– Senedd Cymru am 5:10 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2018-19. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i gynnig y cynnig—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Mae'r adroddiad blynyddol sydd o'n blaenau'r prynhawn yma yn adrodd ar flwyddyn olaf tymor saith mlynedd Meri Huws fel Comisiynydd y Gymraeg, a hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i roi diolch i Meri am ei holl waith yn ystod ei chyfnod hi fel Comisiynydd y Gymraeg. Hi, wrth gwrs, oedd y comisiynydd cyntaf ac mae hi wedi gosod sylfeini cadarn iawn. Dwi'n ddyledus iawn i Meri am y cyfraniad allweddol mae hi wedi'i wneud, yn arbennig wrth roi cyfundrefn safonau'r Gymraeg yn ei lle.
Rŷm ni wedi clywed dros y flwyddyn ddiwethaf fod cefnogaeth wedi datblygu ar draws Cymru i'r drefn safonau a bod y safonau wedi codi amlygrwydd y Gymraeg o fewn sefydliadau ac wedi rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg. Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd yn amlygu'r gwaith a wnaed i barhau i weithredu'r safonau, gan gynnwys ymchwilio i gwynion yn ystod y cyfnod adrodd o dan sylw.
Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu'r gweithgareddau a gyflawnwyd i hybu'r Gymraeg, ac un enghraifft o'r gwaith hwn yw'r adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd gyda'r Alzheimer's Society yng Nghymru, hynny am brofiadau siaradwyr Cymraeg o wasanaethau dementia. Mae'r cydweithio gyda chyrff fel hyn yn allweddol i brif-ffrydio'r Gymraeg ar draws meysydd polisi, sy'n flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth. Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu rôl y comisiynydd yn sicrhau'r Gymraeg ar draws adrannau'r Llywodraeth, ac mae'r her allanol yna'n bwysig y tu fewn i'r Llywodraeth er mwyn sicrhau lle canolog i'r Gymraeg.
Ond dwi ddim am dreulio'r prynhawn yma'n edrych nôl. Bellach, mae gyda ni gomisiynydd newydd, Aled Roberts, sydd wedi bod yn ei swydd ers 1 Ebrill eleni. Mae tymor Aled yn cyd-fynd â dechrau cyfnod newydd, cyffrous i'r Gymraeg. Mae'r misoedd ers imi gyhoeddi na fyddem ni'n cyflwyno Bil wedi rhoi cyfle i ni, fel Llywodraeth, ac i'r comisiynydd gynllunio sut sydd orau i symud ymlaen, a hynny gan gydweithio er mwyn gwireddu targedau Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr erbyn 2050 a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg.
Mae rhai newidiadau wedi digwydd yn barod ers mis Ebrill. O ran y gwaith o symleiddio'r drefn safonau, mae'r comisiynydd wedi penderfynu gweithredu'n wahanol wrth ymchwilio i amheuaeth o dor safon. Yn dilyn adolygiad mewnol yn swyddfa’r comisiynydd yn seiliedig ar wersi o weithredu'r broses gwynion, mae'r comisiynydd wedi penderfynu defnyddio mwy o ddisgresiwn am bryd i gynnal ymchwiliadau. Mae'r cam yma'n golygu bod modd cau achosion syml yn fwy amserol er mwyn rhoi atebion i'r cyhoedd yn gynt, er enghraifft, os yw'r cyrff eu hun wedi datrys y broblem yn gyflym. Mae'r newidiadau bach yma hefyd yn arbed adnoddau prin i'r comisiynydd ac i sefydliadau eraill.
Nawr, fel y clywsom ni yma yn y Senedd rai wythnosau nôl, mae'r dystiolaeth ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gefnogi a hybu'r Gymraeg a thu hwnt yn dangos pryderon bod y gwaith i hybu'r Gymraeg wedi mynd ar goll yn y blynyddoedd diwethaf a bod angen eglurder o ran pa gorff sy'n arwain ar wahanol ffrydiau gwaith. Dyma oedd sail y Papur Gwyn, a dwi'n dal i gredu bod y dadansoddiad yma'n wir. Mae'n werth ailddatgan y camau rwy wedi'u cymryd mewn ymateb i'r pwyntiau yma. Dwi wedi cyhoeddi fy mwriad i sefydlu prosiect 2050, uned newydd, amlddisgyblaethol o fewn Llywodraeth Cymru a fydd yn gyfrifol am yrru strategaeth Cymraeg 2050 yn ei blaen.
