhwng San Steffan a Chymru'
Ac fe sylwais i pan oedd arweinydd yr wrthblaid yn rhoi ei ymateb ef, y cafodd ei heclo gryn dipyn am fod yn wrthwynebus i ddatganoli. Ond rwy'n credu, yn anochel, i rai ohonom ni, beth bynnag fo'r rhaniadau rhwng yr hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn sydd heb ei ddatganoli, bydd yn parhau i fod yn rhyw fath o ymyl garw; bydd yna rywfaint o anhawster bob amser ar y lefel honno pan fydd dwy wahanol ffurflywodraeth yn cwrdd â'i gilydd. Ond mae'r adroddiad hwn yn cymryd yn ganiataol, lle bynnag y digwydd hynny—er enghraifft, ynglŷn â chyfiawnder—mai'r ateb yw datganoli i Gymru bob amser. Mae rhai ohonom wedi dechrau pryderu, os yw datganoli yn llwybr unffordd parhaol a phellach o bwerau cynyddol bob amser ac ym mhob achos, efallai nad yw hynny'n rhywbeth y mae pobl Cymru'n dymuno ei weld, ac y bydd hefyd yn peryglu'r llif sylweddol iawn o adnoddau ariannol y mae Cymru'n eu cael o Loegr mewn amgylchiadau lle mae gennym fwlch o £13.7 miliwn o ran cyllid. Credaf fod angen cadw hynny mewn cof.
Hefyd, os caf i fynd ar ôl pwynt Rhun, a oedd yn un da iawn yn fy marn i. Fe ddyfynnodd ef lyfr o'r enw The Secret Barrister, yr wyf innau wedi ei ddarllen hefyd, a'i gael yn frawychus iawn o ran cyflwr system y llysoedd yng Nghymru a Lloegr. Pan oeddwn i'n Aelod Seneddol yn Lloegr fe welais i rywfaint ar hyn, ond, a dweud y gwir, mae wedi gwaethygu llawer ers hynny, ac mae'r gostyngiad mewn gwariant ar y system gyfiawnder wedi bod yn fwy sylweddol bron nag yn unrhyw faes arall o weithgarwch y Llywodraeth, ac mae'r goblygiadau yn gwbl ddychrynllyd. Credaf fod yr adroddiad hwn nid yn unig yn dweud wrthym ni am Gymru; mae'n dweud wrthym ni am y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr, ac i fod yn onest, nid i ni'n unig y mae'n ddefnyddiol, ond fe ddylai fod yn ddefnyddiol i Lywodraeth y DU a Senedd y DU. Os nad yw'r Ceidwadwyr yn argyhoeddedig o'u safiad cyffredinol, rwy'n gobeithio y byddan nhw'n defnyddio'r adroddiad hwn i ddangos yr hyn sy'n digwydd i ardal yng Nghymru a Lloegr sydd wedi gweld yr ymdrech ryfeddol hon a'r meddyliau dawnus a gweithio deheuig i dynnu sylw at sylwedd y problemau. Rwy'n gobeithio y bydd hwn yn cael ei ddarllen y tu hwnt i Gymru yn unig, ac mae llawer o'r problemau hyn yn cael eu hachosi o ganlyniad i Lywodraeth y DU ar lefel Cymru a Lloegr, ac mae angen mynd i'r afael â nhw.
A gaf i groesawu rhai o'r materion penodol y mae'r Prif Weinidog wedi eu nodi heddiw, yn benodol y cynlluniau ar gyfer prentisiaethau yn y proffesiwn cyfreithiol a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i hynny? Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da; rwyf i'n croesawu hynny. Rwy'n credu ar y cychwyn efallai y dylem ganolbwyntio ar gynllun peilot ar gyfer hynny, a hoffwn i dynnu sylw'r Prif Weinidog at weithredwyr cyfreithiol siartredig a'r cefndir a'r effaith gadarnhaol y maen nhw'n ei chael ar y gyfraith. Efallai, o ystyried sut mae eu system gymwysterau a chymorth nhw'n gweithio, fe allai fod yn fan da ar gyfer ymgysylltiad cychwynnol ac ystyried sut y gall Llywodraeth Cymru helpu hynny i ddatblygu.
O ran rhai o'r meysydd eraill, Cyngor y Gyfraith, y labordy arloesedd cyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe, pwyllgor cyfiawnder yn y Cabinet, os caf fenthyca ymadrodd gan Lywodraeth Cymru, rwy'n credu bod y rhain yn bethau y byddem ni'n eu cefnogi nhw mewn egwyddor.
