1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 6 Tachwedd 2019.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu swyddi gweithwyr dur Cymru? OAQ54632
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio dull trawslywodraethol i gefnogi'r diwydiant dur a diogelu swyddi gweithwyr dur Cymru. Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi darparu buddsoddiad sylweddol i gefnogi'r diwydiant mewn meysydd allweddol, gan gynnwys datblygu sgiliau, gwelliannau amgylcheddol, ac ymchwil a datblygu.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, sydd wedi methu gwneud unrhyw beth ar ran dur, ac wedi canslo cyfarfod diweddaraf y cyngor dur yn ôl yr hyn a ddeallaf, a oedd yn hollbwysig gan nad oes un wedi'i gynnal ers 18 mis, ac nid oes ganddynt un o hyd—. Maent hefyd wedi methu cynhyrchu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer y sector dur, ac nid ydynt hyd yn oed wedi edrych ar fynd i'r afael â phroblemau mewn perthynas â chyfartalwch, yn enwedig o ran costau ynni, a bydd angen hynny arnom pan fyddwn yn wynebu marchnad fyd-eang gystadleuol yn y sector dur.
Gwn fod Llywodraeth Cymru, fel y nodoch yn hollol gywir, wedi bod yn weithgar iawn wrth gefnogi’r diwydiant hwn ac wedi bod ar flaen y gad, yn enwedig ar ran gwneuthurwyr dur o Gymru, i sicrhau bod dur yn parhau i fod wrth wraidd strategaeth ddiwydiannol Cymru. A allwch ateb p’un a yw'r amodoldeb y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar rywfaint o'r cymorth ariannol hwnnw i'r gwaith ym Mhort Talbot, yn enwedig mewn perthynas â'r £30 miliwn a ddyrannwyd i waith Port Talbot ar gyfer y gorsafoedd ynni, wedi'i fodloni, gan y bydd darparu’r arian hwnnw'n caniatáu i gam nesaf yr orsaf ynni fynd rhagddo, gan gynnwys, felly, gwell defnydd o nwy gwastraff, gwelliannau o ran safonau amgylcheddol, a chynhyrchiant mwy effeithlon ac effeithiol, a chostau is gan eu bod yn cynhyrchu eu trydan eu hunain yn hytrach na gorfod ei brynu oddi ar y grid am gostau uchel nad yw Llywodraeth y DU yn mynd i’r afael â hwy?
Diolch. Credaf fod David Rees wedi crynhoi’r sefyllfa’n dda iawn o ran diffyg arweinyddiaeth Llywodraeth y DU ar ddur a chanslo cyfarfod y cyngor dur. Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Tata, fel rydym wedi bod ers blynyddoedd lawer. Fel y nodoch, yn argyfwng dur 2016, darparwyd cyllid sgiliau o £10 miliwn gennym tuag at gynnig o £12 miliwn tuag at ddatblygu gweithlu Tata Steel. Rydym hefyd wedi cynnig tua £666,000 ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu ar ddatblygu cynnyrch newydd.
O ran yr orsaf ynni, rydym wedi cynnig buddsoddiad o £8 miliwn hyd yn hyn, ond ac eithrio'r cyllid sgiliau, ni ellir rhoi’r cyllid i Tata yn erbyn y cynigion hyn hyd nes ein bod wedi cytuno ar yr amodau cyllido. Ac yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Mai na fyddai'r fenter arfaethedig ar y cyd â Thyssenkrupp yn mynd rhagddi, mae Tata Steel bellach yn gweithio ar gynllun trawsnewid newydd ar gyfer y cwmni. Ac yng ngoleuni'r newidiadau hyn, rydym yn parhau i ymgysylltu â'r cwmni, gan gynnwys trafod cymorth posibl i'r orsaf ynni.
Fel y gwyddoch, mae Tata Steel yn Shotton yn fusnes deinamig ac yn allforiwr pwysig, ond mae'n dibynnu ar y gadwyn gyflenwi am ddur cynaliadwy Prydeinig, ac ar ddefnydd crai o'r pen trwm yn ne Cymru. Ddydd Llun, cefais e-bost, fel y gwnaeth Aelodau eraill sy'n cynrychioli'r ardal, gan Faes Awyr Heathrow, yn cyhoeddi eu bod yn un o'r 18 safle ar y rhestr fer i fod yn hwb logisteg i Heathrow, gan eu gwahodd i wneud cais ffurfiol i’r broses dendro ar gyfer gwaith ehangu Heathrow. Mewn ymateb, dywedodd eich cyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ei fod yn edrych ymlaen at barhau â gwaith Llywodraeth Cymru gyda hyrwyddwyr y safle a thîm Heathrow yn y broses ddethol hon. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud felly yn y cyd-destun hwnnw i gefnogi Tata, yn ogystal â'r porthladd yng Nghaerdydd—y cynigydd arall o Gymru ar y rhestr fer—i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd y mae hyn yn eu cynnig?
Wel, credaf fod y ffaith eu bod wedi cyrraedd y rownd nesaf yn newyddion gwych, ac rydym wedi eu cefnogi bob cam o’r ffordd, felly byddwn yn parhau i gynnig y gefnogaeth honno iddynt. Mae hwn yn fuddsoddiad rydym yn ei groesawu. Os yw’r cynllun seilwaith mawr hwn am gael ei roi ar waith yn Llundain, nid yw ond yn deg fod y buddion yn cael eu lledaenu ledled y DU.
Weinidog, dylai gwaith dur Orb yng Nghasnewydd barhau i weithredu, a chyda'r lefel gywir o gefnogaeth gan Tata Steel, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, byddai'n cael ei alluogi i gynhyrchu duroedd trydanol ar gyfer cynhyrchiant ceir trydan yn y dyfodol. Mae ymgyrch leol gref iawn ar waith i sicrhau bod gwaith Orb yn parhau i weithredu, ac yn wir, mae wedi bod yn un o nodweddion bywyd economaidd yng Nghasnewydd ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A allwch ailddatgan cefnogaeth Llywodraeth Cymru i hynny, ac a fyddech yn croesawu ymgyrch a lansiwyd heddiw gan y South Wales Argus, sydd wedi lansio deiseb o blaid cadw gwaith dur Orb?
Wel, gallaf ddweud yn glir iawn wrth John Griffiths nad yw Llywodraeth Cymru am weld gwaith dur Orb yn cau. Rydym wedi bod yn trafod gyda Tata ac Undeb Community i weld beth y gellir ei wneud. Mae Tata wedi parhau i ddadlau bod y gwaith yn gwneud colledion sylweddol a bod gorgyflenwad ym marchnad y byd, ac nad ydynt yn teimlo bod ganddo ddyfodol hyfyw. Nawr, mae Undeb Community wedi comisiynu ymgynghorwyr—Sindex—i archwilio opsiynau eraill yn lle cau Orb, ac wedi creu cynnig amlinellol, sy'n nodi, gyda chyllid Llywodraeth Cymru, ac ystod o newidiadau eraill gan y cwmni, fod dyfodol hyfyw yn bosibl. Rydym wedi derbyn crynodeb o'r cynnig hwnnw, a bydd angen i ni ddeall ei fanylion ac ymateb Tata Steel i'r argymhellion. Bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod ag Undeb Community i drafod y cynnig, a byddwn yn sicrhau ein bod yn deall yn iawn pa rôl y gallwn ei chwarae, er mwyn rhoi dyfodol hyfyw i hyn.