Mae datblygu partneriaeth weithio newydd gyda Chomisiynydd y Gymraeg wedi bod yn flaenoriaeth i mi yn ystod misoedd cyntaf Aled yn ei waith. Ac roeddwn yn falch o gytuno memorandwm o gyd-ddealltwriaeth newydd ym mis Awst eleni. Nawr, bwriad y memorandwm yw rhoi eglurder i'r Llywodraeth ac i'r comisiynydd ynghylch sut y byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd, ac i gynnig eglurder i chi, fel Aelodau, i randdeiliaid eraill a'r cyhoedd ynghylch pa gorff sy'n arwain ar beth, o safbwynt ysgogi cynnydd yn nefnydd y Gymraeg.
Rŷn ni wedi cytuno mai'r comisiynydd fydd yn arwain ar weithredu swyddogaethau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, gan gynnwys gosod, monitro a gorfodi safonau, a rhoi cyngor i sefydliadau ar sut i gydymffurfio â'r safonau. Ac a gaf i bwysleisio y bydd rhaid i'r gwaith rheoleiddio yma fod yn hollol annibynnol?
Bydd y comisiynydd hefyd yn gweithio gyda banciau, archfarchnadoedd a busnesau mawr i gynyddu darpariaeth gwasanaethau Cymraeg. Yn ganolog i hynny bydd cael mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg ac yn enwedig gwasanaethau Cymraeg.
Y Llywodraeth sy'n gyfrifol am sicrhau bod egwyddorion cynllunio ieithyddol yn cael eu dilyn wrth weithredu polisi, yn unol â rhaglen waith Cymraeg 2050. Mae'r Gymraeg yn gyfrifoldeb y Llywodraeth gyfan, a'n dymuniad ni, drwy arweiniad project 2050, yw prif-ffrydio'r Gymraeg ymhob agwedd o'n gwaith, fel y gallwn gyrraedd amcanion Cymraeg 2050.
Ond i droi at hybu'r Gymraeg, mae gan y Llywodraeth a'r comisiynydd gyfraniad heb os, ond mae'r maes yn perthyn i bob un ohonon ni, ac i bob un o'n prif bartneriaid. Mae cydweithio yn effeithiol â'r rhai sy'n gweithredu ar lawr gwlad yn elfen bwysig iawn, felly, o'r gwaith hybu. Mae gan bob partner rôl allweddol yn y gwaith yma er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo i gyrraedd ein nod. Mae'n bwysig ein bod yn ymateb i'r pryderon bod rhai agweddau o'r gwaith hybu wedi mynd ar goll yn ystod y cyfnod diwethaf. Dwi felly wedi gofyn i fy swyddogion gynllunio cyfarfod pellach â'r prif bartneriaid er mwyn trafod hyn. Mae llawer wedi digwydd yn y maes, ond, wrth gwrs, mae yna wastad le i wella, yn arbennig ar sut ŷn ni'n codi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth am y gwaith sydd yn cael ei wneud.
Dwi'n credu'n gryf mai gyda'n gilydd mewn un llais y mae gweithredu amcanion Cymraeg 2050 i gyrraedd y filiwn yna a dyblu defnydd y Gymraeg, ac fe fydd cydweithredu â'r comisiynydd yn ganolog i hyn. Ac a gaf i ddiolch yn fawr yn gyhoeddus i'r comisiynydd am ei adroddiad cyntaf ef?
A gaf i hefyd ddechrau drwy roi fy niolch personol i Meri Huws? Hi wnaeth baratoi'r ffordd, wedi pob peth, a doedd y ffordd honno ddim bob amser yn syth ac yn llyfn: gorymateb y Gweinidog blaenorol i ddechrau'n anghywir ar safonau, erydu ei chyllideb a'i rhyddid i gyflawni ei dyletswyddau hi i hyrwyddo'r Gymraeg—nad oedd yn hawdd ymdrin â hwy. Ac i fi, yn dod at y portffolio hwn heb unrhyw gefndir a gyda sgiliau iaith Gymraeg mwy cyfyngedig, roedd ei hanogaeth a'i chefnogaeth yn rhywbeth rwyf i dal yn gwerthfawrogi. Felly, diolch yn fawr i chi, Meri.
