Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr. Mae'r adroddiad blynyddol sydd o'n blaenau'r prynhawn yma yn adrodd ar flwyddyn olaf tymor saith mlynedd Meri Huws fel Comisiynydd y Gymraeg, a hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i roi diolch i Meri am ei holl waith yn ystod ei chyfnod hi fel Comisiynydd y Gymraeg. Hi, wrth gwrs, oedd y comisiynydd cyntaf ac mae hi wedi gosod sylfeini cadarn iawn. Dwi'n ddyledus iawn i Meri am y cyfraniad allweddol mae hi wedi'i wneud, yn arbennig wrth roi cyfundrefn safonau'r Gymraeg yn ei lle.
Rŷm ni wedi clywed dros y flwyddyn ddiwethaf fod cefnogaeth wedi datblygu ar draws Cymru i'r drefn safonau a bod y safonau wedi codi amlygrwydd y Gymraeg o fewn sefydliadau ac wedi rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg. Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd yn amlygu'r gwaith a wnaed i barhau i weithredu'r safonau, gan gynnwys ymchwilio i gwynion yn ystod y cyfnod adrodd o dan sylw.
Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu'r gweithgareddau a gyflawnwyd i hybu'r Gymraeg, ac un enghraifft o'r gwaith hwn yw'r adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd gyda'r Alzheimer's Society yng Nghymru, hynny am brofiadau siaradwyr Cymraeg o wasanaethau dementia. Mae'r cydweithio gyda chyrff fel hyn yn allweddol i brif-ffrydio'r Gymraeg ar draws meysydd polisi, sy'n flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth. Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu rôl y comisiynydd yn sicrhau'r Gymraeg ar draws adrannau'r Llywodraeth, ac mae'r her allanol yna'n bwysig y tu fewn i'r Llywodraeth er mwyn sicrhau lle canolog i'r Gymraeg.
Ond dwi ddim am dreulio'r prynhawn yma'n edrych nôl. Bellach, mae gyda ni gomisiynydd newydd, Aled Roberts, sydd wedi bod yn ei swydd ers 1 Ebrill eleni. Mae tymor Aled yn cyd-fynd â dechrau cyfnod newydd, cyffrous i'r Gymraeg. Mae'r misoedd ers imi gyhoeddi na fyddem ni'n cyflwyno Bil wedi rhoi cyfle i ni, fel Llywodraeth, ac i'r comisiynydd gynllunio sut sydd orau i symud ymlaen, a hynny gan gydweithio er mwyn gwireddu targedau Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr erbyn 2050 a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg.
Mae rhai newidiadau wedi digwydd yn barod ers mis Ebrill. O ran y gwaith o symleiddio'r drefn safonau, mae'r comisiynydd wedi penderfynu gweithredu'n wahanol wrth ymchwilio i amheuaeth o dor safon. Yn dilyn adolygiad mewnol yn swyddfa’r comisiynydd yn seiliedig ar wersi o weithredu'r broses gwynion, mae'r comisiynydd wedi penderfynu defnyddio mwy o ddisgresiwn am bryd i gynnal ymchwiliadau. Mae'r cam yma'n golygu bod modd cau achosion syml yn fwy amserol er mwyn rhoi atebion i'r cyhoedd yn gynt, er enghraifft, os yw'r cyrff eu hun wedi datrys y broblem yn gyflym. Mae'r newidiadau bach yma hefyd yn arbed adnoddau prin i'r comisiynydd ac i sefydliadau eraill.