Un pwynt pwysig yr wyf yn awyddus i'w wneud—ac fe fydd ymateb y Prif Weinidog o ddiddordeb i mi—ynglŷn â'r adroddiad ar lefel fwy technegol yw ym maes penodi i'r Goruchaf Lys. Rwyf wedi fy siomi gan y dull gweithredu a'r sail dystiolaeth yn yr adroddiad yn hyn o beth oherwydd mae'n rhywbeth y gwnaethom ni ei drafod ychydig wythnosau yn ôl yn y Siambr ac rwy'n cytuno â'r argymhelliad pwysig a wna'r adroddiad fod yn rhaid i'r Goruchaf Lys gael barnwr sydd â'r wybodaeth a'r profiad o ymarfer â chyfraith Cymru, ond hefyd o'r cynllun datganoli i Gymru a Chymru yn rhan ar wahân o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n credu bod hynny'n iawn ac rwy'n credu y dylid rhoi hynny ar waith beth bynnag a ddigwyddith o ran argymhellion eraill, ond fe ddywed yr adroddiad eu bod nhw'n argymell rhoi Cymru mewn sefyllfa debyg i'r Alban a Gogledd Iwerddon yn y Goruchaf Lys o ran penodi barnwyr i'r Goruchaf Lys.
Yn anffodus, nid yw'r hyn y maen nhw'n ei gynnig yn ddigonol i wneud hynny, a'r rheswm, mae arnaf ofn, yw bod y comisiwn cyfiawnder wedi camddisgrifio sut y penodir barnwyr i'r Goruchaf Lys ar hyn o bryd. Ym mharagraff 2.90, maen nhw'n dweud,
Gwneir penodiadau i'r Llys Apêl ac i'r Goruchaf Lys ar sail argymhelliad Comisiynau lle mae Comisiynwyr o'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn ffurfio'r mwyafrif.
Nawr, mae hynny'n gywir o ran y Llys Apêl, ond nid yw'n gywir o ran y Goruchaf Lys ac nid yw'r cyfeiriad at 'y Comisiwn Penodiadau Barnwrol' yn ddefnyddiol o ystyried y canolbwyntio ar ddatganoli a natur y Goruchaf Lys. I edrych ar ddatganiad y Goruchaf Lys ei hun ar ei wefan am y weithdrefn ar gyfer penodi ynad Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig, mae'n cyfeirio at banel o bump, Llywydd y Goruchaf Lys, ac yna mae hi'n enwebu uwch farnwr o unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ond ni all y barnwr hwnnw fod yn ynad yn y Goruchaf Lys, ac yna, yn ogystal â hynny, ceir aelod o bob un comisiwn penodiadau barnwrol ar gyfer Cymru a Lloegr, y bwrdd penodiadau barnwrol yn yr Alban, a'r comisiynydd penodiadau barnwrol yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n rhaid i o leiaf un o'r cynrychiolwyr hynny fod yn lleygwr. Caiff enwebiadau eu gwneud gan gadeirydd y Comisiwn neu'r bwrdd perthnasol.
Felly, mae'r adroddiad yn cydnabod y bydd barnwriaeth ar wahân yn gofyn am ddull annibynnol o benodi barnwrol a cheir cyfeiriad yn nes ymlaen at system benodi, ond rwy'n credu bod angen inni ddeall, yn arbennig felly os ydym am gael cydraddoldeb ym mhenodiadau i'r Goruchaf Lys, y goblygiadau o gael ein comisiwn penodiadau barnwrol ni ein hunain ar wahân, neu rywbeth o leiaf y byddai'r Goruchaf Lys yn cydnabod ei fod yn gyfystyr er mwyn caniatáu inni gael swyddogaeth gyfatebol yr awdurdodaethau eraill. Ac rwy'n credu bod hynny hefyd yn mynd i'r afael â hyn sef, 'a yw hi'n realistig mewn gwirionedd i fod â 10 yn unig o bobl ychwanegol?' Rwy'n gwybod bod y cyn Arglwydd Brif Ustus wedi gwneud adolygiad o gyfiawnder ac wedi llwyddo i wneud hynny gyda 10, ond rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog, nid yw hynny'n realistig i Lywodraeth. A tybed a ellid rhoi rhywfaint o ystyriaeth i hyn oherwydd rydym mewn gwirionedd yn haeddu gwell triniaeth yn y Goruchaf Lys na dim ond yr Alban yn cael un o bump, Gogledd Iwerddon yn cael un o bump, ac yna fe geir un arall o'r pump sy'n cynrychioli Cymru a Lloegr. Pe byddem ni'n dilyn y trywydd hwn o wahanu, fe fyddai hwnnw'n mynd yn gomisiwn penodiadau barnwrol ar gyfer Lloegr, ac nid oes unrhyw beth yn yr adroddiad a fyddai'n sicrhau ein bod ni'n cael ein trin yn gyfartal ac yn deg o ran y broses benodi ar gyfer y Goruchaf Lys. Felly, hoffwn i godi hynny gyda chi a gofyn i Lywodraeth Cymru, o leiaf, ymateb, o ystyried y camddehongliad hwnnw.