Yn sicr, roeddem yn cytuno bod angen newid y system o ymchwilio i gwynion. Does dim llawer am hyn yn yr adroddiad hwn, fwy na thebyg oherwydd methiant y cynigion ar gyfer deddfwriaeth newydd. Fodd bynnag, fe'i codwyd eto yn adroddiad y pwyllgor diwylliant yn ddiweddar, a gobeithio bod Aled Roberts yn parhau i bwyso am ddiwygio'r system yma. Rhaid ymchwilio cwynion yn llawn, ond mewn ffordd sy'n gymesur â'u difrifoldeb, gyda chryn ddisgresiwn am farn broffesiynol, fel y dywedodd y Gweinidog, o ran y ffordd orau o ddatrys y gŵyn.
Felly, rwy'n falch o weld dau beth penodol yn yr adroddiad hwn: dealltwriaeth y gall rhai hawliau fod yn fwy gwerthfawr na rhai eraill—ac fe fyddaf yn dod nôl at hynny mewn munud—a sut y defnyddiwyd pwerau gorfodi'r comisiynydd. Rwy'n nodi amlder ac amrywiaeth y cwynion, ond ymddengys fod y pwyslais yn y rhan fwyaf ohonynt wedi bod ar berfformiad cadarnhaol y dyfodol yn hytrach na chosb am fethu, ac i safonau barhau i lwyddo, mae'n llawer gwell ein bod ni'n gweld hawliau'n cael eu harloesi'n fwyfwy, a dealltwriaeth gynyddol o pam fod hynny'n beth da, yn hytrach na chosb a drwgdeimlad.
A dyna pam roeddwn yn arbennig o falch o weld y gwaith ar ddementia. Dyma achos lle nad yw'r hawl i wasanaethau Cymraeg i lawer yn fater o ddewis, mae'n fater o angen. O ran blaenoriaethau, mae rhai hawliau yn fwy gwerthfawr na rhai eraill. Ond cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ar y gwaith hwn flwyddyn yn ôl, a dyw hi ddim yn dderbyniol i aros cyhyd am ymateb gan y Llywodraeth ar hyn. Bydd yr ymateb hwn yn sylweddol—bydd yn ein helpu i ddeall agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hawliau eraill o angen yn lle dewis: darparu therapi lleferydd, er enghraifft; cyfathrebu'n arbenigol â phobl gydag anawsterau dysgu a gwybyddiaeth; ac mae'n cadw pwnc mynediad at glinigwyr sy'n siarad Cymraeg ar agor ac yn fyw.
Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at well dealltwriaeth o rôl y comisiynydd ynglŷn â deddfu ar y cwricwlwm newydd hefyd, gweithredu'r continwwm a chreu arholiadau teg. Ac mae'r adroddiad yn cyfeirio at waith y comisiynydd ar addysg cyfrwng Cymraeg. Nawr, byddwn wedi hoffi gweld cyfeiriad penodol at fathau gwahanol o lefydd dysgu, nid dim ond cyfrwng Cymraeg, achos mae hawliau iaith Gymraeg, fel y diogelir gan y safonau, yn berthnasol i bawb, ond dydyn ni ddim eto wedi cyrraedd sefyllfa lle gallwn fod yn sicr bod dysgwyr yn gwerthfawrogi'r hawliau hynny ac yn awyddus i alw arnyn nhw.
Dwi ddim yn gwybod pam fod Llywodraeth Cymru yn cymryd cymaint o amser i gymeradwyo'r canllawiau arfer da newydd, ond dim ond hanner y stori ydyn nhw beth bynnag. Gan fod y comisiynydd bellach wedi ailgaffael y rhyddid i hyrwyddo'r Gymraeg, rwy'n gobeithio y bydd e'n hyrwyddo hawliau iaith Gymraeg i siaradwyr y dyfodol, nid yn unig y siaradwyr presennol.
Dylai pob corff sy'n gweithio yn y maes ehangach hwn—y cynghorau, ysgolion, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y mudiadau a'r mentrau—i gyd gael eu barnu yn ôl eu heffaith, nid eu gweithgareddau. A dylai'r un peth fod yn wir am y comisiynodd. Nid heddlu'r iaith yn unig yw e, wrth gwrs—mae'n un o fydwragedd Cymru ddwyieithog.
Ac, yn olaf, y gyllideb. Os yw comisiynydd y Llywodraeth yn mynd i barhau i rannu'r cyfrifoldeb am hyrwyddo, wel, felly rhaid rhannu'r arian hefyd a chynyddu'r pot. Cawn ni weld sut mae'r memorandum of understanding yn mynd i weithio. Gobeithio y bydd e.