Nawr, fel y clywsom ni yma yn y Senedd rai wythnosau nôl, mae'r dystiolaeth ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gefnogi a hybu'r Gymraeg a thu hwnt yn dangos pryderon bod y gwaith i hybu'r Gymraeg wedi mynd ar goll yn y blynyddoedd diwethaf a bod angen eglurder o ran pa gorff sy'n arwain ar wahanol ffrydiau gwaith. Dyma oedd sail y Papur Gwyn, a dwi'n dal i gredu bod y dadansoddiad yma'n wir. Mae'n werth ailddatgan y camau rwy wedi'u cymryd mewn ymateb i'r pwyntiau yma. Dwi wedi cyhoeddi fy mwriad i sefydlu prosiect 2050, uned newydd, amlddisgyblaethol o fewn Llywodraeth Cymru a fydd yn gyfrifol am yrru strategaeth Cymraeg 2050 yn ei blaen.
Mae datblygu partneriaeth weithio newydd gyda Chomisiynydd y Gymraeg wedi bod yn flaenoriaeth i mi yn ystod misoedd cyntaf Aled yn ei waith. Ac roeddwn yn falch o gytuno memorandwm o gyd-ddealltwriaeth newydd ym mis Awst eleni. Nawr, bwriad y memorandwm yw rhoi eglurder i'r Llywodraeth ac i'r comisiynydd ynghylch sut y byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd, ac i gynnig eglurder i chi, fel Aelodau, i randdeiliaid eraill a'r cyhoedd ynghylch pa gorff sy'n arwain ar beth, o safbwynt ysgogi cynnydd yn nefnydd y Gymraeg.
Rŷn ni wedi cytuno mai'r comisiynydd fydd yn arwain ar weithredu swyddogaethau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, gan gynnwys gosod, monitro a gorfodi safonau, a rhoi cyngor i sefydliadau ar sut i gydymffurfio â'r safonau. Ac a gaf i bwysleisio y bydd rhaid i'r gwaith rheoleiddio yma fod yn hollol annibynnol?
Bydd y comisiynydd hefyd yn gweithio gyda banciau, archfarchnadoedd a busnesau mawr i gynyddu darpariaeth gwasanaethau Cymraeg. Yn ganolog i hynny bydd cael mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg ac yn enwedig gwasanaethau Cymraeg.
Y Llywodraeth sy'n gyfrifol am sicrhau bod egwyddorion cynllunio ieithyddol yn cael eu dilyn wrth weithredu polisi, yn unol â rhaglen waith Cymraeg 2050. Mae'r Gymraeg yn gyfrifoldeb y Llywodraeth gyfan, a'n dymuniad ni, drwy arweiniad project 2050, yw prif-ffrydio'r Gymraeg ymhob agwedd o'n gwaith, fel y gallwn gyrraedd amcanion Cymraeg 2050.
Ond i droi at hybu'r Gymraeg, mae gan y Llywodraeth a'r comisiynydd gyfraniad heb os, ond mae'r maes yn perthyn i bob un ohonon ni, ac i bob un o'n prif bartneriaid. Mae cydweithio yn effeithiol â'r rhai sy'n gweithredu ar lawr gwlad yn elfen bwysig iawn, felly, o'r gwaith hybu. Mae gan bob partner rôl allweddol yn y gwaith yma er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo i gyrraedd ein nod. Mae'n bwysig ein bod yn ymateb i'r pryderon bod rhai agweddau o'r gwaith hybu wedi mynd ar goll yn ystod y cyfnod diwethaf. Dwi felly wedi gofyn i fy swyddogion gynllunio cyfarfod pellach â'r prif bartneriaid er mwyn trafod hyn. Mae llawer wedi digwydd yn y maes, ond, wrth gwrs, mae yna wastad le i wella, yn arbennig ar sut ŷn ni'n codi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth am y gwaith sydd yn cael ei wneud.
Dwi'n credu'n gryf mai gyda'n gilydd mewn un llais y mae gweithredu amcanion Cymraeg 2050 i gyrraedd y filiwn yna a dyblu defnydd y Gymraeg, ac fe fydd cydweithredu â'r comisiynydd yn ganolog i hyn. Ac a gaf i ddiolch yn fawr yn gyhoeddus i'r comisiynydd am ei adroddiad cyntaf ef?