Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod mai bwriad y system dreth gyngor a'r system sydd gennym ni o orfodi dyled, yn arbennig, yw gwneud yn siŵr bod y bobl hynny sydd â'r modd i dalu yn gwneud hynny. Ac mae gennym ni dystiolaeth o drafodion traddodi a ddangosodd fod y broses yn flaenorol, mewn llawer o leoedd, yn cael ei defnyddio'n amhriodol ar gyfer pobl nad oedd ganddyn nhw'r modd i dalu. Ac, wrth gwrs, mae hynny, wedyn, yn faich ychwanegol ar bwrs y wlad o ran carcharu unigolion. Nid yw'n gwneud dim i fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol o ran pam mae'r unigolyn hwnnw'n methu talu'r ddyled yn y lle cyntaf. Ac, wrth gwrs, mewn llawer o achosion, mae'n gwneud y sefyllfa'n waeth.
Ym mis Medi eleni, cyhoeddodd y Money Advice Trust adroddiad newydd o'r enw 'Stop the Knock', ac roedd llawer o'r argymhellion hynny yn canolbwyntio ar Loegr, ond mewn gwirionedd roedd sawl un yn ymwneud â Chymru, wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru ac rydym ni eisoes wedi dechrau bwrw ymlaen â'r pethau hynny. Rhan o'r gwaith hwnnw yw protocol y dreth gyngor i Gymru, yr oeddwn i wedi'i chrybwyll o ran amlinellu'r ffordd y dylai awdurdodau lleol ymdrin nawr â'r unigolion hynny nad ydyn nhw'n gallu talu'r dreth gyngor. Ac mae'n golygu methu â thalu'r dreth gyngor, nid eu bod yn amharod i wneud hynny. Ac rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol nawr i sicrhau bod y protocol hwnnw'n seiliedig i raddau helaeth ar y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithio. Mae dynodi'n gynnar yr unigolion hynny y mae eu hamgylchiadau ariannol yn golygu y gallen nhw ei chael hi'n anodd talu'r dreth gyngor yn bwysig iawn yn yr agenda honno hefyd.
Mae gan awdurdodau lleol bwerau disgresiwn i leihau neu eithrio unigolion rhag talu eu treth gyngor. Fe gawsom ni enghraifft yn gynharach o unigolyn penodol a oedd mewn sefyllfa lle'r oedd yn cael trafferth yn talu'r dreth gyngor, felly mae awdurdodau lleol yn gallu cynnig y budd hwnnw i unigolion, os ydyn nhw'n penderfynu gwneud hynny.
Nid yw ôl-ddyledion gyda'r dreth gyngor wedi codi i'r graddau yr adroddwyd arnyn nhw yn Lloegr, ac mae hynny'n rhannol oherwydd y ffaith bod ein cynllun gostyngiadau mor llwyddiannus a'n bod wedi llwyddo i gadw'r cymorth hwnnw ar gyfer cartrefi incwm isel. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod hefyd, o ran casglu'r dreth gyngor yng Nghymru, mae'r cyfraddau mewn gwirionedd, yn hynod uchel, yn wir, ac yn sicr yn uwch nag yn Lloegr a'r Alban. Wrth gwrs, ni allwn ni gymharu â Gogledd Iwerddon oherwydd bod ganddyn nhw system dreth wahanol yno. Felly, o ran casglu, credaf fod ein cyfraddau yn uchel iawn.
Roedd y broses o safoni ffurflen gais Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais yn bwysig iawn, oherwydd cyn hynny, yn arbennig o ran namau difrifol ar yr ymenydd, nid oedd awdurdodau lleol—y staff eu hunain—yn aml yn ymwybodol o'r budd penodol hwn a oedd ar gael i bobl. Pan oedden nhw, nid oedden nhw o reidrwydd yn ymdrin â'r bobl hynny mewn ffordd systematig a chlir ledled Cymru. Felly, dyna'r rheswm pam ein bod wedi cyflwyno'r ffurflen safonol benodol honno, a hynny gyda chefnogaeth Money Saving Expert, a oedd yn cydnabod, rwy'n credu, ar gyfer yr unigolion arbennig hyn, sef rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn aml, nad oedd dealltwriaeth, ac nad oedden nhw'n cael eu trin yn gyson hyd a lled Cymru.
Nawr, rwy'n credu bod y protocol yn darparu fframwaith i sicrhau bod pobl eraill yn cael eu trin yn gyson ledled Cymru gyda rhesymau eraill pam y dylen nhw gael help gyda'r dreth gyngor. Ac unwaith eto, gwnaethpwyd y pwynt bod yn rhaid gweld trethiant lleol yn y cyd-destun ehangach. Felly, o ran y trethi lleol sydd yn bodoli ochr wrth ochr ein trethi Cymreig a chyfraddau treth incwm Cymru, mae'r pethau hynny gyda'i gilydd, rwy'n meddwl, yn darparu cyfres o fesurau inni. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi cyflwyno ein cynlluniau o ran y trethi ychwanegol y byddwn ni efallai'n ystyried eu cyflwyno yn y dyfodol, pe byddem ni'n gallu cael y pwerau hynny wedi'u datganoli i Gymru. Felly, yn hollol, rhaid i'r darlun treth cyfan gyd-fynd fel jig-so, o gofio'r ymrwymiadau sydd gennym ni o ran gwariant a'r pwysau sydd arnom ni fel Llywodraeth.
O ran yr ymchwil, erbyn tymor yr hydref 2020, byddwn ni'n cael, rwy'n credu, yr holl adroddiadau ymchwil yr wyf i wedi'u disgrifio gyda'i gilydd, felly byddwn ni'n gallu edrych arnyn nhw fel cyfres a gobeithio, o bosib, nodi i ba gyfeiriad yr hoffem ni fynd â phethau nesaf. Felly, gallai olygu diystyru rhai o'r syniadau oherwydd rhai o'r rhesymau yr amlygodd Mike Hedges yn gynharach, neu fe allai fod yn fater o orfod nodi meysydd penodol lle y teimlwn ni y gallai fod angen gwneud mwy o waith, a gobeithio y bydd yr adroddiadau hynny yn helpu cyfeirio meddwl pob plaid wleidyddol wrth i ni anelu at etholiadau nesaf y Cynulliad.