Ond mae gyda fi rai pryderon eraill ynglŷn â'r gyllideb, yn benodol y methiant ymddangosiadol i gynllunio ar gyfer codiadau cyflog a chyfiawnhad dros y ffigur penodol ar gyfer hapddigwyddiadau. Rwy'n credu y gellid bod wedi egluro'r rheini dipyn bach yn llawnach yn yr adroddiad, ond y brif stori yw'r pwysau i ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn. Mae CWLC wedi clywed am hynny, ond os oes yna unrhyw ffordd i'r Llywodraeth a'r comisiynydd gydweithio ar gyfnod addas ar hyn, wel buaswn i'n hapus i weld hynny. Diolch.
Dwi hefyd yn diolch yn fawr iawn am yr adroddiad yma gan y comisiynydd ar y gwaith sydd wedi'i gwblhau rhwng 2018 a 2019—cyfnod sydd, fel rydyn ni wedi sôn yn barod, yn pontio cyfnod dau gomisiynydd, sef Meri Huws, sydd wedi gorffen ei thymor erbyn hyn, ac Aled Roberts, y comisiynydd hyd 2026. A hoffwn innau hefyd ddiolch yn fawr iawn i'r ddau ohonyn nhw am fod mor barod i gyfarfod yn rheolaidd ac i fy niweddaru'n gyson am waith swyddfa'r comisiynydd ar draws ei hamryfal gyfrifoldebau.
Mae'n wir i ddweud bod y cyfnod sydd dan sylw'r adroddiad yma wedi bod yn gyfnod o gryn ansicrwydd i waith y comisiynydd. Yn ystod haf 2017, fe gyhoeddodd y Llywodraeth gynigion a fyddai wedi arwain at ddileu swydd Comisiynydd y Gymraeg. Mae’n anodd credu hynny erbyn hyn, oherwydd, diolch byth, 18 mis ers i'r cynigion yna gael eu cyhoeddi, fe gafwyd tro pedol ac fe roddwyd y gorau i'r cynllun i gyflwyno Bil y Gymraeg, yn wyneb gwrthwynebiad gan wahanol sefydliadau, mudiadau, ymgyrchwyr ac arbenigwyr, a hefyd, wrth gwrs, yn wyneb tystiolaeth gadarn gafodd ei gyflwyno gan bron bob tyst fu gerbron y pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg. Mi oeddem ni ym Mhlaid Cymru hefyd yn gwrthwynebu'r bwriad, oherwydd mi fyddai o wedi arwain at wanio sylweddol ar hawliau siaradwyr Cymraeg.
Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y tro pedol yma a ddigwyddodd ac yn dweud bod bellach, a dwi'n dyfynnu, sicrwydd iddyn nhw barhau â'u gwaith. Mae angen y sicrwydd hynny. Un pryder sydd gen i ydy bod yna leihad sylweddol wedi bod yn lefelau staffio swyddfa'r comisiynydd dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf swyddogaeth bwysig y comisiynydd fel rheoleiddiwr annibynnol sy'n gyfrifol am sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg a lles cyffredinol yr iaith.
Mi fyddai ariannu swyddfa'r comisiynydd yn uniongyrchol gan y Cynulliad yn gam pwysig y gellid ei ystyried, ac yn gam pwysig ymlaen, dwi'n credu, o safbwynt rhoi sicrwydd ariannol, ond hefyd er mwyn cryfhau annibyniaeth y comisiynydd. Mae'r adroddiad yn dweud hyn am dro pedol y Llywodraeth a'r penderfyniad i barhau efo'r swydd:
'Mae’n golygu hefyd bod modd i’r Llywodraeth fwrw ymlaen i gyflwyno mwy o reoliadau safonau fydd yn ein galluogi ni i osod safonau ar sefydliadau eraill maes o law.'
Ac mae'r adroddiad hefyd yn dweud:
'Rydyn ni eisoes wedi cyflawni’r cam cyntaf o gyflwyno safonau, sef cynnal ymchwiliad safonau i’r sectorau dŵr, ynni, trafnidiaeth a thai cymdeithasol…bu’r broses…ar stop.'
Dwi wedi codi hwn nifer o weithiau, a dwi ddim yn ymddiheuro am ei godi fo eto. Yn anffodus, mae'n amlwg nad oes gan y Llywodraeth lawer o fwriad, nag yn wir ewyllys, i symud y gwaith pwysig yma ymlaen, er gwaethaf beth sydd yn y ddeddfwriaeth. Dwi wedi sôn droeon fod angen i'r Llywodraeth gyhoeddi a gweithredu amserlen i ganiatáu i'r comisiynydd osod safonau ar yr holl sectorau sy'n weddill ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a hyn er mwyn cryfhau hawliau siaradwyr, er mwyn creu mannau gwaith cyfrwng Cymraeg, ac er mwyn sicrhau cysondeb yn y fframwaith deddfwriaethol y mae cyrff yn gweithio oddi mewn iddo o ran defnyddio'r Gymraeg. A hyn oll er mwyn cynnal momentwm y gyfundrefn safonau mewn cyfnod lle rydyn ni i gyd yn deisyfu cyrraedd at y nod o filiwn o siaradwyr.
Felly, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog unwaith eto i gyhoeddi'r amserlen, ond dwi ddim yn hyderus y caf i ateb. Ac mae'n rhaid imi ddweud, mae methiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi a gweithredu amserlen ar gyfer ehangu hawliau ieithyddol, yn oes Brexit a'r holl fygythiadau sydd yn wynebu'r Gymraeg, yn fater siomedig tu hwnt.
Un maes sy'n wan iawn o ran darparu gwasanaethau Cymraeg sylfaenol ydy'r gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru. A tybed a fedrwn ni gael eglurdeb y prynhawn yma ynglŷn â dyletswyddau iaith KeolisAmey a Thrafnidiaeth Cymru a pha drafodaethau sydd yn digwydd efo'r cyrff hynny.
Ac yn olaf dwi'n troi at faes sy'n rhan o gyfrifoldebau'r comisiynydd. Rydyn ni wedi sôn amdano fo'n fras yn barod, sef cynnal ymchwiliadau statudol i gwynion. Rŵan, dwi'n sylwi bod yna gwymp sylweddol wedi bod mewn ymchwiliadau, ac rydych chi wedi esbonio rhywfaint ar hynny. Ond dydy'r Cynulliad yma ddim wedi cytuno i unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth sydd yn ymwneud â'r gyfundrefn gwynion statudol. A dwi newydd dderbyn copi o lythyr yr anfonodd y Gweinidog at Gomisiynydd y Gymraeg, ar 4 Medi eleni, yn ei longyfarch o ar lwyddo i ostwng nifer yr ymchwiliadau. Rŵan, dwi'n mawr obeithio nad ydy hynny ddim yn golygu bod yna gysylltiad rhwng y gostyngiad yn yr ymchwiliadau a newidiadau i gyllideb y comisiynydd. Hefyd, fedrwch chi esbonio sut mae hi'n briodol i Lywodraeth wneud ymdrech benodol i ddylanwadu ar reoleiddiwr annibynnol yn y fath fodd? Diolch.
Gweinidog y Gymraeg i ymateb i'r ddadl.
Jest yn fyr, diolch yn fawr i Suzy a hefyd i Siân am gymryd rhan yn y ddadl yma. Dwi yn meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod newid yn y system o ran sut i ymchwilio i gwynion yn amlwg yn rhywbeth sydd yn annibynnol—i'r comisiynydd benderfynu. Mae e'n annibynnol; fe sy'n penderfynu ar y gyfundrefn. Ond dwi yn meddwl ein bod ni i gyd yn croesawu'r ffaith bod y system yn symud yn gyflymach, ac mae hynny'n help, dwi'n meddwl, i bob un.
Mae eisiau i bob un wybod ble maen nhw'n sefyll, ond hefyd bod yn rhaid—mae'n bwysig cael rhyw fath o system yn ei le lle mae'r comisiynydd yn gallu helpu, fel roedd Suzy'n ei ddweud, ynglŷn â gweld ble mae safonau'n mynd yn y dyfodol—so, nid jest ynglŷn ag edrych yn ôl ar sut mae pethau'n cael eu gwneud nawr, ond sut y gallwn ni wella'r gwasanaeth tu fewn i'r mudiadau yma yn y dyfodol. Dwi yn meddwl bod y gwaith monitro yna a rhannu arfer da yn rili bwysig o ran beth mae'r comisiynydd yn ei wneud.
Dwi hefyd yn meddwl bod rhoi blaenoriaeth i Alzheimer's wedi bod yn rhywbeth sy'n adeiladol dros ben ar ran y comisiynydd. Ac byddwch chi'n ymwybodol, o ran Llywodraeth Cymru, ein bod ni wedi ariannu technoleg i helpu pobl i fyw gyda dementia. Mae lot o aps ac ati yn cael eu datblygu i helpu pobl yn y maes yma.
O ran hawliau, mae Suzy'n eithaf reit: dyw ein diddordeb ni ddim jest mewn siaradwyr Cymraeg presennol, ond siaradwyr Cymraeg y dyfodol. Ac oes ŷm ni eisiau cyrraedd y targed yna o 1 miliwn, mae'n rhaid inni gydnabod bod yn rhaid inni roi lot fawr yn fwy o help i'r rheini sy'n dysgu'r Gymraeg, a rhoi help iddyn nhw gael cyfle defnyddio'r Gymraeg yn eu lle gwaith neu mewn awyrgylch cymdeithasol hefyd.
Roedd arian ychwanegol wedi cael ei roi llynedd er mwyn helpu gydag arian pensiynau tu fewn i adran y comisiynydd. Ond, wrth gwrs, Suzy, rŷn ni'n awyddus i gydweithio'n agos iawn gyda'r comisiynydd lle bod hynny'n bosibl, dwi yn meddwl, a dwi'n gobeithio ein bod ni ar yr un dudalen. Dwi'n falch bod Siân Gwenllian wedi cydnabod bod y Llywodraeth wedi gwrando. Wrth gwrs, mae diddordeb gyda ni mewn datblygu beth yw'r safonau newydd. Rŷch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi dweud eisoes ein bod ni'n mynd i ddod â safonau newydd i mewn ar gyfer dŵr ac ar gyfer rhai o'r bobl sy'n gweithio yn y maes iechyd hefyd flwyddyn nesaf. Ac, wrth gwrs, dwi yn meddwl bod rhoi amserlen bendant—. Rŷch chi wedi dweud na ddylai Brexit fod yn y ffordd, ond mae Brexit yn ffordd popeth. Felly mae cloi i lawr yr union ddyddiadau, wrth gwrs, yn rhywbeth sy'n anodd.
A wnewch chi gymryd ymyrraeth?
Beth roeddwn i'n ei ddweud ynglŷn â Brexit, wrth gwrs, oedd bod Brexit yn bygwth bodolaeth yr iaith Gymraeg oherwydd ei fod o'n bygwth bodolaeth cymunedau lle mae'r iaith Gymraeg yn iaith bob dydd. Felly, dyna oedd fy nghyfeiriad i at Brexit.
Dwi ddim yn licio'r iaith yma o 'fygwth' a bod hwn yn mynd i gael—agwedd negyddol. Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni sicrhau ein bod ni'n gweithredu mewn ffordd rili positif ynglŷn â'r Gymraeg, a dyna pam beth rŷm ni wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar yw sicrhau ein bod ni'n gwneud mwy o ran cael dealltwriaeth o'r linc rhwng yr iaith Gymraeg a'r economi, ac rŷm ni wedi bod yn gwneud lot mwy o waith ar hynny yn ddiweddar, achos rŷm ni'n pryderu am y sefyllfa o ran Brexit. Ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, mae'n rhaid inni ei gydnabod. Ond mae hynny, wrth gwrs, wedyn, yn cael effaith ar yr amserlen ynglŷn â phryd rŷm ni'n mynd i ddod â'r safonau nesaf ymlaen. Ond rŷm ni wedi dweud yn glir, fel roeddwn i'n ei ddweud, fod y safonau newydd ar gyfer dŵr yn dod i mewn flwyddyn nesaf.
Ond, o ran y gyfundrefn newydd, wrth gwrs mae hynny'n rhywbeth sy'n fater i'r comisiynydd. Dŷn ni ddim wedi ymyrryd. Wrth gwrs, rŷm ni eisiau gweld pethau'n symud yn gyflymach, ac rŷm ni eisiau rhywbeth sy'n symlach, achos dyna oedd y math o dystiolaeth oedd wedi cael ei rhoi yn y pwyllgor roeddech chi'n eistedd arno. Ac roedd symleiddio yn rhywbeth a ddaeth drosodd yn glir iawn yn yr ymchwiliadau hynny. Felly, wrth gwrs, mae'n fater i'r comisiynydd; dŷn ni ddim yn ymyrryd mewn unrhyw beth sy'n ymwneud â rheoleiddio pan fo'n dod at y comisiynydd. Ond gaf i jest dweud ein bod ni yn croesawu'r adroddiad yma gan Aled Roberts? Dwi'n meddwl ei fod e wedi gwneud dechreuad arbennig o dda yn ei waith e, ac rŷm ni'n gobeithio y bydd y cydweithrediad yma yn parhau i'r dyfodol. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
A dyna ni'n dod at ddiwedd ein trafodion am y dydd. Diolch yn fawr.